Lawrlwytho
Mewn datganiad i’r Senedd heddiw, galwodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, am gynghrair newydd i sicrhau bod dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn cael ei “siapio gan bobl Cymru a'u cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd".
Gwnaeth y Prif Weinidog y datganiad yn dilyn llythyr gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Andy Burnham, oedd yn ymdrin â galwadau Llywodraeth Cymru am ddatganoli pellach.
Ddydd Gwener diwethaf, ysgrifennodd Prif Weinidog y DU at Brif Weinidog Cymru ynglŷn â blaenoriaethau Llywodraeth newydd Cymru ar gyfer datganoli pellach. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei bod yn “siom enfawr” fod Prif Weinidog y DU yn gwrthod archwilio’r posibilrwydd o ddatganoli Ystad y Goron, cyfiawnder a phlismona, a seilwaith rheilffyrdd.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd:
Naw mlynedd ar hugain yn ôl, pleidleisiodd Cymru o blaid cael ei senedd ei hun. Roedd hwnnw’n un o'r penderfyniadau mwyaf tyngedfennol yn hanes modern ein cenedl, ac mae’n golygu bod pob un ohonom ni sydd yma heddiw yn cael y fraint o wasanaethu a chynrychioli pobl Cymru.
"Yn ystod y dyddiau diwethaf, dw i wedi mynegi fy siom aruthrol ynglŷn â llythyr y Prif Weinidog, ond dw i wedi cael fy nghalonogi hefyd. Dw i’n croesawu’r sylwadau sydd wedi’u gwneud gan TUC Cymru, rhai o gyn Brif Weinidogion Cymru ac Aelodau o’r Senedd, heb sôn am sut mae'r datblygiad yma wedi ailgynnau’r ddadl ar lawr gwlad ynglŷn â grymuso Cymru.
"Mae'n bryd dweud ‘ie’ dros Gymru unwaith eto. Ac mae'r Llywodraeth yma’n barod i gynnull ac arwain cynghrair newydd. Dw i’n credu y bydd cynghrair o’r fath yn dod at ei gilydd, wedi’i gwreiddio yn y gred syml ond bwerus mai pobl Cymru, drwy’r cynrychiolwyr y maen nhw wedi’u hethol yn ddemocrataidd, ddylai benderfynu dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
"Mi fydda i rŵan yn aros am ymateb y Prif Weinidog ac yn gobeithio y bydd yn ystyried y dystiolaeth annibynnol sydd o'i flaen, heb unrhyw ymyrraeth na dylanwad gan bobl nad yw lles pennaf Cymru yn flaenoriaeth iddyn nhw.
