Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn cyhoeddiad Palas Buckingham heddiw am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, dyma deyrnged gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi mynegi ei dristwch o glywed am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin ac wedi cydymdeimlo â’i Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a’r teulu Brenhinol ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd:

“Trist yw clywed am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.  Gydol oes lawn a hynod nodedig, bu’n ddiflino ac yn hael ei wasanaeth ffyddlon i’r goron.

Ar y diwrnod trist hwn, estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i’w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ei blant a’u teuluoedd hwythau.

Dyma golled i’r holl sefydliadau y rhoddodd y Dug ei wasanaeth a’i gefnogaeth iddynt, yn Noddwr ac yn Llywydd, dros gyfnod o ddegawdau.”