Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi adolygiad o dan arweiniad arbenigwyr i’r ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr adolygiad – o dan arweiniad Canolfan Cymru ar gyfer Polisi Cyhoeddus – yn edrych ar rai o’r esiamplau rhyngwladol gorau o wasanaethau a chefnogaeth ac yn gweithio gyda phobl sydd â phrofiad o wasanaethau lloches a cham-drin rhywiol, i ddatblygu model wedi’i wneud yng Nghymru sy’n darparu cefnogaeth o safon byd i ddioddefwyr trais rhywiol. 

Yn gynharach eleni, gwnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad i wneud Cymru’n arweinydd byd ym maes hawliau menywod a chydraddoldeb y rhywiau, a gwneud Cymru’r wlad fwyaf diogel yn Ewrop i fenywod. 

Heddiw, bydd y Prif Weinidog a chynghorydd cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer trais yn erbyn menywod, cham-drin domestig a thrais rhywiol, Yasmin Khan, yn ymweld â New Pathways yng Nghaerdydd ac yno byddant yn cyfarfod staff a goroeswyr. 

New Pathways, sy’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yw’r darparwr gwasanaethau trais rhywiol mwyaf yng Nghymru. 

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog: 

“Mae’n amhosibl ei ddirnad ein bod ni, yn y Deyrnas Unedig heddiw, yn ein galw ein hunain yn gymdeithas sifil ond eto mae un menyw o bob pump wedi profi trais rhywiol, ac un o bob pedair wedi profi cam-drin domestig. Does dim modd i ni adael i hyn barhau. 

“Rhaid i newid ddigwydd os yw Cymru am ddod yn arweinydd byd ym maes hawliau menywod a chydraddoldeb y rhywiau, a gwella bywydau menywod a genethod. Heddiw, rydw i’n datgan fy mwriadau i gynnal adolygiad o dan arweiniad arbenigwyr i wneud gwelliannau i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i fenywod sydd wedi’u heffeithio gan drais rhywiol, ac ail adolygiad o ddarpariaeth lloches. 

“Fel cymdeithas rydyn ni wedi cilio oddi wrth siarad am gam-drin domestig a thrais rhywiol o bob math, ond dim ond cyfrannu mae hynny at y straeon a’r wybodaeth anghywir sy’n gallu gwneud i oroeswyr bryderu am rannu eu gofidiau. Mae’n amser am newid. Po fwyaf fyddwn ni’n siarad am beth sy’n digwydd, y mwyaf fyddwn ni’n lledaenu negeseuon o gefnogaeth ac ymwybyddiaeth, gan frwydro yn erbyn hyn.” 

Hefyd cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru eto at ei gais am i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig fwrw ymlaen ar fyrder gyda mesurau a fydd yn dilysu Confensiwn Istanbul a gwneud Cymru, a’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, yn lle mor ddiogel â phosibl i fenywod. 

Drwy gytuno i basio Confensiwn Istanbul yn gyfraith, byddai’n ofynnol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig warchod cyllid ar gyfer llochesi trais domestig, canolfannau argyfwng trais a llinellau cymorth a chynnig gwasanaeth cwnsela i oroeswyr cam-drin domestig. Byddai’n sicrhau bod addysg am berthnasoedd iach yn cael ei darparu’n gyson mewn ysgolion. 

Ychwanegodd y Prif Weinidog: 

“Yng Nghymru, rydyn ni eisoes wedi bodloni holl rwymedigaethau Confensiwn Istanbul sydd oddi mewn i’n pwerau ni. Rydw i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ei hannog i bennu amserlen ar gyfer gweithredu deddfwriaeth a fydd yn caniatáu ar gyfer dilysu Confensiwn Istanbul. Mae’r Deyrnas Unedig wedi dangos ei chefnogaeth ac nawr mae’n amser i’r Prif Weinidog wynebu’i chyfrifoldeb gyda hyn a datgan yn y gyfraith ymrwymiadau i wella’r warchodaeth i fenywod a genethod. 

“Tan hynny, rydw i’n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod pob person yng Nghymru sy’n profi unrhyw fath o drais neu gam-drin rhywiol yn gallu cael y gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen, pan mae galw. 

“Rydw i mor ddiolchgar i’r goroeswyr sydd wedi cytuno i fy nghyfarfod i heddiw ac i’r rhai fydd yn cyfrannu at ein hadolygiadau ni. Rydw i’n gwybod nad yw hi’n hawdd siarad am eu profiadau ond bydd eu lleisiau’n cael eu clywed ac maen nhw’n hanfodol er mwyn newid pethau er gwell.”