Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan y Prif Weinidog ar cyhoeddiad heddiw am Heathrow.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ychwanegodd:

“Mae’n hanfodol bod pobl Cymru yn cael eu siâr o fanteision y prosiect seilwaith cenedlaethol mawr hwn. Rwy’n disgwyl y bydd y mannau glanio yn y maes awyr estynedig yn cael eu rhannu’n deg, ac rwy’n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni’r gwaith ar gyswllt rheilffordd Western Rail i Heathrow erbyn 2024.  Bydd y cyswllt newydd hwn, ynghyd â thrydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe a moderneiddio prif linell Gogledd Cymru a gorsaf Ganolog Caerdydd yn sicrhau bod pobl ac economi Cymru yn cael budd llawn o’r maes awyr estynedig yn Heathrow.<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

 

“Byddwn yn gweithio hefyd i sicrhau bod Cymru’n cael y symiau canlyniadol y mae ganddi hawl iddynt o dan fformiwla Barnett. Er ein bod yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw, rydym yn dal i bwyso am ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.”