Neidio i'r prif gynnwy

Mae arweinwyr llywodraethau Cymru a'r Alban wedi ysgrifennu llythyrau ar y cyd at Brif Weinidog y DU a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd yn eu hannog i gytuno i roi mwy o amser i graffu ar y Bil Brexit arfaethedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhaid i Lywodraeth y DU geisio cydsyniad deddfwriaethol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban ar gyfer Bil y Cytundeb Ymadael.

Mae'r llythyr at Brif Weinidog y DU yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau estyniad i broses Erthygl 50 gan y Cyngor Ewropeaidd er mwyn rhoi digon o amser i'r ddwy ddeddfwrfa gyflawni eu swyddogaethau cyfansoddiadol a democrataidd yn briodol.

Mae'r Prif Weinidogion hefyd wedi ysgrifennu at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd yn rhoi gwybod iddo ei bod yn ofynnol i Lywodraeth y DU gael cysyniad deddfwrfeydd Cymru a'r Alban. Ar ben hynny, mae'r Prif Weinidogion yn dweud eu bod yn cefnogi estyniad sy'n ddigon hir i ganiatáu cynnal refferendwm – gyda'r opsiwn o aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio.

Mae'r llythyr at Brif Weinidog y DU yn datgan:

"Y Bil hwn fydd un o'r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i gael ei ystyried erioed gan Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn effeithio'n ddirfawr ar y Deyrnas Unedig yn gyfan a'n llesiant yn y dyfodol.

"Mae'n llywodraethau ni yn credu y bydd y cytundeb yr ydych wedi'i negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd hyd yn oed yn fwy niweidiol i Gymru, yr Alban a'r Deyrnas Unedig na'r cytundeb annerbyniol blaenorol a wnaed gan eich rhagflaenydd.

"Mae'n hanfodol bwysig i'ch llywodraeth barchu datganoli, y broses cydsyniad deddfwriaethol ac unrhyw benderfyniadau o ran cydsyniad gan Senedd yr Alban a'r Cynulliad Cenedlaethol."