Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd prosiect ymchwil ac arloesi mawr sy'n dod â myfyrwyr ôl-raddedig a busnesau yng Nghymru at ei gilydd yn ehangu, ar ôl derbyn dros £9 miliwn o gyllid ychwanegol gan Ewrop.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae'r Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS II) wedi bod yn gweithredu yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru dros y tair blynedd diwethaf, ac mae'n cysylltu partneriaid busnes â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu ymchwil arloesol sydd â'r nod o ysgogi twf busnes.

Bydd y £9 miliwn ychwanegol o gyllid gan yr UE yn gweld y cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys Cymru gyfan, a bydd yn cefnogi gwaith ymchwil cydweithredol yn sectorau allweddol economi Cymru, gan gynnwys y Gwyddorau Bywyd, Uwch Beirianneg a Deunyddiau, Ynni Carbon Isel, TGCh a'r Economi Ddigidol.

Bydd yr ehangu hefyd yn galluogi 260 o fyfyrwyr ôl-raddedig arall i elwa ar gyfleoedd i ddatblygu fel ymchwilwyr proffesiynol fel rhan o raglenni ymchwil graddau meistr a PhD sy'n cael eu hariannu'r drwy'r cynllun.

Dywedodd Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am brosiectau yng Nghymru sy'n derbyn cyllid gan yr UE:

"Mae'n newyddion gwych y bydd cannoedd mwy o fusnesau'n elwa ar gydweithio â'n prifysgolion ar brosiectau ymchwil a datblygu, ac y bydd pobl ifanc dalentog yng Nghymru yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd lefel uwch.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i alinio ymchwil ag anghenion busnesau bach ac ysgogi lefelau uwch o sgiliau yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae'n enghraifft arall o sut mae Cymru yn elwa ar gyllid yr UE, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewid i roi cyllid arall ar waith yn lle'r cyllid a gollir ar ôl Brexit."

Ers iddo gael ei lansio yn 2016, mae cynllun KESS II eisoes wedi cefnogi gwaith ymchwil a datblygu cydweithredol mewn dros 400 o fusnesau yng Nghymru.

Dywedodd Yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor dros dro Prifysgol Bangor:

"Yn KESS mae gennyn ni gynllun cydweithredol llwyddiannus iawn sydd wedi rhoi Cymru ar y map, ac rydyn ni'n adeiladu ar y dalent a'r wybodaeth sydd yn ein prifysgolion, ein busnesau a sefydliadau eraill i ddatblygu syniadau sy'n arloesol ac yn ysbrydoli.

Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn rhoi cyfle inni i gyfrannu ymhellach at y gwaith o ddatblygu economi wybodaeth Cymru, ac at ein ffyniant yn y dyfodol, ar yr un pryd â chael effaith wirioneddol ar fywydau'r myfyrwyr sy'n cyfranogi".

Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan yr UE wedi creu 47,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru, wrth hefyd helpu dros 85,000 o bobl i gael swyddi.