Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Prifysgol Bangor yn manteisio ar £2.8m arall o gyllid yr UE ar gyfer canolfan wyddoniaeth ac arloesi newydd i roi hwb i ddiwydiant pysgod cregyn Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyllid yr UE yn cefnogi ymchwil gwyddonol a thechnoleg i sefydlu y Nghanolfan Pysgod Cregyn y Brifysgol, er mwyn helpu'r diwydiant i dyfu yng Nghymru.

Bydd yn helpu i sicrhau gwelliannau i ansawdd dŵr arfordirol; mabwysiadu technoleg a dulliau cynhyrchu newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd - pob un yn flaenoriaethau i ddiwydiant pysgod cregyn Cymru.

Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Forol Cymru, bydd y Ganolfan Pysgod Cregyn yn adeiladu ar ragoriaeth Prifysgol Bangor mewn gwyddorau arfordirol a morol. 

Dros y tair mlynedd nesaf, disgwylir i tua 20 o fusnesau Cymru gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil gwyddonol i gefnogi twf y diwydiant pysgod cregyn. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:

"Mae ymchwil wedi'i hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan hanfodol bwysig i fanteisio i'r eithaf ar yr arbenigedd o fewn ein prifysgolion er mwyn i fusnesau Cymru fod ar y blaen o ran gwyddoniaeth a thechnoleg.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella gallu busnesau i gystadlu, gan arwain at ddatblygu diwydiant pysgod cregyn cryf a chynaliadwy yng Nghymru." 

Dywedodd  yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Dyma ddiwydiant gwerthfawr sydd eisoes yn dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru, ac sydd â'r potensial i dyfu ymhellach gyda chymorth arbenigedd technolegol ac ymchwil wyddonol ein prifysgolion."

Ychwanegodd yr Athro Lewis Le Vay o Brifysgol Bangor:

"Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o ymchwil ar y cyd â chynhyrchwyr pysgod cregyn Cymru, ac rydyn ni'n falch iawn bod y fenter newydd a chyffrous hon yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar y berthynas gynhyrchiol iawn hon.

"Ein nod hirdymor yw i waddol y Ganolfan Pysgod Cregyn fod yn sector cynhyrchu a phrosesu pysgod cynaladwy a chynyddol yng Nghymru. Gyda chymorth partneriaeth o wyddoniaeth ac arloesi, bydd y fenter hon yn gosod cynhyrchwyr pysgod cregyn Cymru ar y blaen yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol."

Dywedodd James Wilson, cynrychiolydd Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor:

"Bydd ein gallu i wrthsefyll effaith Brexit yn dibynnu'n rhannol ar ddealltwriaeth wyddonol o'r radd flaenaf am ein hadnoddau a'r amgylchedd morol. Dylai'r buddsoddiad hwn yn y ganolfan pysgod cregyn helpu i gyflawni hyn."