Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch am y tarfu presennol ar gyflenwadau meddyginiaethau, a'r rhesymau pam mae hyn yn digwydd.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae unrhyw darfu ar gyflenwad meddyginiaeth yn peri pryder i'r bobl sydd ei hangen a'u clinigwyr. Fel arfer, mae'r anawsterau hyn yn effeithio ar gyfran fach iawn o feddyginiaethau yn y GIG. Gellir rheoli'r prinder gan mwyaf heb amharu ar gyflenwadau pobl.

Y rhesymau y tu ôl i brinder meddyginiaethau

Mae prinder meddyginiaethau'n digwydd oherwydd y canlynol:

  • cynnydd yn y galw, sy'n mynd y tu hwnt i gapasiti'r gwneuthurwr
  • tarfu ar ddeunyddiau crai
  • problemau gweithgynhyrchu

Datganoli a phrinder meddyginiaethau

Fel mater a gedwir yn ôl, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw cynnal y cyflenwad o feddyginiaethau i'r DU. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gydlynu ddigwydd rhwng y DU, y llywodraethau datganoledig, a'r GIG er mwyn rheoli'r effeithiau ar gleifion ac ar y GIG. Mae'n golygu ein bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, rhagnodwyr, a fferyllfeydd.

Dewisiadau cleifion yn ystod prinder meddyginiaethau

Mae pob fferyllfa yn cyrchu ei chyflenwad o feddyginiaethau o rwydwaith o fferyllfeydd cyfanwerthu. Yn eu tro, mae'r rhain yn cyrchu meddyginiaethau oddi wrth amrywiaeth o weithgynhyrchwyr. Ar adegau o gyflenwi ysbeidiol, mae'n bosibl y bydd meddyginiaethau'n cyrraedd fferyllfeydd gwahanol ar wahanol adegau. Efallai y bydd angen i chi fynd â'ch presgripsiwn i fwy nag un fferyllfa i gael eich meddyginiaeth.

Dylai pobl y mae’n anodd iddynt gael eu meddyginiaeth drafod dewisiadau eraill gyda'u clinigydd.

Ceir rhagor o wybodaeth trwy wefan y Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.

Protocolau prinder difrifol

Fel arfer, rhaid i fferyllydd ddarparu'r feddyginiaeth a'r dos fel y maen nhw'n cael eu hysgrifennu ar y presgripsiwn. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod dewisiadau eraill a fyddai'n addas, y gellir eu defnyddio ar adegau o gynnydd mawr yn y galw. Mewn achosion felly, gall Llywodraeth y DU gyhoeddi 'protocol prinder difrifol'.

Mae protocol prinder difrifol yn caniatáu i fferyllydd roi meddyginiaeth addas arall a allai fod yn wahanol i'r feddyginiaeth sydd ar y presgripsiwn. Gallai hyn olygu dim ond cyfnewid tabledi a chapsiwlau, neu roi brand gwahanol o'r un feddyginiaeth.

Mae'r protocolau prinder difrifol presennol i'w gweld yma.