Neidio i'r prif gynnwy

Prisiadau TB

Sut i baratoi ar gyfer y prisiad?

Gwnewch yn siŵr bod yr anifeiliaid ar gael i'r prisiwr eu harchwilio'n hawdd. Gwnewch yn siŵr bod yr holl waith papur ategol ar gael - pasbort, y ffurflen TR531 wedi'i llenwi, sef y dystysgrif Diagnosis ar gyfer Gwartheg Cyflo (PDC) ar gyfer unrhyw wartheg cyflo, unrhyw ddogfennau pedigri ac ati. Rhaid i ddyddiad yr archwiliad ar bob PDC fod o fewn 90 diwrnod i'r prisiad, neu nid yw'r PDC yn ddilys.

*Cofiwch, rhaid i'r dystysgrif Diagnosis ar gyfer Gwartheg Cyflo (PDC) fod ar y ffurflen TR531 gan eich milfeddyg ac mae ei hangen ar gyfer yr holl wartheg cyflo. Bydd methu â darparu PDC TR531 wedi'i chwblhau'n gywir yn arwain at brisio’r anifail fel un nad yw’n gyflo waeth pa mor amlwg y gallai fod. Ni dderbynnir unrhyw fath arall o ffurflen neu ddogfen fel prawf, mae'n rhaid iddo fod y TR531*

Mae ffurflen TR531 ynghlwm yn Atodiad 1 ac ar gael ar y dudalen we fel bod pawb yn gyfarwydd â sut mae'n edrych.

Beth sy'n digwydd os nad yw'r pasbort yn cael ei gyflwyno yn y prisiad?

Os nad yw'r pasbort yn cael ei gyflwyno mewn prisiad, gellir prisio’r anifail o hyd ond mae gan y perchennog 10 diwrnod o ddiwrnod y prisiad i'w ddarparu i APHA.

Os na fydd APHA yn cael y pasbort o fewn y cyfnod o 10 diwrnod, bydd gwerth DIM yn cael ei gadarnhau a bydd taliad iawndal o £1 yn cael ei dalu.

Os gwrthodwyd pasbort i wartheg, os dirymwyd eu pasbort, neu os oes gan yr anifail Hysbysiad Cofrestru CPP35, yna ystyrir nad oes gan yr anifail dan sylw unrhyw werth ar y farchnad.

Yr unig eithriad i hyn yw gwartheg 37 diwrnod oed neu iau. Mae gan berchnogion gwartheg 27 diwrnod i gyflwyno cais am Basbort Gwartheg, a dylent ganiatáu 10 niwrnod ar gyfer derbyn pasbort gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain. Oherwydd hyn, pennir pris i wartheg 37 diwrnod oed neu iau os nad oes pasbort ar y fferm ar adeg prisio. Er y byddai angen lladd anifail o’r oedran hwn ar y fferm, oherwydd na ellir mo’i symud heb basbort, caiff iawndal ei dalu ar sail y gwerth ar y farchnad ar adeg pennu’r pris.

Ni allaf gyflwyno fy anifeiliaid ar y diwrnod hwnnw, a allaf i ei newid?

Mae APHA yn ceisio darparu ar gyfer amseroedd prisio / dyddiadau i gyd-fynd ag argaeledd y ffermwr. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl oherwydd logisteg trefnu priswyr a chludwyr.

Gan nad oes angen llofnod gan y perchennog yng Nghymru, gall cynrychiolydd o ddewis y ffermwr fod ar y daliad i gyflwyno'r anifeiliaid a rhoi unrhyw waith papur perthnasol sydd ei angen ar gyfer y prisiad.

Ydy'r prisiwr yn gymwys i brisio fy anifeiliaid?

Mae pob prisiwr a benodwyd ar fframwaith prisio Llywodraeth Cymru yn gymwys ac yn brofiadol o ran prisio anifeiliaid. Bydd APHA, ar ran Llywodraeth Cymru (LlC) yn penodi prisiwr wedi’i gontractio sydd â phrofiad priodol o fframwaith y priswyr i wneud pob prisiad. Mae gan bob prisiwr sydd wedi’i gontractio sy'n gweithio ar ran APHA/LlC o leiaf 8 mlynedd o brofiad o brisio’r math o anifail dan sylw. Nid yw APHA yn anfon priswyr i arfarnu stoc nad ydynt yn gymwys i'w prisio.

Cefais fwy ar gyfer fy anifeiliaid gan y prisiwr blaenorol ... Rydw i eisiau'r un hwnnw eto

Mae APHA yn dyrannu'r prisiwr drwy fini-fframwaith. Mae pob prisiwr yn gyfarwydd â phrisiau presennol y farchnad y mae martiau gwartheg yn eu cyhoeddi. Mae prisiau'r farchnad yn amrywio ac, o ganlyniad, felly mae prisiadau’n amrywio hefyd. Nid yw'r prisiwr a'r prisiad a ddewisir yn agored i drafodaeth, nid yw'n agored i apêl ac nid yw staff APHA mewn sefyllfa i’w newid chwaith.

A oes rhaid i'r ffermwr lofnodi prisiadau?

Nac oes. Nid oes rhaid i ffermwyr lofnodi prisiadau, nid oes gan lofnod unrhyw ddylanwad ar y prisiadau.

Pwy sy'n gwirio bod y prisiadau'n gywir?

Mae priswyr yn destun gwaith monitro parhaus gan banel monitro sy'n cael eu penodi gan LlC. Maent yn asesu'r wybodaeth a ddarperir gan y prisiwr i wneud yn siŵr bod prisiad yn cyd-fynd â gwerth diweddaraf ar y farchnad a gallant ofyn i briswyr gyfiawnhau eu prisiadau ar unrhyw adeg.

Fel rhan o'r broses gyfiawnhau gofynnir i briswyr ddarparu tystiolaeth o'r rhesymau penodol a arweiniodd at roi gwerth ar y farchnad. Gall tystiolaeth gynnwys copïau o gofnodion gwerthu anifeiliaid tebyg sy'n cael eu gwerthu ar lefel y DU, a chymharu lotiau penodol sy'n cael eu gwerthu mewn martiau penodol ar ddyddiadau penodol.

Mae priswyr yn broffesiynol ac nid ydynt yno i gynnal trafodaethau am y prosesau na'r polisïau. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu adborth at APHA i weithredu yn unol â hynny.

Iawndal

Pryd y byddaf i'n cael fy nhalu?

Pan fydd y taliad yn barod i'w brosesu bydd APHA yn anfon llythyr atoch yn dweud bod y taliad wedi'i anfon at LlC i'w brosesu. O'r pwynt hwn bydd yn cymryd 10 diwrnod gwaith i gyrraedd eich cyfrif banc. Nid yw hyn yn cynnwys penwythnosau na Gwyliau Banc.

Os ydych, ar ôl y 10 diwrnod gwaith, wedi edrych ar eich cyfrif banc ac yn dal heb dderbyn taliad, gallwch wedyn anfon e-bost at BovineTB@llyw.cymru gan nodi eich cyfeirnod cwsmer (CRN) / rhif y daliad (CPH) a'r dyddiad talu disgwyliedig i LlC ymchwilio.

Gwneir taliadau TB drwy ddefnyddio system dalu Taliadau Gwledig Cymru (RPW), felly mae cael CRN gweithredol a manylion banc cyfredol yn hanfodol.

Os oes angen i chi wirio bod eich manylion yn gywir, gallwch ffonio RPW ar 0300 062 5004.

Mae'r staff APHA a LlC yr ydych yn siarad â hwy yn ystod yr achos o TB yn dilyn y polisïau a nodir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r holl staff yn deall y straen y gallech fod oddi tano, a byddant yn helpu pryd bynnag y bo modd, ond ni ddylai aelodau staff ddioddef ymddygiad treisgar, bygythiol na difrïol.

Cefnogaeth a chymorth:

Beth os oes angen cymorth arnaf?

Mae cael achos o TB yn gyfnod anodd iawn i bawb sy'n gysylltiedig.
Mae help ar gael a dyma fanylion sefydliadau sy’n gallu rhoi cymorth: