Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 12 Gorffennaf 2019.

Cyfnod ymgynghori:
2 Mai 2019 i 12 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Gwelwch ddogfen ymateb lawn y llywodraeth, ynghyd â'r asesiad effaith a'r ymateb i Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, ar GOV.UK.

Manylion am y canlyniad

Crynodeb gweithredol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 167 KB

PDF
167 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a'r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn ceisio barn ar y cyd ar brisio carbon yn dilyn Brexit.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae System Masnachu Allyriadau'r UE (EU ETS) yn rhan hanfodol o bolisi'r UE i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae'n arf allweddol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn modd cost-effeithiol.

Rydym yn ymgynghori ar gynllun masnachu allyriadau yn y DU (UK ETS) sy'n gysylltiedig â System Masnachu Allyriadau'r UE (EU ETS).

Mae cynllun cysylltiedig yn caniatáu

  • mynediad i farchnad fwy
  • mwy o gyfleoedd lleihau
  • gostyngiadau allyriadau mwy cost-effeithiol i fusnesau yn y DU

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn amlinellu opsiynau wrth gefn, gan gynnwys:

  • y DU yn cyflwyno ei ETS DU ei hun
  • cyflwyno treth ar garbon
  • cymryd rhan yng ngham 4 o'r EU ETS

Digwyddiadau

Fel rhan o raglen ar y cyd o ddigwyddiadau rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i fynychu un o'r digwyddiadau rydym wedi'u trefnu: 

  • Llundain, 22 Mai
  • Gogledd Iwerddon, 30 Mai
  • Gogledd Cymru (Cyffordd Llandudno), 03 Mehefin: cofrestrwch yma  
  • De Cymru (Abertawe), 05 Mehefin: cofrestrwch yma
  • Yr Alban, 12 Mehefin

I sicrhau eich lle, bydd angen i chi gofrestru cyn 28 Mai 2019.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK