Neidio i'r prif gynnwy

Camau gweithredu angenrheidiol

Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: CTandNDR.Consultations@llyw.cymru

Diben yr ymgynghoriad

Yn hanesyddol mae eiddo amlfeddiannaeth yng Nghymru wedi cael ei brisio a'i fandio at ddibenion y dreth gyngor fel eiddo wedi'i gydgasglu, sy'n golygu eu bod yn cael eu bandio fel arfer fel eiddo unigol ag 1 band treth gyngor ac mai perchennog yr eiddo sy'n atebol am dalu'r dreth gyngor yn hytrach na'r meddiannydd. 

Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac oherwydd mwy o amrywiaeth yn y mathau o eiddo ar gyfer tai amlfeddiannaeth, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o rai achosion ledled Cymru a Lloegr lle mae tai amlfeddiannaeth wedi'u prisio heb eu cydgasglu, sy'n golygu bod pob uned unigol o feddiannaeth yn yr eiddo yn cael ei hasesu ac y rhoddir band treth gyngor iddi, gyda phob meddiannydd eiddo amlfeddiannaeth yn atebol am dalu'r dreth gyngor.

Nododd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru fwriad polisi i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn adfer y dull polisi hirsefydlog o ymdrin â'r dreth gyngor ar gyfer tai amlfeddiannaeth, oherwydd yr effaith andwyol y gall cydgasglu ei chael ar berchnogion a meddianwyr. Er mwyn rhoi mwy o sicrwydd a chysondeb o ran y ffordd y caiff tai amlfeddiannaeth eu trin at ddibenion y dreth gyngor yng Nghymru, gwahoddodd Llywodraeth Cymru sylwadau ar gynigion i gyflwyno newidiadau:

  • er mwyn egluro y dylai tai amlfeddiannaeth barhau i gael eu bandio fel eiddo unigol ag 1 band treth gyngor
  • er mwyn sicrhau mai perchennog/landlord yr eiddo amlfeddiannaeth fydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor o hyd yn hytrach na'r meddiannydd

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiynau am y diffiniad o dai amlfeddiannaeth a'r ffordd y dylid eu trin at ddibenion y dreth gyngor, a ddylid cydgasglu mathau eraill o eiddo amlfeddiannaeth ac a oes mathau eraill o eiddo y dylid eu diffinio fel eiddo amlfeddiannaeth a'u cydgasglu.

Cynigiodd yr ymgynghoriad ddau offeryn statudol drafft i roi'r cynigion polisi ar waith, sef:

  • Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) (Cymru) 2025 (‘y Rheoliadau Anheddau Trethadwy’) i ddisodli Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992 (‘Gorchymyn 1992’).
  • Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Cymru) 2025 (‘y Rheoliadau Atebolrwydd Perchenogion’) i ddisodli Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992 (‘Rheoliadau 1992’).

Mae'r newidiadau arfaethedig yng Nghymru yn dilyn newidiadau a wnaed yn Lloegr yn 2023 drwy Reoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy ac Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Lloegr) 2023.

Y broses ymgynghori

Gwahoddwyd sylwadau fel rhan o ymgynghoriad 12 wythnos, a ddechreuodd ar 4 Medi 2024 a ddaeth i ben ar 26 Tachwedd 2024. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar dudalennau ymgynghoriadau gwefan Llywodraeth Cymru. Gallai'r ymatebwyr gyflwyno eu safbwyntiau a'u sylwadau yn Gymraeg a Saesneg, drwy'r post, drwy e-bost neu gan ddefnyddio ffurflen ymateb ar-lein. Cafodd y ddolen i'r ymgynghoriad ei hanfon drwy e-bost i amrywiaeth eang o randdeiliaid.

Mae pob un o'r ymatebion wedi cael eu hystyried a'u dadansoddi ac mae'r adroddiad hwn yn ceisio cyflwyno'r holl safbwyntiau a themâu a ddarparwyd mewn ymatebion i'r ymgynghoriad.

Roedd yr ymgynghoriad hwn ond yn gymwys i Gymru.

Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Cafodd yr ymgynghoriad gyfanswm o 103 o ymatebion. 

Cwestiwn 1

Pwy a ymatebodd i'r ymgynghoriad?

Categori a nifer y ymatebwyr
Categori'r ymatebyddNifer yr ymatebwyr
Perchennog eiddo/Landlord81
Meddiannydd2
Corff proffesiynol neu gorff cynrychioliadol5
Aelodau o'r cyhoedd7
Awdurdod lleol3
Arall5
Cyfanswm103

Lle na roddodd ymatebwyr enw sefydliad, tybir iddynt ymateb fel unigolion ac maent wedi'u dosbarthu'n aelodau o'r cyhoedd.

Ceir rhestr o'r ymatebwyr heblaw'r rhai a ofynnodd am fod yn ddienw yn Atodiad A. Lle y gofynnodd ymatebwyr inni beidio â chyhoeddi eu manylion, fe'u nodir fel 'Dienw'.

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cytuno â pholisi Llywodraeth Cymru i ddarparu dull cyson o drin tai amlfeddiannaeth at ddibenion y dreth gyngor, gan sicrhau y caiff eiddo amlfeddiannaeth ei gydgasglu a'i drin fel annedd unigol?

Roedd y cwestiwn yn cynnig opsiwn 'ydw' neu 'nac ydw' a chyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Cymharol gymysg oedd dewis yr ymatebwyr i'r cwestiwn 'ydw' neu 'nac ydw', gyda 43% yn dewis 'ydw', 54% yn dewis 'nac ydw' a 3% heb ateb 'ydw' na 'nac ydw'. Darparodd y rhai a atebodd yn gadarnhaol sylwadau yn mynegi cefnogaeth o blaid cynnig Llywodraeth Cymru i roi dull cyson o drin tai amlfeddiannaeth at ddibenion y dreth gyngor ar waith, gan sicrhau y caiff eiddo amlfeddiannaeth ei gydgasglu a'i drin fel annedd unigol.

Roedd awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu'r cysondeb y byddai'r dull hwn o weithredu yn ei sicrhau wrth brisio eiddo amlfeddiannaeth. Roedd sawl corff proffesiynol a chorff cynrychioliadol megis Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl a Propertymark hefyd yn croesawu'r cynigion. Roedd sylwadau gan ymatebwyr yn awgrymu y byddai un bil treth gyngor wedi'i gydgasglu yn helpu i wneud system y dreth gyngor yn llai cymhleth i landlordiaid a thenantiaid. Cyfeiriodd un landlord eiddo amlfeddiannaeth at degwch y cynnig i brisio pob eiddo amlfeddiannaeth fel eiddo unigol ag un band treth gyngor.

Roedd yr adborth gan rai perchenogion eiddo a landlordiaid i'r cwestiwn hwn yn fwy cymysg, gyda rhai yn gwrthwynebu bwriad y polisi. Fodd bynnag, roedd llawer o'r pryderon a fynegwyd mewn sylwadau ysgrifenedig fel petaent yn deillio o gamddealltwriaeth o'r newidiadau arfaethedig. Roedd y sylwadau yn awgrymu bod darllenwyr o'r farn y byddai'r cynigion i adfer y dull o gydgasglu eiddo amlfeddiannaeth yn effeithio'n gyffredinol ar landlordiaid pob eiddo, a fyddai'n dod yn atebol am dalu'r dreth gyngor eu hunain, a fyddai'n arwain at gostau uwch a beichiau gweinyddol. Fodd bynnag, roedd cynigion yr ymgynghoriad yn ceisio sicrhau y byddai'r dull presennol a hirsefydlog o drin eiddo amlfeddiannaeth yn parhau yn system y dreth gyngor. 

Cafwyd nifer o sylwadau ychwanegol hefyd ynghylch system y dreth gyngor yn fwy cyffredinol ond roeddent y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad.

Cwestiwn 3

Ydych chi'n cytuno â'r diffiniad arfaethedig o dai amlfeddiannaeth at ddibenion y dreth gyngor fel y'i nodir yn y Rheoliadau drafft?

Yn debyg i gwestiwn 1, roedd cyfran uwch o'r ymatebwyr (57%) yn anghytuno â'r diffiniad arfaethedig o dai amlfeddiannaeth fel y'i nodwyd yn yr ymgynghoriad, na drafft atodedig Rheoliadau Anheddau Taladwy 2025 a drafft Rheoliadau Atebolrwydd Perchenogion 2025. Fodd bynnag, ni chynigiwyd diffiniadau amgen. Gwnaeth y mwyafrif o'r ymatebwyr i'r cwestiwn hwn naill ai ailadrodd pwyntiau cynharach a wnaed neu gyflwyno sylwadau a oedd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. 

Nododd llawer o'r ymatebwyr (35%), gan gynnwys perchenogion a landlordiaid, awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o'r sector eu bod o blaid y diffiniad a nodwyd yn y rheoliadau drafft. Roedd CLlLC yn croesawu’r cysondeb a’r tryloywder i dalwyr ardrethi. Nododd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid y byddai'r diffiniad yn lleihau amwysedd. Roedd Propertymark yn croesawu'r cynnig i gynnwys diffiniad clir er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson.

Roedd nifer bach o ymatebwyr (4%) yn cytuno â bwriad y polisi i hepgor blociau o fflatiau a addaswyd o'r diffiniad o eiddo amlfeddiannaeth.

Nodwyd un awgrym i ddiwygio paragraff 2 o'r prawf safonol ar gyfer tai amlfeddiannaeth. Fodd bynnag, fe'i diffinnir yn Neddf Tai 2004 ac, felly, mae y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. 

Cwestiynau 4 a 5

A oes mathau eraill o eiddo nas cynhwysir yn y diffiniad o dai amlfeddiannaeth yn y Rheoliadau drafft y dylid ei gydgasglu a'i drin fel annedd unigol at ddibenion prisio a bandio ar gyfer y dreth gyngor?

A oes unrhyw fathau eraill o eiddo nas diffinnir ar hyn o bryd y gellid eu hystyried i'w trin fel annedd unigol at ddibenion prisio a bandio ar gyfer y dreth gyngor?

Ni nododd yr ymatebwyr i'r cwestiwn hwn unrhyw fathau ychwanegol o eiddo y dylid eu cynnwys yn y diffiniad o dai amlfeddiannaeth a oedd wedi'i nodi yn y Rheoliadau drafft. Yn yr un modd, ni chafodd unrhyw fathau eraill o eiddo y tu hwnt i'r rhai a oedd eisoes wedi'u diffinio eu cynnig i'w cydgasglu i'w trin fel annedd unigol at ddibenion prisio a bandio ar gyfer y dreth gyngor. 

Cwestiwn 6

Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar y cynnig?

Dewisodd llawer o ymatebwyr beidio ag ateb y cwestiwn hwn, neu roedd eu sylwadau y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad. Ymhlith y rhai a ymatebodd, ailddatganodd rhai eu cefnogaeth i'r dull gweithredu arfaethedig mewn cwestiynau cynharach, gydag eraill yn ailadrodd pryderon cynharach. Ni chodwyd unrhyw bwyntiau newydd mewn ymateb i'r cwestiwn hwn.

Cwestiynau 7 ac 8 am y Gymraeg

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau posibl y gallai'r cynigion ar gyfer tai amlfeddiannaeth eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

  • cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Eglurwch hefyd sut y gellid datblygu'r cynigion ar gyfer tai amlfeddiannaeth, yn eich barn chi, er mwyn sicrhau:

  1. eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  2. nad ydynt yn cael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Ni roddodd nifer mawr o ymatebwyr ateb i'r cwestiynau hyn (67%). O'r rhai a roddodd ateb, nid oedd rhai ymatebwyr yn sicr ynghylch effeithiau'r polisi arfaethedig ar y Gymraeg, ac ni chredai rhai y byddai'n cael unrhyw effaith ar y Gymraeg. 

Y camau nesaf

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud newidiadau a fydd yn adfer y dull hirsefydlog o brisio tai amlfeddiannaeth yng Nghymru fel eiddo unigol at ddibenion y dreth gyngor, a sicrhau bod y rheolau hynny yn cyd-fynd â'r rhai yn Lloegr. Caiff diweddariad ar sut mae'r gwaith hwn yn datblygu ei gyhoeddi maes o law.

Atodiad a: rhestr o'r ymatebwyr

  • AGMW Property Ltd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Kingsway Upholsterers and Furnishers
  • Mr Julian and Mrs Kay Keogh Building Account
  • Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl
  • Peace of mind properties
  • Propertymark
  • Sherbrook Associates Ltd
  • Tain Investments Ltd
  • Training for Professionals
  • Varcity Living Limited
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cafwyd 25 o ymatebion gan unigolion preifat
  • Gofynnodd 66 o ymatebwyr am gael aros yn ddienw