Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei dadansoddiad o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA), dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles, bod Llywodraeth y DU yn anghyfrifol i ddweud bod canlyniadau eu dewisiadau gwleidyddol yn rhai ‘annisgwyl’.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er bod y TCA yn cynnig yr eglurder sydd mawr ei angen ar ein perthynas fasnachu yn y dyfodol, rydym nawr yn wynebu rhwystrau a chymhlethdodau newydd wrth i ni ymdrin â’r UE, ac mae ansicrwydd yn dal i fodoli mewn nifer o feysydd allweddol.

Mae nifer o’r rhwystrau a’r cymhlethdodau newydd hynny bellach wedi dod i’r amlwg, sef:

  • busnesau yn gorfod ymdopi â lefelau ychwanegol o fiwrocratiaeth a rhwystrau nad ydynt yn dariffau
  • porthladdoedd yn pryderu na fydd nifer y llwythi yn dychwelyd i lefelau blaenorol, wrth i gludwyr ddewis llwybrau mwy uniongyrchol i’r cyfandir a rhai busnesau yn stopio gwerthu i Ewrop yn gyfan gwbl
  • ni fydd cerddorion ac artistiaid yn gallu teithio yn Ewrop
  • ein sector bwyd môr ar ei liniau yn sgil biwrocratiaeth newydd.

Heddiw, cyhoeddir Y Berthynas Newydd â’r UE – Beth mae’n ei olygu i Gymru, sy’n egluro’n glir beth sydd wedi newid ers i ni adael y cyfnod pontio a sut y gallai hynny effeithio ar ddinasyddion yng Nghymru. Mae hefyd yn cyfeirio pobl a busnesau at gyngor, gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol, gan gynnwys ein tudalennau Paratoi Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Er y byddwn yn parhau i ddadlau dros gael perthynas gryfach ac agosach â’r UE yn y tymor canolig i’r tymor hir, ni all y rhwystrau newydd a’r tensiwn cynyddol rydym yn ei wynebu wrth fasnachu gyda’n cymdogion Ewropeaidd, ac wrth deithio i Ewrop, gael eu diystyru fel dim ond ‘camgymeriadau’ anfwriadol y gellid eu datrys yn gyflym – maent yn deillio o ddewisiadau gwleidyddol Llywodraeth y DU”.

“Does dim amheuaeth bod yr amgylchiadau gweithredu ar gyfer ein busnesau wedi newid yn ddramatig ddiwedd mis Rhagfyr – a bydd hyn yn parhau i gael effaith sylweddol ar ein cymunedau a’n busnesau. Bydd hyn yn ein niweidio ni i gyd, wrth i’r amodau masnachu gwaethaf effeithio ar swyddi ac incwm, ac mae’r cytundeb hefyd yn cau’r drws ar gyfleoedd i fyw ac i weithio mewn mannau eraill yn Ewrop.

“Ac mae’n hollol anghyfrifol i Lywodraeth y DU honni bod rhai o’r nifer o anfanteision sydd eisoes wedi dechrau dod i’r amlwg, yn rhai ‘annisgwyl’, ac mai problemau cychwynnol yn unig ydynt. Canlyniadau rhagweladwy ydynt yn bennaf – ac yn ganlyniadau a ragwelwyd – sy’n deillio o syniad afreal Llywodraeth y DU o osod sofraniaeth uwchben lles economaidd pobl Cymru a gweddill y DU. Fel rydym wedi dweud drwy gydol y cyfnod negodi, nid oedd yn rhaid i ni ymadael â’r UE yn y ffordd hon.

“Ond wrth i ni wynebu’r cyfnod heriol hwn, rwyf am eich sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i’ch cefnogi chi wrth i ni fynd i’r afael â’r rhwystrau ychwanegol hyn sy’n atal ein ffyniant. Byddwn hefyd yn parhau i geisio sicrhau bod y DU yn meithrin cydberthnasau agored a chroesawgar gyda’r byd yn ehangach, gan roi lles ein pobl wrth galon hynny.”