Neidio i'r prif gynnwy

Procurex Cymru 2025 a gynhelir ddydd Mawrth 4 Tachwedd yn Arena Utilita yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Procurex Cymru 2025 yw'r digwyddiad caffael cenedlaethol sy'n dod â phrynwyr y sector cyhoeddus, cyflenwyr y sector preifat, dylanwadwyr polisi ac arweinwyr masnachol o bob cwr o Gymru ynghyd.

Mae'r digwyddiad undydd hwn, sy’n cael ei gefnogi’n swyddogol gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle i gysylltu, dysgu a chydweithio ar draws y dirwedd caffael a chadwyn gyflenwi. Gyda gwariant blynyddol y sector cyhoeddus dros £10.7 biliwn, mae Procurex Cymru yn fforwm allweddol ar gyfer archwilio sut y gall caffael gefnogi'r gwaith o ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, canlyniadau cymunedol a thwf economaidd hirdymor.

Pwy ddylai fynd i’r digwyddiad?

Mae Procurex Cymru yn rhad ac am ddim i weithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus fynd iddo ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer:

  • Timau caffael a masnachol ar draws llywodraeth ganolog a lleol, addysg, tai, iechyd a gwasanaethau brys
  • Arweinwyr polisi a strategaeth sy'n llunio dulliau caffael y dyfodol
  • Rheolwyr cynaliadwyedd ac arloesi sy'n cyflawni newid ar raddfa
  • Gweithwyr proffesiynol y gadwyn gyflenwi sy'n awyddus i ddeall anghenion prynwyr a chyfleoedd sydd i ddod

Anogir cyflenwyr y sector preifat, o ddarparwyr fframwaith sefydledig i BBaChau sy'n dod i mewn i'r farchnad, i fynd hefyd.

Gyda gofynion newydd y Ddeddf Caffael a Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd yn dod i rym ym mis Chwefror eleni a'r mesurau ychwanegol, sy'n benodol i Gymru, a fydd yn cael eu cyflwyno cyn bo hir trwy'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), mae Procurex Cymru’n gyfle perffaith i dimau caffael a chyflenwyr ymgyfarwyddo â’r newidiadau diweddaraf a'r hyn y maent yn ei olygu i'w sefydliadau.

Uchafbwyntiau'r digwyddiad

Cynhadledd Caffael Cymru

Mae Cynhadledd Caffael Cymru, a gyflwynir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn ganolbwynt i'r digwyddiad, gan gynnig rhaglen lawn o drafodaethau a arweinir gan bolisïau a chipolygon penodol i’r sector. Bydd y gynhadledd yn archwilio themâu megis:

  • Gwerth cymdeithasol ac adeiladu cyfoeth cymunedol
  • Arloesi a thrawsnewid digidol
  • Amrywiaeth cyflenwyr ac ymgysylltu â busnesau bach a chanolig
  • Strategaethau Cynaliadwyedd a Sero Net
  • Gwydnwch masnachol a rheoli risg

Dysgwch fwy am raglen y gynhadledd yma.

Parthau Datblygu Sgiliau

Bydd gan y rhai fydd yn bresennol fynediad i bedwar Parth Datblygu Sgiliau pwrpasol, pob un yn cynnig sesiynau dysgu, gweithdai a chyflwyniadau wedi'u teilwra i fynd i'r afael â heriau cyfredol a heriau'r dyfodol mewn caffael:

  • Y Parth Arloesi a Thechnoleg
  • Y Parth Caffael Cynaliadwy a Chymdeithasol
  • Y Parth Cydweithio a Phartneriaeth
  • Y Parth Rheoli Contractau a Risg

Mae'r parthau hyn yn cynnwys arweinwyr meddwl o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ac yn cynnig offer ymarferol i gefnogi datblygiad parhaus a chanlyniadau masnachol gwell.

Arddangosfa cynnyrch

Mae'r llawr arddangos yn dod â dros 80 o gyflenwyr sy'n cynnig cynhyrchion a gwasanaethau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r sector cyhoeddus ynghyd. Mae'n cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer ymgysylltu cynnar â'r farchnad, arddangosiadau byw, a sgyrsiau ystyrlon ynghylch arloesi, gwerth am arian a chyfrifoldeb cymdeithasol.

Pafiliwn Llywodraeth Cymru a Phartneriaid Strategol

Bydd Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru unwaith eto yng nghanol y digwyddiad, gan gynnig cyfle i gynrychiolwyr siarad yn uniongyrchol â llunwyr polisi ac arweinwyr fframwaith. Yn ogystal â Thîm Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru a GwerthwchiGymru, bydd cynrychiolwyr yn gallu cwrdd â chynrychiolwyr o:

  • Adra Tai Cyfyngedig, Ffram 24
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gwasanaeth EdTech a Fframwaith Grŵp Bwyd Cydweithredol Sector Cyhoeddus Cymru (WPSCFG)
  • Cyngor Caerdydd, gwasanaeth caffael Ardal, Fframweithiau Adeiladu Cydweithredol SEWTAPS a SEWCAPS
  • Cyngor Sir Caerfyrddin, Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru
  • Cyngor Sir Ddinbych, Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru

Mae partneriaid eraill sydd wedi cadarnhau y byddant yn bresennol yn Procurex Cymru 2025 yn cynnwys:

  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol De Cymru

Mae rhestr lawn o bartneriaid y digwyddiad i’w gweld yma.

Cadwch eich lle

Mae Procurex Cymru yn cynnig cyfle unigryw i godi eich golygon o’ch gwaith o ddydd i ddydd a chymryd rhan yn y drafodaeth ehangach am ddyfodol caffael cyhoeddus yng Nghymru. P’un a ydych â’ch bryd ar wella arferion, ehangu eich rhwydwaith neu ddeall tueddiadau’r farchnad, mae’r digwyddiad hwn yn werthfawr tu hwnt.

Gall cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus archebu eu tocyn rhad ac am ddim yma.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan swyddogol y digwyddiad.