Neidio i'r prif gynnwys

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r data diweddaraf sydd ar gael ar fentrau twristiaeth, cyflogaeth ac enillion twristiaeth, yn ogystal ag allbwn cysylltiedig â thwristiaeth (Gwerth Ychwanegol Gros (GVA)) yng Nghymru. Mae’n seiliedig ar ddiffiniad Croeso Cymru o ddiwydiannau twristiaeth a lletygarwch gan ddefnyddio Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) y DU. Mae’n diweddaru proffil 2024 gan ddefnyddio’r tablau diweddaraf a ddarparwyd (ar gyfer 2023 i 2025 lle bo’r rhain ar gael).

Ar wahân, mae VisitBritain wedi cyhoeddi Adroddiad ar Werth Economaidd Twristiaeth sy’n cynnwys ffigurau ar gyfer Cynnyrch Domestig Gros (GDP) Twristiaeth a swyddi a gefnogir yng ngwledydd a rhanbarthau’r DU. Ar gyfer Cymru, roedd y GDP Twristiaeth yn £5.9bn yn 2024, gan gefnogi 109,000 o swyddi.

I gyfrifo’r ffigurau hyn, defnyddiodd VisitBritain amcangyfrifon o nifer yr ymwelwyr a’r gwariant a gafwyd o’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS) ac Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS). Maent yn cynnwys gwybodaeth am ymweliadau undydd ac arosiadau dros nos, yn ogystal â phreswylwyr y DU sy’n teithio dramor (teithiau allan). Mae amcangyfrif o’r gwariant ar deithio i’r DU gyda chludwyr o’r DU wedi cael ei ychwanegu at ddata gwariant ‘yn y gyrchfan’ gan yr IPS. Mae’r gwerthiant uniongyrchol a gynhyrchir gan weithgarwch twristiaeth, sy’n hafal i wariant ymwelwyr, wedyn yn cael ei redeg drwy fodel Mewnbwn-Allbwn i amcangyfrif yr effeithiau canlyniadol ar yr economi ehangach. Mae hyn yn galluogi VisitBritain i gyflwyno canlyniadau am effaith Twristiaeth ar GDP, cyflogaeth a threth. Felly, mae adroddiad VisitBritain yn ymdrin ag ystod ehangach o effeithiau sy’n deillio o wariant ymwelwyr: gan gynnwys gwariant uniongyrchol ymwelwyr, GDP, swyddi, ac effeithiau cyllidol (treth) yn yr economi ehangach. Yn wahanol i GVA, mae Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn cynnwys trethi ar gynnyrch a chymorthdaliadau, sy’n golygu ei fod yn fesur ehangach o weithgarwch economaidd.

Mae’r dull hwn yn rhoi darlun mwy cynhwysfawr o gyfraniad twristiaeth at yr economi, yn enwedig mewn sectorau fel lletygarwch, manwerthu a thrafnidiaeth, lle mae trethi cynnyrch (er enghraifft TAW) yn rhan sylweddol o’r gwariant terfynol. O ganlyniad, nid oes modd cymharu’r gwerthoedd a nodir yn adroddiad VisitBritain yn uniongyrchol â ffigurau sy’n seiliedig ar GVA yn yr adroddiad hwn. Yn ogystal, mae adroddiad VisitBritain yn cynnwys ffigurau ar gyfer swyddi a gefnogir, sy’n dod o fodel perchnogol; ac eto, nid oes modd cymharu’r ffigurau hyn â’r data yn yr adroddiad hwn, sy’n dod o ffynonellau cyflogaeth swyddogol.

Diffiniad o’r diwydiannau twristiaeth

Defnyddir Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol) i ddosbarthu sefydliadau busnes yn ôl eu math o weithgarwch economaidd. Gellir ei ddefnyddio fel ffordd gyfleus o ddosbarthu gweithgareddau diwydiannol mewn strwythur cyffredin.

At ddibenion yr adroddiad hwn, mae Croeso Cymru yn defnyddio cyfres SIC y DU o isadrannau, dosbarthiadau ac is-ddosbarthiadau i gynrychioli’r diwydiannau twristiaeth yng Nghymru. Darperir manylion llawn yn yr adroddiad hwn a’r tablau.

Is-sectorau’r Diwydiant Twristiaeth

Mae Croeso Cymru yn dynodi 7 is-sector twristiaeth allweddol yng Nghymru:

  1. Llety i ymwelwyr
  2. Gweithgareddau gwasanaethau bwyd a diod
  3. Gweithgareddau chwaraeon a hamdden
  4. Gweithgareddau diwylliannol
  5. Trafnidiaeth i deithwyr
  6. Asiantaethau teithio a gweithgareddau archebu eraill
  7. Gweithgareddau twristiaeth penodol i’r wlad

Mae'r codau a'r is-godau SIC cyfatebol ar gyfer y DU yn cael eu dangos yn adran y Nodiadau yn yr atodiad.

Lletygarwch yn y Diwydiannau twristiaeth

Caiff lletygarwch ei drin fel is-set o’r diwydiannau twristiaeth ac fe’i diffinnir gan ddefnyddio detholiad o is-ddosbarthiadau SIC (gweler y tab Nodiadau yn yr Atodiad am fanylion). Oni nodir yn wahanol, mae’r cyfansymiau ar gyfer y diwydiannau twristiaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys gweithgareddau lletygarwch a gweithgareddau twristiaeth nad ydynt yn ymwneud â lletygarwch.

Cwmpas y data

Mae’r adroddiad yn cyflwyno data ar gyflogaeth a mentrau cofrestredig ar gyfer y diwydiannau twristiaeth yn gyffredinol, gan gynnwys yr is-sector lletygarwch, ac ar gyfer sectorau eraill.

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer cyflogaeth a mentrau yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r diffiniad manwl seiliedig ar SIC a amlinellir uchod, ac felly ystyrir eu bod yn rhoi mesur cymharol fanwl o weithgarwch sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru.

Amcangyfrifon GVA ac enillion

Yn wahanol i ddata cyflogaeth a mentrau, mae amcangyfrifon o GVA ac enillion yn gyfyngedig oherwydd y data sydd ar gael. Yn benodol, nid yw’r data hwn ar gael ar lefel fanylach y dosbarth neu’r is-ddosbarth SIC sy’n angenrheidiol i gyd-fynd yn llawn â diffiniad Croeso Cymru o ddiwydiannau twristiaeth.

O ganlyniad, adroddir ar GVA gan ddefnyddio saith isadran SIC, ac mae 4 ohonynt yn cyfateb yn llawn i’r diwydiannau twristiaeth fel y’u diffinnir yn yr adroddiad hwn. Mae gweddill yr is-adrannau wedi’u cynnwys ar y sail eu bod yn ymwneud yn bennaf â thwristiaeth, er eu bod hefyd yn cynnwys rhywfaint o weithgarwch nad yw’n ymwneud â thwristiaeth.

Mae data enillion yn cael ei gyhoeddi ar lefel is-adrannau SIC ond mae’n cael ei gyflwyno yma ar lefel adrannau ehangach SIC, sy’n gwella cadernid a dibynadwyedd yr amcangyfrifon. Yn ymarferol, mae 2 adran SIC yn mapio’n uniongyrchol ar 6 o’r is-adrannau SIC a ddefnyddir yn y dadansoddiad GVA, ac adroddir ar yr isadran sy’n weddill ar wahân. Ceir rhagor o fanylion yn adran y Nodiadau yn yr atodiad.

Cymaroldeb a chyfyngiadau

Dylid ystyried y gwahaniaethau mewn darpariaeth SIC rhwng ffynonellau data wrth ddehongli’r canlyniadau. Yn benodol, nid oes modd cymharu amcangyfrifon GVA ac enillion yn uniongyrchol â’r rhai ar gyfer cyflogaeth a mentrau, gan eu bod yn seiliedig ar grwpiau diwydiant ehangach a llai manwl.

Felly, dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth gymharu’r mesurau hyn ac ystyried amcangyfrifon GVA ac enillion fel arwydd o weithgarwch economaidd sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yn hytrach na’u bod yn cyfateb yn union i’r ffigurau cyflogaeth a mentrau sydd wedi’u diffinio’n fanylach.

Nodiadau technegol

Prif ganfyddiadau

Roedd twristiaeth yn cyfrif am tua 150,000 o swyddi yng Nghymru yn 2024 (11.1% o gyflogaeth). Roedd hyn wedi gostwng ers 2023, pan oedd yn 156,000 (11.5%). Gostyngiad mewn swyddi lletygarwch oedd yn bennaf gyfrifol am hyn (90,000 yn 2023 ac 83,000 yn 2024). Fodd bynnag, cafodd hyn ei wrthbwyso’n rhannol gan dwf mewn cyflogaeth ym maes llety (26,000 yn 2023 a 29,000 yn 2024).

Mae cyfran y gweithwyr rhan-amser yn dal yn sylweddol uwch ym maes twristiaeth (56.6%) o’i gymharu â phob diwydiant (34.9%).

Mae cyflogaeth ym maes twristiaeth wedi’i dosbarthu’n anghyson o hyd, gyda’r crynodiadau uchaf fel canran o’r diwydiant yn siroedd Ynys Môn (20.8%) Conwy (20%) a Sir Benfro (20%), a’r isaf yn Wrecsam (6.5%) a Blaenau Gwent (6.6%); bu gostyngiadau o un flwyddyn i’r llall ym mhob awdurdod lleol ac eithrio Castell-nedd Port Talbot (9% yn 2024 ac 8.7% yn 2023) a Thorfaen (8.1% yn 2024 a 7.7% yn 2023).

Roedd 12,745 o fentrau twristiaeth yn 2025, sef 11.9% o’r holl fentrau yng Nghymru, sy’n golygu rhywfaint o dwf o’i gymharu â 2024 (11.8%). Busnesau bach sy’n dominyddu’r sector, gyda bron i bedwar o bob pump yn cyflogi llai na 10 o bobl.

Mae enillion canolrifol mewn sectorau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yn dal yn is na chyfartaledd Cymru.

Cynhyrchodd diwydiannau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth tua £3.5 biliwn mewn GVA yn 2023, sy’n cyfateb i 4.3% o gyfanswm GVA Cymru.

Cyflogaeth a swyddi gweithwyr yn 2024

Mae’r adran hon yn defnyddio gwybodaeth o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i lunio ystadegau cyflogaeth swyddogol. Mae data BRES yn cynnwys cyflogeion busnesau a gweithwyr hunangyflogedig os ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer cynlluniau TAW neu Dalu wrth Ennill (PAYE). Mae pobl hunangyflogedig nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer y rhain, ynghyd â’r Lluoedd Arfog a’r hyfforddeion a gefnogir gan y Llywodraeth, wedi’u heithrio.

Roedd cyfanswm y gyflogaeth yng Nghymru yn 1.35 miliwn yn 2024. Roedd y gyflogaeth ym maes twristiaeth yn 150,000 (11.1%), sy’n ostyngiad o’i gymharu â 2023 pan oedd yn 156,000 (11.5%). Gostyngodd lefelau cyflogaeth yn y sector twristiaeth ychydig o un flwyddyn i’r llall, wedi’i sbarduno’n bennaf gan ostyngiadau ym maes lletygarwch (90,000 yn 2023; 83,000 yn 2024) er bod cyflogaeth ym maes llety wedi cynyddu (26,000 yn 2023, 29,000 yn 2024).

Tabl 1. cyflogaeth yng Nghymru ar gyfer Pob Diwydiant, Cyfanswm Twristiaeth, Llety, Lletygarwch ac Arall, 2024
Diwydiant 2021202220232024
Pob diwydiant1,334,0001,334,0001,354,0001,349,000
Twristiaeth143,000159,000156,000150,000
% o’r gyflogaeth yng Nghymru10.7%11.9%11.5%11.1%
Llety23,00026,00026,00029,000
% o’r gyflogaeth yng Nghymru1.7%1.9%1.9%2.1%
Lletygarwch82,00091,00090,00083,000
% o’r gyflogaeth yng Nghymru6.1%6.8%6.6%6.2%
Arall 38,00042,00039,00038,000
% o’r gyflogaeth yng Nghymru2.8%3.1%2.9%2.8%

Ffynhonnell: Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth

Mae cyflogaeth twristiaeth wedi’i dosbarthu’n anghyson yn ddaearyddol, gyda’r crynodiadau uchaf yn awdurdodau lleol Ynys Môn, Conwy a Sir Benfro (20.0 i 20.8 o ganran y diwydiant), a’r isaf yn Wrecsam a Blaenau Gwent (6.5% a 6.6% yn y drefn honno).

Tabl 2. cyflogaeth yn y diwydiant twristiaeth yn ôl ardal awdurdod lleol, 2023 i 2024
Awdurdod lleol2021202220232024
Cymru - Pob Diwydiant1,334,0001,334,0001,354,0001,349,000
Cymru - Twristiaeth143,000159,000156,000150,000
Abertawe11,00013,00013,00012,000
Blaenau Gwent1,7502,0002,0001,250
Bro Morgannwg6,0007,0007,0006,000
Caerdydd23,00026,00025,00023,000
Caerffili4,5004,5005,0004,500
Casnewydd7,0007,0007,0007,000
Castell-nedd Port Talbot4,0004,5004,5004,500
Ceredigion4,0005,0004,5004,500
Conwy8,0009,0009,0009,000
Gwynedd9,00011,00011,00011,000
Merthyr Tudful2,2502,2502,5002,500
Pen-y-bont ar Ogwr5,0006,0006,0006,000
Powys7,0007,0008,0008,000
Rhondda Cynon Taf7,0008,0008,0007,000
Sir Benfro9,00010,00010,00010,000
Sir Ddinbych5,0006,0005,0005,000
Sir Fynwy4,5005,0005,0004,500
Sir Gaerfyrddin7,0008,0007,0007,000
Sir y Fflint7,0006,0006,0006,000
Torfaen3,0003,0003,0003,000
Wrecsam4,0004,5004,0004,000
Ynys Môn4,5005,0005,0005,000

Ffynhonnell: Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth 

Enillion yn 2025

Mae’r adran hon yn defnyddio data o’r Arolwg Blynyddol SYG o Oriau ac Enillion sy’n samplu swyddi cyflogeion o gofnodion cynllun Talu wrth Ennill CThEF. Cesglir data bob blwyddyn yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ym mis Ebrill yn y flwyddyn adrodd. Sylwch mai data dros dro yw data enillion 2025.

Cododd y cyflog canolrifol yr awr yng Nghymru ar draws pob diwydiant i £16.61 yn 2025. Roedd cyflogau yn y sectorau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yn dal yn is na’r cyfartaledd hwn, gyda gwasanaethau llety a bwyd yn £12.47 a’r celfyddydau, adloniant a hamdden yn £14.18.
 

Mentrau yn 2025

Mae’r adran hon yn defnyddio gwybodaeth o’r Gofrestr Busnes Rhyngadrannol (IDBR) (SYG), o fis Mawrth ymlaen bob blwyddyn. Menter yw’r cyfuniad lleiaf o unedau cyfreithiol (fel arfer yn seiliedig ar gofnodion TAW a/neu gynllun Talu wrth Ennill) sydd â rhywfaint o ymreolaeth o fewn grŵp o unedau cyfreithiol dan berchnogaeth gyffredin.

Dim ond y busnesau hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW neu gynllun Talu wrth Ennill y mae data’r IDBR yn eu cynnwys, felly ni fydd masnachwyr unigol sy’n is na’r trothwy TAW wedi’u cynnwys (oni bai eu bod wedi cofrestru’n wirfoddol).

Gostyngodd nifer y mentrau yng Nghymru ychydig yn 2025, i 106,955 (107,185 yn 2024). I’r gwrthwyneb, cynyddodd nifer y mentrau twristiaeth yn gymedrol i 12,745 (12,615 yn 2024). Roedd cyfrannau mentrau twristiaeth o’u cymharu â phob diwydiant ar eu huchaf yng Ngwynedd a Chonwy ac ar eu hisaf yn Nhorfaen a Wrecsam.

Roedd mentrau twristiaeth yn cynrychioli 11.5% (12,745) o fentrau cofrestredig yng Nghymru yn 2025. Lletygarwch oedd i gyfrif am y gyfran fwyaf o fentrau (60%), yna Arall (dim llety 32%), a Llety yn olaf (15%). Mae gan bedwar o bob pump (79%) o fentrau twristiaeth lai na 10 o gyflogeion.

Yn rhanbarthol, Gogledd Cymru oedd â’r gyfran uchaf o fentrau gyda 13.2%, yna’r De-orllewin (12.4%), y Canolbarth (10.2%) a’r De-ddwyrain (11.5%).

Atgoffir diwydiannau mai dim ond busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW neu gynllun Talu wrth Ennill y mae’r IDBR yn eu cynnwys. Mae’n bosibl bod gan dwristiaeth a/neu letygarwch gyfran uwch na’r cyfartaledd o fasnachwyr unigol nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW ac na fyddent yn ymddangos yn y ffigurau hyn. Mae ffynonellau data cyflogaeth eraill, fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn cynnwys gweithwyr hunangyflogedig a busnesau nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer cynllun Talu wrth Ennill neu TAW.

Gwerth Ychwanegol Gros (GVA)

Sylwer mai data dros dro yw data GVA 2023. Atgoffir defnyddwyr i nodi’r gwahaniaeth rhwng diffiniadau’r Diwydiant Twristiaeth a ddefnyddir ar gyfer GVA wrth edrych ar y ffigurau hyn ochr yn ochr â’r rhai ar gyfer cyflogaeth a mentrau.

Cyfrannodd yr is-adrannau SIC sy’n gysylltiedig â thwristiaeth £3.5 biliwn at economi Cymru yn 2023. Daeth y cyfraniadau mwyaf o wasanaethau bwyd a diod (£1.7 biliwn) a llety (£0.9 biliwn).

Manylion cyswllt

Awduron: Phil Nelson

Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Ywchwil Twristiaeth
Croeso Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru 

Rhif ymchwil cymdeithasol: 93/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-465-2

GSR logo