Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Datganiad

Mae tystiolaeth gref i gefnogi profi'r holl breswylwyr a'r staff mewn cartref gofal os oes achosion newydd o COVID-19, ond bydd gwerth y profi hwn yn lleihau dros amser o'r adeg y nodir yr achosion. Dylid ymdrin â'r broses ar gyfer profi yn ystod argyfwng mewn cynlluniau gweithredol.

Unwaith y bydd yr achosion cychwynnol mewn cartrefi gofal drosodd, ceir tystiolaeth o blaid gwerth sgrinio rheolaidd a dethol ar gartrefi gofal, a chynnal profion gwyliadwriaeth ar staff cartrefi gofal.

Mae tystiolaeth bod achosion o COVID-19 nad ydynt wedi'u hadrodd eto oherwydd bod y bobl heintiedig yn asymptomatig neu'n bresymptomatig. Felly, byddai'n werthfawr profi mewn cartrefi gofal dethol nad ydynt wedi rhoi gwybod am achosion, fel y gallwn ddeall pa mor gyffredin yw'r achosion hyn.

Gall fod yn werthfawr cynnal arolwg amgylcheddol ar yr un pryd ag y cynhelir prawf torfol ar gyfer COVID-19 ar boblogaeth cartref gofal.

Ceir rhywfaint o dystiolaeth y bydd staff sy'n gweithio mewn mwy nag un cartref gofal ar y tro yn cynyddu'r risg o haint.

Mae tystiolaeth gref y dylid dod ag unedau profi symudol i gartrefi gofal, er mwyn atal cludo torfol diangen yn achos staff a phreswylwyr.

Ystyriaethau

1. Profi

Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â phrofion PCR (Troednodyn 1), er y gellid cyflwyno profion gwrthgyrff pan ddaw'n hyfyw. Gallai hyn fod yn fuddiol pan fydd gan gartref gofal fwy nag un achos dros amser.

2. Fectorau clefyd allanol

Nid yw cartrefi gofal yn systemau caeedig ac mae risg gynhenid y caiff COVID-19 ei gyflwyno drwy bwyntiau mynediad. Yn y sefyllfa bresennol, nid oes ymweliadau teuluol, felly gellir rhagdybio bod fectorau yn gyfyngedig i breswylwyr a staff sy’n dod i ben. Deellir mai protocol presennol GIG Cymru yw profi pob preswylydd sy'n dychwelyd o'r ysbyty, a'u trosglwyddo i'r cartref gofal dim ond os dychwelir canlyniad negyddol. Byddai hyn yn awgrymu mai'r staff a'r preswylwyr newydd yw'r prif gludwyr allanol ar gyfer haint.

3. Fectorau haint mewnol

Mae'n debygol y bydd gan gartrefi gofal mesur uchel o drosglwyddo heintiau yn fewnol oherwydd symudedd a natur anrhagweladwy'r cleifion (Troednodyn 2). Dengys tystiolaeth ansoddol nad yw bob amser yn bosibl ynysu achosion symptomatig unigol heb achosi niwed neu drallod.Felly, os oes achosion yn bodoli eisoes mewn cartref gofal, mae angen tybio bod y feirws ar bawb a gweithredu yn unol â hynny, ni waeth a gaiff profion torfol eu rhoi ar waith ai peidio. Gellid nodi pwyntiau trosglwyddo cyswllt y tu mewn i gartref gofal gyda gwyliadwriaeth a phrofi amgylcheddol, i ddangos pa arwynebau neu ardaloedd sydd â lefelau uchel o goronafeirws hyfyw.

4. Nifer presennol yr achosion

Mae'r tebygolrwydd bod COVID-19 yn bresennol ym mhob cartref gofal yng Nghymru yn fwy na sero. Heb set gyflawn o ddata arolygon, nid oes tystiolaeth o fynychder gwaelodlin. Os yw rhai cartrefi gofal nad ydynt wedi adrodd am achos yn cael un prawf torfol, yna bydd y canlyniadau'n rhoi cipolwg ar amlder tebygol y clefyd yn y sector cartrefi gofal. Bydd hyn yn galluogi Rt i gael ei gyfrif mewn cartrefi gofal yng Nghymru, a bydd yn grymuso cartrefi gofal unigol i symud i batrwm atal a monitro. Os gwneir hyn mewn ffordd ymatebol, gellid casglu'r sylfaen wybodaeth ynghylch cyfraddau trosglwyddo staff yn gymharol gyflym, er bod rhywfaint o ansicrwydd posibl ynghylch amrywiadau rhanbarthol.

5. Gwerth profi dros amser

Os nodir achosion o'r clefyd, bydd yr ynysu a'r profion torfol cyntaf ar y staff a'r preswylwyr yn fwyaf buddiol os byddant yn digwydd o fewn 24 awr i adrodd ar yr achosion (Troednodyn 3). Po hwyaf y bydd yn cymryd i gwblhau prawf torfol a phrofion amgylcheddol cysylltiedig, lleiaf tebygol yn y byd ydyw y gall y canlyniadau helpu i adnabod ac ynysu unigolion asymptomatig.

6. Dylai'r profion ddod i gartrefi gofal

Yn hytrach nag i'r gwrthwyneb. Mae trigolion cartrefi gofal yn llawer mwy tebygol o ddioddef trwy gael eu symud (Troednodyn 4).

Footnotes

[1] Gelwir hefyd yn brofion antigen a phrofion diagnostig yn y wasg gyfredol. Yng Nghymru, rydym yn defnyddio Profion Adwaith Cadwynol Polymerasau amser real meintiol (Q-RTPCR).

[2] Cassell, Middleton, Nalabanda, et al. (2018) Scabies outbreaks in ten care homes for elderly people: a prospective study of clinical features, epidemiology, and treatment outcomes. Lancet Infect Dis 18;8.
Kinyanjui, Middleton, Guteel, Cassell, Ross, House (2018) Scabies in Residential Care Homes: Modelling, inference and interventions for well-connected population sub-units. PLoS Comp Biol 14:3.

[3] WHO recommendations on rapid testing for diagnosis 2005, Xingfei et al, Viral Load of SARS-COV-19.

[4] Holder J, Jolley D. Forced relocation between nursing homes: Residents' health outcomes and potential moderators. Reviews in Clinical Gerontology, 2012; 22, 301-319. doi:10.1017/S0959259812000147