Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ffigurau cenedlaethol

Achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau rhwng 21 a 27 Mehefin 2020

Atgyfeiriwyd 452 o achosion positif at y system olrhain cysylltiadau. Roedd 334 o achosion yn gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Roedd 118 o achosion yn anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae'r mwyafrif o'r rhain yn achosion a ddigwyddodd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

O blith y 334 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 270 (81%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar.

Cysylltiadau agos a nodwyd rhwng 21 a 27 Mehefin 2020

Cafodd 659 o bobl eu nodi fel cysylltiad agos. Roedd 620 o gysylltiadau agos yn gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Roedd 39 o gysylltiadau agos yn anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol.

O blith y 620 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 518 (84%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth.

Mae’r ffigurau yma yn ymwneud â phob cysylltiad agos a nodwyd rhwng 21 a 27 Mehefin. Efallai y bydd rhai a nodwyd gan achosion cadarnhaol wedi'u cyfeirio at y system olrhain cysylltiadau cyn 21 Mehefin. Gall y ffigurau hefyd gynnwys rhai cysylltiadau agos sy'n gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a nodwyd gan achosion cadarnhaol a gafodd eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol i’w rheoli ymlaen. Mae achosion a ddatryswyd yn cynnwys nifer fach o achosion lle nodir yr un cyswllt ag achosion cadarnhaol lluosog cydamserol. Ar yr adegau hyn, bydd timau olrhain cyswllt yn gweithio o’r un cofnod sy'n ymwneud â'r cyswllt hwnnw ac yn marcio'r cofnodion ychwanegol fel y'u datryswyd. 

2. Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 2,616 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. Mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, bydd y dull adrodd cronnol yn canolbwyntio ar ddata o 21 Mehefin 2020 ymlaen.

3. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cymerwyd data o'r system olrhain cysylltiadau digidol cenedlaethol yn ystod cyfnod cynnar ei weithrediad. Ar hyn o bryd ni chofnodir rhywfaint o weithgarwch yn gyson ar draws rhanbarthau gwahanol ac felly ni chaiff ei gofnodi yn y ffigurau a gyflwynir yma. Byddwn yn parhau i adolygu y cyflwyniad a chwmpas y data a gyflwynir yn y datganiad hwn wrth i ansawdd data wella.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 17:45 ar 1 Gorffennaf 2020. Tynnwyd y data hyn 4 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a atgyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain.

Mae nifer yr achosion a atgyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol na nifer yr achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd gwahaniaethau mewn amseru a lefel y dilysiad. Caiff data amrwd o'r system brofi mewn labordai eu bwydo i'r system olrhain cysylltiadau a all, er enghraifft, gynnwys achosion positif a nodwyd o'r blaen. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu data at ddibenion gwyliadwriaeth ac yn defnyddio data o gylch amser sefydlog i sicrhau cysondeb adrodd a hefyd yn dilysu'r data i ddileu achosion a nodwyd o’r blaen. Rydym yn gwneud gwaith pellach i ddeall ac esbonio'r gwahaniaethau hyn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, meant wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses casglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 9:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 9 Gorffennaf.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jon Ackland
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 71/2020