Neidio i'r prif gynnwy

1. Beth yw olrhain cysylltiadau?

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu y Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau dangos symptomau o coronafeirws (COVID-19), dylent drefnu prawf mor gyflym â phosibl wrth iddyn nhw, a'r bobl sy'n byw yn yr un tŷ â nhw, hunanynysu. Mae olrhain cysylltiadau yn ddibynnol ar brofion yn cael eu cymryd yn gyflym. Ar ôl cael canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy roi gwybod i'r swyddog olrhain cysylltiadau lleol am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a gofyn iddynt hunanynysu (a chymryd prawf os ydynt hefyd yn dangos symptomau), er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain.

2. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Rhwng 28 Mehefin a 4 Gorffennaf:

  • o blith y 253 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 206 (81%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 540 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 461 (85%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth

Yn gyfan gwbl, ers 21 Mehefin:

  • o blith y 582 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 480 (82%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 1,156 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 1,011 (87%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth
Tabl 1: Achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau, hyd at 4 Gorffennaf 2020
  Wythnos ddiweddaraf 28 Mehefin i 4 Gorffennaf Cyfanswm cronnus 21 Mehefin i 4 Gorffennaf
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 253 582
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 97 219
Cyfanswm  350 801

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Mae'r mwyafrif o achosion anghymwys i'w holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, y cyrhaeddwyd 81% o'r rhai a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol ac ni chyrhaeddwyd 19% ohonynt. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cyrhaeddwyd 82% ac ni chyrhaeddwyd 18%.

Tabl 2: Pobl a gadarnhawyd yn gysylltiadau agos, hyd at 4 Gorffennaf 2020
  Wythnos ddiweddaraf 28 Mehefin i 4 Gorffennaf Cyfanswm cronnus 21 Mehefin i 4 Gorffennaf
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 540 1,156
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 47 92
Cyfanswm  587 1,248

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud â'r holl gysylltiadau agos a nodwyd yn y cyfnod adrodd dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhai wedi'u nodi drwy achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau cyn y cyfnod adrodd. Gall y ffigurau hefyd gynnwys rhai cysylltiadau agos sy'n gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a nodwyd gan achosion cadarnhaol a gafodd eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol i’w rheoli ymlaen.

Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 85% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus, ac nid oedd 15%. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cafodd 87% eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus ac nid oedd 13%.

3. Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin 2020, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 2,616 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. Mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, bydd y dull adrodd cronnol yn canolbwyntio ar ddata o 21 Mehefin 2020 ymlaen.

4. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cymerwyd data o'r system olrhain cysylltiadau digidol cenedlaethol yn ystod cyfnod cynnar ei weithrediad. Ar hyn o bryd ni chofnodir rhywfaint o weithgarwch yn gyson ar draws rhanbarthau gwahanol ac felly ni chaiff ei gofnodi yn y ffigurau a gyflwynir yma. Byddwn yn parhau i adolygu y cyflwyniad a chwmpas y data a gyflwynir yn y datganiad hwn wrth i ansawdd data wella.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 10:00yb ar 7 Gorffennaf 2020. Tynnwyd y data hyn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a atgyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Mae achosion cysylltiadau agos a gafodd eu datrys ryw ffordd arall yn cynnwys nifer bach o achosion pan gafodd yr un cysylltiad ei nodi gan fwy nag un achos positif ar yr un pryd. Bryd hynny, bydd timau olrhain cysylltiadau yn gweithio o un cofnod ar gyfer y cyswllt hwnnw ac yn nodi ar y cofnodion ychwanegol fod yr achos wedi'i ddatrys.

Mae nifer yr achosion a atgyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol na nifer yr achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd gwahaniaethau mewn amseru a lefel y dilysiad. Caiff data amrwd o'r system brofi mewn labordai eu bwydo i'r system olrhain cysylltiadau a all, er enghraifft, gynnwys achosion positif a nodwyd o'r blaen. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu data at ddibenion gwyliadwriaeth ac yn defnyddio data o gylch amser sefydlog i sicrhau cysondeb adrodd a hefyd yn dilysu'r data i ddileu achosion a nodwyd o’r blaen. Rydym yn gwneud gwaith pellach i ddeall ac esbonio'r gwahaniaethau hyn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30yb bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 16 Gorffennaf.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

5. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jon Ackland
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 79/2020