Neidio i'r prif gynnwy

1. Beth yw olrhain cysylltiadau?

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu y Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau dangos symptomau o coronafeirws (COVID-19), dylent drefnu prawf mor gyflym â phosibl wrth iddyn nhw, a'r bobl sy'n byw yn yr un tŷ â nhw, hunanynysu. Mae olrhain cysylltiadau yn ddibynnol ar brofion yn cael eu cymryd yn gyflym. Ar ôl cael canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy roi gwybod i'r swyddog olrhain cysylltiadau lleol am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a gofyn iddynt hunanynysu (a chymryd prawf os ydynt hefyd yn dangos symptomau), er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain. Dim ond yr achosion hynny y’u cyrhaeddwyd yn llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng nghyfran yr achosion positif a oedd yn gymwys i’w olrhain, ac nid yw’n cynnwys yr achosion hynny y mae timau olrhain lleol wedi ceisio cysylltu â nhw.

Mae’r data yn y datganiad yma yn wybodaeth reoli sy’n cael eu casglu fel rhan o'r broses olrhain cysylltiadau. Nid yw'r data wedi'u casglu at ddibenion ystadegau swyddogol, ac felly nid oes gan y data yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a bydd yn destun i ddiwygiadau yn y dyfodol. Rydym yn cyhoeddi hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

2. Prif ganlyniadau

Rhwng 8 a 14 Tachwedd 2020:

  • o blith y 5,290 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 4,856 (92%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 13,209 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 10,789 (82%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth

Yn gyfan gwbl, ers 21 Mehefin 2020:

  • o blith y 43,650 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 42,658 (98%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 125,760 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 116,505 (93%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth
Tabl 1: Achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau, hyd at 14 Tachwedd 2020
  Wythnos ddiweddaraf 8 i 14 Tachwedd 2020 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin i 14 Tachwedd 2020
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 5,290 43,650
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 1,715 7,917
Cyfanswm 7,005 51,567

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Darperir gwybodaeth am y math o achosion nad ydynt yn gymwys ar gyfer camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, y cyrhaeddwyd 92% o'r rhai a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol ac ni chyrhaeddwyd 8% ohonynt. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cyrhaeddwyd 98% ac ni chyrhaeddwyd 2%.

 

Tabl 2: Pobl a gadarnhawyd yn gysylltiadau agos, hyd at 14 Tachwedd 2020
  Wythnos ddiweddaraf 8 i 14 Tachwedd 2020 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin i 14 Tachwedd 2020
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 13,209 125,760
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 418 4,921
Cyfanswm 13,627 130,681

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud â'r holl gysylltiadau agos a nodwyd yn y cyfnod adrodd dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhai wedi'u nodi drwy achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau cyn y cyfnod adrodd. Gall y ffigurau hefyd gynnwys rhai cysylltiadau agos sy'n gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a nodwyd gan achosion cadarnhaol a gafodd eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol i’w rheoli ymlaen.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 82% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus, ac nid oedd 18%. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cafodd 93% eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus ac nid oedd 7%.

 

3. Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Rhwng 8 a 14 Tachwedd 2020

Achosion positif

  • O'r 5,290 o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 79% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu hatgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 86% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 89% o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn gyfystyr â 97% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.

Cysylltiadau agos

  • O'r 13,209 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 70% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 86% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 77% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 95% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.
  • Cyrhaeddwyd 40% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 24 awr i pan y cafodd yr achos positif â'u nodwyd ei atgyfeirio i’r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 50% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 63% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr i pan y cafodd yr achos positif â'u nodwyd ei atgyfeirio i’r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 77% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.

4. Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin 2020, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 2,616 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. Yn y datganiad cyfredol ac mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, bydd y dull adrodd cronnol yn canolbwyntio ar ddata o 21 Mehefin 2020 ymlaen.

5. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell data

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 15:30 ar 17 Tachwedd 2020. Tynnwyd y data hyn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a atgyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn gymwys i gael camau dilynol

Mae'r mwyafrif o achosion anghymwys i'w holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn preswylio yng Nghymru yn gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgyfeirio’r achosion hynny i’r asiantaeth iechyd y cyhoedd perthnasol er mwyn iddynt gael eu holrhain ymhellach. Byddai’r achosion hyn wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd sy’n gymwys i gael camau dilynol yn y datganiadau ystadegol cyn 10 Medi. 

Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Ar gyfer achosion positif, mae'r amser a gymerir i'w cyrraedd yn mesur yr amser rhwng atgyfeirio'r achos i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddir i gysylltu â hwy. Ar gyfer cysylltiadau agos, roedd dau fesurydd. Mae'r cyntaf yn edrych ar yr amser rhwng pan caiff y cysylltiad agos ei nodi gan achos positif, a phan y llwyddir i gysylltu ag ef. Mae'r ail fesurydd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng pan y cafodd yr achos positif a nododd y cyswllt ei atgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddwyd i gysylltu â’r cyswllt agos.

Mae’r mesur olaf yn eithrio nifer fach o gysylltiadau agos ni ellid eu cysylltu'n ôl â'r achos cadarnhaol a'u nododd.

Caiff y dyddiad a’r amser pan lwyddwyd i gysylltu ag achos positif neu gyswllt agos eu hystyried fel y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gofnodir yn y system. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • pan ceir cofnod o alwad ffôn lwyddiannus
  • pan cynhelir cyfweliad gyda'r cyswllt
  • pan ceir y gwiriad dyddiol cyntaf
  • pan fydd cysylltiadau agos neu gysylltiadau eraill yn dod yn rhan o'r system olrhain cysylltiadau (ar gyfer achosion positif yn unig)
  • pan nodir bod yr achos 'wedi'i ddatrys'

Dewiswyd y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod oll yn dangos bod aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau wedi cysylltu’n llwyddiannus â’r unigolyn. Mae’r ystod o ddigwyddiadau yn angenrheidiol oherwydd na cheir cofnod o alwadau ffôn ar gyfer pob achos positif a chysylltiad agos. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle mae amryw o achosion ymhlith unigolion sy’n byw ar yr un aelwyd a lle caiff yr wybodaeth ei chofnodi drwy un alwad ffôn yn unig, yn hytrach na galwad ffôn yr un ar gyfer pob unigolyn.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae achosion cysylltiadau agos a gafodd eu datrys ryw ffordd arall yn cynnwys nifer bach o achosion pan gafodd yr un cysylltiad ei nodi gan fwy nag un achos positif ar yr un pryd. Bryd hynny, bydd timau olrhain cysylltiadau yn gweithio o un cofnod ar gyfer y cyswllt hwnnw ac yn nodi ar y cofnodion ychwanegol fod yr achos wedi'i ddatrys.

Mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol i nifer yr achosion newydd a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni ellir cymharu'r ffynonellau data yma gyda’i gilydd yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau o ran amseru a lefel y dilysu a wneir, gan fod angen i achosion a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau gael eu trin â llaw gan dimau olrhain cysylltiadau.

O 21 Hydref 2020, mae cynllun peilot cyfyngedig iawn wedi’i redeg i asesu'r potensial i ddefnyddio'r seilwaith ac adnodd olrhain cyswllt i hefyd rhoi cyngor i deithwyr sy'n dychwelyd o gyrchfannau tramor. Trwy'r gweithgaredd peilot hwn, sefydlir achosion ychwanegol o fewn y system sydd ddim yn ddarostyngedig i'r un gweithdrefnau a phrosesau dilynol sy'n gysylltiedig ag olrhain cyswllt. Er bod yr achosion hyn yn cael effaith fach iawn ar y ffigurau a gyflwynir yn y datganiad yma (yn cynrychioli llai na 3% o gyfanswm yr achosion), rydym yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i gael gwared â’r rhain o gyhoeddiadau yn y dyfodol.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30 am bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 26 Tachwedd.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i  kas.covid19@llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 210/2020