Neidio i'r prif gynnwy

1. Beth yw olrhain cysylltiadau?

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu y Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau dangos symptomau o coronafeirws (COVID-19), dylent drefnu prawf mor gyflym â phosibl wrth iddyn nhw, a'r bobl sy'n byw yn yr un tŷ â nhw, hunanynysu. Ar ôl cael canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy roi gwybod i'r swyddog olrhain cysylltiadau lleol am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a gofyn iddynt hunanynysu (a chymryd prawf os ydynt hefyd yn dangos symptomau), er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain. Mae cyfran yr achosion positif a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol, ac y cysylltwyd â nhw, yn cynnwys yr achosion y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus yn unig. Nid yw’n cynnwys achosion lle ceisiodd y swyddogion olrhain cysylltiadau i gysylltu â nhw, ond heb lwyddiant.

Ar gyfer achosion mewn neuaddau preswyl, mae'n bosibl derbyniwyd myfyrwyr tecst neu gysylltiad gan eu prifysgol i'w chynghori i ynysu, ac nid gan y tîm olrhain cysylltiadau lleol. Nid yw'r math yma o weithgaredd wedi'i gynnwys yn y data olrhain cysylltiadau.

Mae’r data yn y datganiad yma yn wybodaeth reoli sy’n cael eu casglu fel rhan o'r broses olrhain cysylltiadau. Nid yw'r data wedi'u casglu at ddibenion ystadegau swyddogol, ac felly nid oes gan y data yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a bydd yn destun i ddiwygiadau yn y dyfodol. Rydym yn cyhoeddi hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Ar 17 Rhagfyr, cyflwynodd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru system newydd i roi’r cyfle i bobl ddarparu manylion eu cysylltiadau agos drwy e-ffurflen newydd. Bydd pobl yn cael galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i’w gwahodd i lenwi’r e-ffurflen ac mae’r alwad hon yn cael ei diffinio fel cysylltiad llwyddiannus. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn y data a ddangosir yn y datganiad hwn a bydd yn cael effaith ar ganran cyffredinol yr achosion positif a’r cysylltiadau y daethpwyd i gysylltiad â nhw yn llwyddiannus, a chanran yr achosion positif a chysylltiadau y cysylltwyd â nhw o fewn 24 a 48 awr. Rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i archwilio ymhellach effaith bosibl yr e-ffurflen ar y data a’r ffordd orau o fesur perfformiad yr e-ffurflen yn y system olrhain cysylltiadau.

2. Prif ganlyniadau

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (24 i 30 Ionawr 2021):

  • o blith y 4,008 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 3,832 (96%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 8,762 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 7,864 (90%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth

Yn gyfan gwbl, ers 21 Mehefin 2020:

  • o blith y 158,387 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 156,860 (99%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 380,586 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 350,987 (92%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth
Tabl 1: Achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau, hyd at 30 Ionawr 2021
  Wythnos ddiweddaraf 24 i 30 Ionawr 2021 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin 2020 i 30 Ionawr 2021
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 4,008 158,387
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 1,188 27,246
Cyfanswm 5,196 185,633

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Darperir gwybodaeth am y math o achosion nad ydynt yn gymwys ar gyfer camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, y cyrhaeddwyd 96% o'r rhai a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol ac ni chyrhaeddwyd 4% ohonynt. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cyrhaeddwyd 99% ac ni chyrhaeddwyd 1%.

Achosion positif cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd at 30 Ionawr 2021 (MS Excel)

Tabl 2: Pobl a gadarnhawyd yn gysylltiadau agos, hyd at 30 Ionawr 2021
  Wythnos ddiweddaraf 24 i 30 Ionawr 2021 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin 2020 i 30 Ionawr 2021
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 8,762 380,586
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 262                           11,024
Cyfanswm 9,024 391,610

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud â'r holl gysylltiadau agos a nodwyd yn y cyfnod adrodd dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhai wedi'u nodi drwy achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau cyn y cyfnod adrodd. Gall y ffigurau hefyd gynnwys rhai cysylltiadau agos sy'n gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a nodwyd gan achosion cadarnhaol a gafodd eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol i’w rheoli ymlaen.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 90% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus, ac nid oedd 10%. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cafodd 92% eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus ac nid oedd 8%.

Cysylltiadau agos cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd at 30 Ionawr 2021 (MS Excel)

Image
Mae Siart 3 yn dangos y nifer dyddiol o achosion positif a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol ers 21 Mehefin 2020. Cynyddodd y cyfartaledd treigl 7 diwrnod o ddiwedd mis Awst 2020 i ddechrau mis Tachwedd 2020 ond yna syrthiodd i lefelau is. Fodd bynnag, roedd cynnydd cyflym yn y cyfartaledd treigl o ddiwedd mis Tachwedd 2020 nes cyrraedd brig ar ganol mis Rhagfyr 2020. Ers hynny, mae’r cyfartaledd treigl wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ac mae nawr ar lefel tebyg i ganol mis Hydref 2020.

Achosion positif dyddiol sy’n gymwys i gael cyswllt dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd 30 Ionawr 2021 (MS Excel)

Image
Mae Siart 4 yn dangos y nifer dyddiol o gysylltiadau agos sy’n gymwys am gyswllt dilynol ers 21 Mehefin 2020. Bu tuedd cynyddol cyffredinol yn y cyfartaledd treigl 7 diwrnod ers diwedd mis Awst 2020 nes cyrraedd brig ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020, er y bu rhai gostyngiadau yn ystod y cyfnod hwnnw. Ers hynny mae’r cyfartaledd treigl wedi bod yn gostwng yn gyffredinol, ac mae yn awr ar lefel debyg i ddechrau mis Hydref 2020.

Cysylltiadau agos dyddiol sy’n gymwys i gael cyswllt dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd 30 Ionawr 2021 (MS Excel)

Mae Siartiau 3 a 4 yn cynrychioli’r nifer ddyddiol o achosion positif a’r cysylltiadau agos sy’n gymwys i gael cyswllt dilynol. Gall nifer yr achosion sy’n gymwys am gyswllt dilynol ar gyfer yr wythnosau diwethaf fod ychydig yn wahanol i’r cyhoeddiadau blaenorol oherwydd bod achosion wedi’u nodi fel rhai anghymwys yn dilyn ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau. Gallwch weld rhagor o fanylion am y broses hon yn yr adran wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Mae amrywiad rhwng diwrnodau yn adlewyrchu gwahaniaeth yn y galw ar y system (e.e. nifer y profion a gyflawnwyd) gyda rhai dyddiau yn gweld mwy o achosion yn bwydo drwodd i gysylltu â thimau olrhain. Gall brig mewn achosion positif neu gysylltiadau agos ddigwydd o ganlyniad i: ôl-groniad o achosion o ddyddiau blaenorol, swp mawr o ganlyniadau profion yn cael eu cyflwyno, safle profi newydd yn agor neu fwy o gapasiti profi ar gael.

3. Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (24 i 30 Ionawr 2021):

Achosion positif

  • O'r 4,008 o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 90% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu hatgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 94% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 94% o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn gyfystyr â 98% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.

Cysylltiadau agos

  • O'r 8,762 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 81% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 90% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 85% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 94% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.
  • O’r amser y cyfeiriwyd achosion positif i’r system olrhain cysylltiadau, cysylltwyd â 59% o’r holl gysylltiadau agos a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol o fewn 24 awr. Mae hyn yn golygu y cysylltwyd â 65% o’r rhai y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus o fewn 24 awr.
  • O’r amser y cyfeiriwyd achosion positif i’r system olrhain cysylltiadau, cysylltwyd â 75% o’r holl gysylltiadau agos a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn yn golygu y cysylltwyd â 84% o’r rhai y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus o fewn 48 awr.

4. Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin 2020, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 2,616 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. Yn y datganiad cyfredol ac mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, bydd y dull adrodd cronnol yn canolbwyntio ar ddata o 21 Mehefin 2020 ymlaen.

5. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell data

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 10:00 ar 2 Chwefror 2021. Tynnwyd y data hyn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a atgyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn gymwys i gael camau dilynol

Mae'r mwyafrif o achosion anghymwys i'w holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn preswylio yng Nghymru yn gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgyfeirio’r achosion hynny i’r asiantaeth iechyd y cyhoedd perthnasol er mwyn iddynt gael eu holrhain ymhellach. Byddai’r achosion hyn wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd sy’n gymwys i gael camau dilynol yn y datganiadau ystadegol cyn 10 Medi 2020.

Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Ar gyfer achosion positif, mae'r amser a gymerir i'w cyrraedd yn mesur yr amser rhwng atgyfeirio'r achos i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddir i gysylltu â hwy. Ar gyfer cysylltiadau agos, roedd dau fesurydd. Mae'r cyntaf yn edrych ar yr amser rhwng pan caiff y cysylltiad agos ei nodi gan achos positif, a phan y llwyddir i gysylltu ag ef. Mae'r ail fesurydd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng pan y cafodd yr achos positif a nododd y cyswllt ei atgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddwyd i gysylltu â’r cyswllt agos.

Mae’r mesur olaf yn eithrio nifer fach o gysylltiadau agos ni ellid eu cysylltu'n ôl â'r achos cadarnhaol a'u nododd.

Caiff y dyddiad a’r amser pan lwyddwyd i gysylltu ag achos positif neu gyswllt agos eu hystyried fel y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gofnodir yn y system. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • pan ceir cofnod o alwad ffôn lwyddiannus (gan gynnwys galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i wahodd achosion a chysylltiadau i lenwi’r e-ffurflen)
  • pan cynhelir cyfweliad gyda'r cyswllt
  • pan ceir y gwiriad dyddiol cyntaf
  • pan fydd cysylltiadau agos neu gysylltiadau eraill yn dod yn rhan o'r system olrhain cysylltiadau (ar gyfer achosion positif yn unig)
  • pan nodir bod yr achos 'wedi'i ddatrys'

Dewiswyd y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod oll yn dangos bod aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau wedi cysylltu’n llwyddiannus â’r unigolyn. Mae’r ystod o ddigwyddiadau yn angenrheidiol oherwydd na cheir cofnod o alwadau ffôn ar gyfer pob achos positif a chysylltiad agos. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle mae amryw o achosion ymhlith unigolion sy’n byw ar yr un aelwyd a lle caiff yr wybodaeth ei chofnodi drwy un alwad ffôn yn unig, yn hytrach na galwad ffôn yr un ar gyfer pob unigolyn.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae achosion cysylltiadau agos a gafodd eu datrys ryw ffordd arall yn cynnwys nifer bach o achosion pan gafodd yr un cysylltiad ei nodi gan fwy nag un achos positif ar yr un pryd. Bryd hynny, bydd timau olrhain cysylltiadau yn gweithio o un cofnod ar gyfer y cyswllt hwnnw ac yn nodi ar y cofnodion ychwanegol fod yr achos wedi'i ddatrys.

Mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol i nifer yr achosion newydd a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni ellir cymharu'r ffynonellau data yma gyda’i gilydd yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau o ran amseru a lefel y dilysu a wneir, gan fod angen i achosion a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau gael eu trin â llaw gan dimau olrhain cysylltiadau.

O 21 Hydref 2020, mae cynllun peilot cyfyngedig iawn wedi’i redeg i asesu'r potensial i ddefnyddio'r seilwaith ac adnodd olrhain cyswllt i hefyd rhoi cyngor i deithwyr sy'n dychwelyd o gyrchfannau tramor. Trwy'r gweithgaredd peilot hwn, sefydlir achosion ychwanegol o fewn y system sydd ddim yn ddarostyngedig i'r un gweithdrefnau a phrosesau dilynol sy'n gysylltiedig ag olrhain cyswllt. Yr achosion hyn yn cael effaith fach iawn ar y ffigurau a gyflwynir yn y datganiad yma (yn cynrychioli llai na 3% o achosion wythnosol).

Ar 17 Rhagfyr, cyflwynodd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru system newydd i roi’r cyfle i bobl ddarparu manylion eu cysylltiadau agos drwy e-ffurflen newydd. Bydd pobl yn cael galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i’w gwahodd i lenwi’r e-ffurflen ac mae’r alwad hon yn cael ei diffinio fel cysylltiad llwyddiannus. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn y data a ddangosir yn y datganiad hwn a bydd yn cael effaith ar ganran cyffredinol yr achosion positif a’r cysylltiadau y daethpwyd i gysylltiad â nhw yn llwyddiannus, a chanran yr achosion positif a chysylltiadau y cysylltwyd â nhw o fewn 24 a 48 awr. Rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i archwilio ymhellach effaith bosibl yr e-ffurflen ar y data a’r ffordd orau o fesur perfformiad yr e-ffurflen yn y system olrhain cysylltiadau.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30 am bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 11 Chwefror 2021.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 32/2021