Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt, i gynnig cyngor i helpu Lloegr i newid ei system rhoi organau.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau.  

Caiff pobl 18 oed neu hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na deuddeng mis, ac sy’n marw yng Nghymru, eu hystyried bellach fel pe baent wedi rhoi cydsyniad i roi organau, oni bai eu bod wedi optio allan. Mae hyn yn cael ei alw'n gydsyniad tybiedig.

Gall pobl sy’n dymuno bod yn rhoddwr organau naill ai gofrestru penderfyniad i optio i mewn neu wneud dim, a fydd yn golygu nad oes ganddynt wrthwynebiad i roi organau. Gall y bobl hynny nad ydynt yn dymuno bod yn rhoddwr organau optio allan ar unrhyw adeg.

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Rydyn ni'n credu bod y system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau yn dod â manteision i'r rhai y mae angen trawsblaniad arnyn nhw, drwy roi'r cyfle i drawsnewid eu bywydau yng ngwir ystyr hynny.

“Roeddwn i'n falch felly i glywed y Prif Weinidog yn San Steffan yn cyhoeddi ei bwriad i ddilyn ein harweiniad drwy gynnal ymgynghoriad ar system newydd o optio allan ar gyfer rhoi organau yn Lloegr.

“Dw i'n hynod falch o'r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni hyd yn hyn, ac yn y cyfamser rydyn ni wedi ennill cyfoeth o brofiad wrth weithredu ein system optio allan ni yma yng Nghymru. Rydyn ni wrth law i helpu Lloegr mewn unrhyw ffordd y gallwn ni wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflwyno deddfwriaeth ar y mater pwysig hwn.

“Ddydd Mercher (1 Tachwedd 2017), bydda' i'n lansio ymgyrch fawr newydd sy'n canolbwyntio ar rôl teuluoedd yn y broses rhoi organau. Er ein bod bob amser yn hapus i gynnig ein cyngor a chymorth i Loegr, a gwledydd eraill sy'n ystyried newid eu system, rydyn ni'n gwybod bod yna waith i'w wneud yng Nghymru o hyd i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau i'n system rhoi organau ni. Rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod digon o organau ar gael i’r rheini y mae angen trawsblaniad arnyn nhw.”