Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio profiadau cyfranogiad plant y gweithiwyd gyda nhw o dan y model 'braenaru' sy'n cael ei dreialu yn llysoedd teulu’r Gogledd.

Mae'r cynllun peilot Braenaru yn rhoi mwy o fynediad a hyblygrwydd i Gynghorwyr Llys Teulu Cafcass Cymru i weithio gyda phlant i gynnwys eu barn yn gynharach ym mhroses gwneud penderfyniadau'r llysoedd. Nod yr ymchwil oedd deall pa effaith y mae Braenaru yn ei chael ar gyfranogiad ac archwilio a ddylid gwneud unrhyw beth i roi mwy o le i leisiau plant mewn achosion preifat.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau cyfweliadau â phlant a phobl ifanc a grwpiau ffocws gyda Chynghorwyr Llys Teulu.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion ar gyfer staff ac uwch-arweinwyr Cafcass Cymru y gellir eu defnyddio i wella cyfranogiad plant mewn achosion preifat.

Adroddiadau

Profiadau plant a phobl ifanc o gymryd rhan mewn gweithrediadau preifat yn y llysoedd teulu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 633 KB

PDF
633 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Profiadau plant o gymryd rhan mewn gweithrediadau preifat yn y llysoedd teulu (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 254 KB

PDF
254 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Laura Entwistle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.