Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar brofi staff gofal iechyd i sicrhau diogelwch cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer darparwyr a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a’u diben yw amlinellu'r drefn brofi bresennol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r canllawiau wedi'u llywio gan gyngor iechyd y cyhoedd a chyngor clinigol sy'n ystyried yr amodau iechyd cyhoeddus presennol. 

Y nod yw sicrhau, lle cynghorir hynny, bod gan bobl fynediad at brofion er mwyn gallu adnabod achosion positif symptomatig o COVID-19 yn gyflym i ddiogelu'r rhai sy’n fwy agored i niwed. Byddwn yn adolygu'r canllawiau hyn yn gyson wrth i gyffredinrwydd yr achosion newid ac wrth inni gael gwell gwybodaeth am amrywiolion COVID-19 cyfredol ac amrywiolion newydd yn y dyfodol.

I bwy mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?

Mae'r canllawiau hyn yn disodli'r holl ganllawiau blaenorol yn ymwneud â phrofion ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac maent yn berthnasol i staff sy'n gweithio mewn cysylltiad agos â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae hefyd yn berthnasol i garchardai ac ysgolion arbennig.

Staff sydd â symptomau o haint ar y llwybr anadlol, gan gynnwys COVID-19

Cynghorir unrhyw aelod staff sy’n ymdrin yn uniongyrchol â chleifion/defnyddwyr gwasanaeth ac sydd â symptomau o haint ar y llwybr anadlol, gan gynnwys COVID-19, ac sydd â thymheredd uchel i aros gartref, rhoi’i gwybod i’w gyflogwr a chymryd prawf cyn gynted â phosibl. Mae cyngor pellach wedi’i ddarparu isod ar y math o brawf y dylai staff ei gymryd.

Mae profion llif unffordd (LFD) am ddim i unigolion â symptomau ar gael drwy gyflogwyr ar gyfer staff sy'n gweithio mewn  rolau sy’n wynebu cleifion/ defnyddwyr gwasanaeth yn y lleoliadau a'r gwasanaethau a restrir isod.

  • byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd 
  • gwasanaethau gofal sylfaenol
  • cartrefi Gofal 
  • hosbisau
  • gwasanaethau gofal cartref
  • arolygiaethau iechyd a gofal
  • darparwyr iechyd annibynnol sy’n trin cleifion y GIG
  • gweithwyr cymdeithasol
  • cyfleusterau byw â chymorth
  • carchardai
  • ysgolion arbennig

Gall unigolyn symptomatig sy'n profi'n negatif am COVID-19 fod â salwch heintus arall fel y ffliw. Gall staff ddychwelyd i'r gwaith os nad oes ganddynt symptomau bellach, ac nad oes ganddynt dymheredd uchel.

Os yw'r aelod staff yn gweithio gyda chleifion y mae eu system imiwnedd yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol er iddyn nhw gael eu brechu (gov.uk), dylent drafod hyn gyda'u rheolwr llinell a ddylai gynnal asesiad risg.

Profion PCR amlddadansoddiad ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill

Yn ogystal â COVID-19, rydym hefyd yn wynebu ansicrwydd pellach y gaeaf hwn yn ymwneud â feirysau anadlol eraill sy’n cylchredeg, gan gynnwys y ffliw. Mae profion PCR amlddadansoddiad yn gallu rhoi diagnosis ar gyfer ystod eang o feirysau anadlol. I ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ystod yr hydref a’r gaeaf hwn, dylai staff a defnyddwyr gwasanaeth symptomatig mewn lleoliadau caeedig ac yn gweithio’n rheolaidd gydag unigolion sy’n fwy agored i niwed o heintiau anadlol gymryd prawf PCR amlddadansoddiad.

Mae ein dulli presennol o brofi mewn gwahanol leoliadau wedi’i nodi yn y tablau isod. Mae hyn yn seiliedig ar yr amcan o ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed a lleihau’r risg o drosglwyddiad i’r rhai sy’n wynebu’r risg uchaf o ddioddef canlyniadau niweidiol ac unigolion mewn lleoliadau risg uchel / lleoliadau caeedig.

Dull o ymdrin â lleoliadau caeedig
Lleoliad Sefyllfa Math o brawf

Ysbytai’r GIG

Staff â symptomau sy’n ymdrin â grwpiau risg uchel

Triniaethau COVID-19 
PCR amlddadansoddiad

Ysbytai’r GIG

Staff â symptomau nad ydynt yn gweithio gyda grwpiau risg uchel fel arfer Prawf llif unffordd – os yw’n negatif, cynghorir prawf PCR / amlddadansoddiad
Y GIG Darparwyr Iechyd Annibynnol â symptomau sy’n trin cleifion y GIG mewn ysbytai Prawf llif unffordd – os yw’n negatif, cynghorir prawf PCR / amlddadansoddiad
Cartrefi gofal Preswylwyr â symptomau - os oes gan breswylwyr salwch tebyg i’r ffliw, dylid profi tri phreswylydd â symptomau i ddechrau i ddeall pa feirws anadlol sy’n cylchredeg yn y cartref gofal. Gellir tybio bod preswylwyr eraill y cartref gofal sy’n cael salwch tebyg i’r ffliw yn dilyn hynny, yn dioddef o’r un feirws anadlol. Dylid gwneud profion pellach dim ond pan fo hynny’n ofynnol yn glinigol. PCR Amlddadansoddiad
Cartrefi gofal Staff â symptomau PCR Amlddadansoddiad
Hosbisau Staff â symptomau PCR Amlddadansoddiad
Gofal cymdeithasol Staff â symptomau sy’n gweithio mewn cyfleusterau byw â chymorth. Prawf llif unffordd – os yw’n negatif, cynghorir prawf PCR / amlddadansoddiad
Carcharorion Carcharorion â symptomau - os yw carcharorion ar yr un bloc yn cael salwch tebyg i’r ffliw dylid profi tri charcharor â symptomau i ddechrau i ddeall pa feirws anadlol sy’n cylchredeg yn y carchar. Gellir tybio bod carcharorion yn yr uned sy’n cael salwch tebyg i’r ffliw yn dilyn hynny, yn dioddef o’r un feirws anadlol. Dylid gwneud profion pellach dim ond pan fo hynny’n ofynnol yn glinigol. PCR Amlddadansoddiad
Ysgolion arbennig (preswyl) Os yw preswylwyr yn cael salwch tebyg i’r ffliw dylid profi tri phreswylydd â symptomau i ddechrau i ddechrau i ddeall pa feirws anadlol sy’n cylchredeg yn yr ysgol. Dylid gwneud profion pellach dim ond pan fo hynny’n ofynnol yn glinigol. Prawf llif unffordd – os yw’n negatif, cynghorir prawf PCR / amlddadansoddiad
Dull o ymdrin â phrofion mewn lleoliadau eraill
Lleoliad Sefyllfa Math o brawf
Y GIG Darparwyr Iechyd Annibynnol â Symptomau sy’n trin cleifion y GIG yn y gymuned Prawf llif unffordd
Y GIG Staff gofal sylfaenol â symptomau Prawf llif unffordd
Gofal cymdeithasol Staff gofal cartref â symptomau Prawf llif unffordd
Gofal cymdeithasol Staff gofal cymdeithasol â symptomau Prawf llif unffordd
Arolygiaeth Iechyd a Gofal Staff â symptomau Prawf llif unffordd
Ysgolion arbennig Staff a myfyrwyr mewn ysgolion nad ydynt yn rhai preswyl Prawf llif unffordd

Staff sydd wedi profi'n bositif

Mae staff sydd wedi profi'n bositif yn debygol iawn o fod â COVID-19 a gallant drosglwyddo'r haint i eraill. Felly, cânt eu cynghori i wneud y canlynol:

  • aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill os yw hynny’n bosibl
  • rhoi gwybod am eu canlyniad ar-lein (gov.uk) os ydynt wedi cymryd prawf llif unffordd 
  • rhoi gwybod i’w rheolwr
  • cymryd rhan yn y broses olrhain cysylltiadau a fydd, fel gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, yn cynnwys galwadau ffôn dilynol posibl gyda swyddog olrhain cysylltiadau neu’r angen i gwblhau e-ffurflen
  • cymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnodau 5 a 6 ar ôl cael prawf positif: 
    • gallant ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cael dau brawf llif unffordd negatif gyda bwlch o 24 awr rhwng y ddau brawf 
    • os ydyn nhw'n profi'n bositif ar ddiwrnod 5 neu ddiwrnod 6, dylent barhau i gadw draw o'r gwaith nes iddynt gael 2 brawf negatif gyda bwlch o 24 awr rhwng y ddau brawf, neu tan ddiwrnod 10. Cânt hefyd eu cynghori'n gryf i aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad ag eraill tra'u bod yn profi'n bositif

Mae'r tebygolrwydd o gael prawf llif unffordd positif heb symptomau ar ôl 10 diwrnod yn isel iawn. Fodd bynnag, os yw canlyniad y prawf llif unffordd yn bositif ar y 10fed diwrnod, dylent barhau i brofi a dychwelyd i'r gwaith ar ôl cael un prawf llif unffordd negatif. 

Staff sy'n gyswllt cartref i rywun sydd â COVID-19

Pobl sy'n byw yn yr un cartref â rhywun sydd â COVID-19 sydd â'r risg uchaf o gael eu heintio oherwydd eu bod yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad agos am gyfnod estynedig. Mae pobl sydd wedi aros dros nos ar aelwyd rhywun sydd â COVID-19 hefyd yn wynebu risg uchel.

Os yw aelod o staff yn gyswllt cartref neu'n gyswllt dros nos i rywun sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif gall gymryd hyd at 10 diwrnod i'r haint ddatblygu. Mae'n bosibl i’r aelod staff drosglwyddo COVID-19 i eraill, hyd yn oed heb symptomau.

Dylai staff sy'n cael eu hadnabod fel cyswllt cartref neu gyswllt dros nos i rywun sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif drafod ffyrdd o leihau'r risg o drosglwyddiad gyda'u rheolwr llinell.

Gallai hyn gynnwys ystyried:

Pan fyddant yn y gwaith, rhaid i staff barhau i gydymffurfio'n drwyadl â'r holl ragofalon rheoli heintiau (nhs.uk) perthnasol.

Os yw staff yn datblygu unrhyw symptomau o fewn y cyfnod o 10 diwrnod, dylent ddilyn y cyngor i staff sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19. 

Atal a rheoli heintiau

Er mwyn lliniaru’r risgiau, rhaid i weithwyr barhau i ddilyn canllawiau eu cyflogwr ar fesurau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn unol â'r canllawiau presennol: Infection prevention and control measures for acute respiratory infections (ARI) including COVID-19 for health and care settings - Wales

Dylai pob staff iechyd a gofal fod yn gyfarwydd ag egwyddorion rhagofalon rheoli heintiau safonol (SICP) a rhagofalon yn seiliedig ar drosglwyddiad (TBP) ar gyfer atal lledaeniad haint mewn lleoliadau iechyd a gofal a dylent weithredu mesurau atal a rheoli heintiau yn unol â Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru NIPCM - Iechyd Cyhoeddus Cymru (GIG.cymru)

Dylai cleifion ac ymwelwyr barhau i ddefnyddio masgiau neu orchuddion wyneb mewn ardaloedd sy’n ymdrin ag achosion tybiedig neu achosion hysbys o SARS-CoV-2 a heintiau anadlol eraill, i gydymffurfio â chanllawiau atal a rheoli heintiau.

Cyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd yw sicrhau bod staff ac ymwelwyr yn cydymffurfio â chanllawiau atal a rheoli heintiau ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal, a’u bod yn cael gwybodaeth ac yn cael eu cefnogi i ddefnyddio masgiau/gorchuddion wyneb.

Sut i ddefnyddio prawf llif unffordd

Gwyliwch y fideo (nhs.uk)  hyfforddi byr hwn ar sut i hunan-brofi gan ddefnyddio prawf llif unffordd. Ar ôl i chi weld y fideo hyfforddi, ystyrir eich bod yn gymwys i ddefnyddio prawf llif unffordd.

Mae cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr hefyd wedi'u cynnwys ym mhob blwch o brofion llif unffordd. Maen nhw'n esbonio sut mae cymryd y prawf a sut i ddehongli'r canlyniadau.

Mae rhagor o fanylion a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol hefyd wedi'u rhannu â chyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu'n lleol.

Sut i roi gwybod am ganlyniadau profion llif unffordd

Anogir pobl i roi gwybod am ganlyniad pob prawf llif unffordd, hyd yn oed os yw'n negatif neu'n amhendant. Gall staff gofrestru profion llif unffordd yn unigol (gov.uk). Os oes gan sefydliadau rif sefydliad unigryw, dylai staff roi gwybod am ganlyniadau gan ddefnyddio'r rhif hwnnw.

Os yw'r prawf yn dangos canlyniad annilys, mae angen gwneud prawf arall gyda phecyn prawf newydd.

Rhowch wybod am bob canlyniad prawf llif unffordd positif i'ch cyflogwr ar unwaith.