Neidio i'r prif gynnwy

Mae proses newydd yn dod i rym heddiw i gyflymu'r broses gynllunio a gwneud Cymru'n lle mwy deniadol i fuddsoddwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r broses a gyflwynwyd gan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn berthnasol i ddatblygiadau seilwaith ar raddfa fawr, gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy, gwastraff, dŵr a thrafnidiaeth. Mae'n disodli'r Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a rhaglenni cydsynio presennol eraill.

Yn gynharach eleni, roedd cyflymder y broses o wneud cais cynllunio ar gyfer eu cynlluniau i adeiladu ar hen safle Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi creu argraff ar Vantage, sef gweithredwr canolfannau data ar raddfa uwch sy'n buddsoddi biliynau yn economi Cymru drwy adeiladu canolfannau data newydd.

Gan gydnabod y gallai cyflymu'r broses gynllunio ddenu mwy o fuddsoddiad, dywedodd y Prif Weinidog wrth y cynrychiolwyr yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru yr wythnos diwethaf ei bod am wneud Cymru yn un o'r lleoedd cyflymaf yn y byd i wneud penderfyniadau cynllunio gan gynnwys prosiectau seilwaith.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

“Rydym wedi gwneud diwygiadau gwirioneddol i'n prosesau cynllunio yng Nghymru, gan fuddsoddi mwy nag erioed fel bod y system yn gweithio’n well ac yn gynt i fusnesau a chymunedau.

“Pan edrychwch chi ar gyflymder y newidiadau, y doniau a'r partneriaethau rydyn ni'n eu meithrin, mae stori fuddsoddi glir iawn yn dod i'r amlwg. Mae gennym yr holl sylfeini yn eu lle, ac rydym yn barod i ddatblygu'n gyflym - yn enwedig pan ddaw i fusnesau mewn sectorau arloesol.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae'r broses newydd sy'n dod i rym heddiw yn rhan allweddol o'n cynllun i wneud Cymru y wlad gyflymaf yn y DU i benderfynu ar geisiadau seilwaith.

“Bydd y diwygiadau rydyn ni'n eu gweithredu yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy, yn darparu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru, ac yn creu swyddi da ledled y wlad.”

Mae canllawiau yn cael eu llunio i ddatblygwyr sy'n ymwneud ag arferion gorau, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ymgysylltu â chymunedau. Mae hyn wedi'i gomisiynu gan Grasshopper Communications, sefydliad o Gymru sy'n gweithio yn y diwydiant sy'n arbenigo mewn ymgynghori â chymunedau a rhanddeiliaid.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i sefydliad Cymorth Cynllunio Cymru ymgysylltu â chymunedau sy'n ceisio deall y newidiadau yn well drwy ganllawiau ar-lein a digwyddiadau cymunedol.

Cyhoeddwyd bron i £9 miliwn yn gynharach eleni i gryfhau capasiti gwasanaethau cynllunio a ddarperir gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru i ddarparu penderfyniadau cyflymach.