Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cafcass Cymru yn recriwtio.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cynghorwyr Llys Teulu Cafcass Cymru yn cynrychioli dymuniadau, teimladau a buddiannau pennaf plant a phobl ifanc sy'n gysylltiedig ag achosion llys teulu yng Nghymru, gan ddarparu cyngor gwaith cymdeithasol annibynnol sy'n amddiffyn ac yn hybu eu lles. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol â phlant a theuluoedd agored i niwed er mwyn cynghori'r llysoedd teulu ynghylch y dull gweithredu gorau ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc. Er mwyn bod yn Gynghorydd Llys Teulu, mae'n rhaid i chi fod yn weithiwr cymdeithasol wedi'i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru, gan feddu ar wybodaeth am wasanaethau diogelu ar gyfer plant a'u teuluoedd yn y sector statudol.

Bydd Cafcass Cymru yn hysbysebu swyddi Cynghorwyr Llys Teulu yng Ngwent (Casnewydd) a Chanolbarth a Gorllewin Cymru (Caerfyrddin a'r Drenewydd) yn gynnar yn y flwyddyn newydd.Er mwyn cofrestru eich diddordeb a chael eich hysbysu pan fydd y swyddi yn fyw, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, e-bostiwch eich manylion cyswllt i CafcassCymruHR@llyw.cymru.

Fel sefydliad sy'n dysgu, mae Cafcass Cymru yn ymrwymedig iawn i barhau i fuddsoddi yn ein staff er mwyn cynnal lefelau ansawdd cyson, datblygu ein gwasanaethau ac arloesi a pharhau i wella mewn ymateb i heriau'r dyfodol. Os ydych o'r farn mai dyma'r math o ddiwylliant a sefydliad y gallech ffynnu ynddynt, a'ch bod yn frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd, byddai Cafcass Cymru yn croesawu eich diddordeb.