Nod y tri phrosiect oedd dangos y gwerth y gallai cysylltu data ei ychwanegu o ran datblygu sail tystiolaeth llawer mwy cyfoethog i gefnogi datblygu a gwerthuso polisi. Hefyd i ddarparu cyfres o adroddiadau yn archwilio pa mor uchelgeisiol y gallem fod wrth geisio gwneud y defnydd gorau o'r data presennol ar gyfer Cymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Prosiect arddangos cysylltu data
Fe gysylltwyd y prosiect yma sawl set ddata iechyd gyda’r Gronfa Ddata Cenedlaethol Disgyblion a nodwyd aelwydydd a oedd yn cynnwys un plentyn cymwys (0-3) oed, yn ogystal â set o achosion rheoli, er mwyn adnabod unrhyw wahaniaethau mewn deilliannau iechyd ac addysg ar gyfer teuluoedd Dechrau’n Deg o’i gymharu gyda’r teuluoedd a oedd y “'Nesaf Mwyaf Difreintiedig”.
