I nodi dechrau Wythnos Natur Cymru, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi gweld drosto'i hun ymdrechion cadwraeth sydd ar waith i achub un o’r adar sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru – gylfinirod.

Fel sy'n gyffredin ar draws cenhedloedd eraill y DU ac mewn mannau eraill yn Ewrop, mae bridio'r gylfinir yng Nghymru yn dirywio'n sylweddol oherwydd bod eu cynefinoedd yn cael eu colli, dulliau rheoli cynefinoedd anffafriol ac ysglyfaethwyr.
Ar ymweliad â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, dysgodd y Dirprwy Brif Weinidog fwy am y gwaith sy'n cael ei wneud yn un o Ardaloedd Gylfinirod Pwysig Cymru drwy Cysylltu Gylfinir Cymru i fynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n ysgogi llwyddiant bridio isel gylfinirod yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys monitro a deall poblogaethau, gweithredu dulliau amddiffyn nythod, rheoli ysglyfaethwyr a gwaith cynefinoedd.
Mae'r bartneriaeth gwerth £999,600 a ariennir gan Rwydweithiau Natur yn cael ei chyflwyno gan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt ar ran Gylfinir Cymru.
Yn ystod yr ymweliad, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Mae gwarchod a gwella ein hamgylchedd a'n hadnoddau naturiol yn allweddol i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur – ac mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle gwych i bobl o bob oed gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Rydyn ni’n rhag-weld y bydd gylfinirod, er enghraifft, ar fin diflannu’n llwyr fel rhywogaeth fridio hyfyw yng Nghymru erbyn 2033, felly rwy'n deall yn llawn brys y camau sydd eu hangen i sicrhau goroesiad y rhywogaeth hon.
Yn nhymor y Senedd hon yn unig, rydym wedi buddsoddi mwy na £150m i adfer natur a gwella mynediad. Mae'n wych gweld drosof fy hun dim ond rhai o'r prosiectau sy'n elwa ac yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae Wythnos Natur Cymru (5-13 Gorffennaf 2025) yn ddathliad blynyddol o fywyd gwyllt a chynefinoedd sy'n canolbwyntio ar fwynhau, gwerthfawrogi a gwarchod natur yng Nghymru.
Mae'r rhaglen yn cynnwys gwyliau natur, teithiau cerdded tywysedig a gweithdai bywyd gwyllt a gynhelir gan Bartneriaethau Natur Lleol a sefydliadau eraill sy'n ystyriol o natur, a chewch fynediad rhad ac am ddim i lawer ohonynt.