Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, Lesley Griffiths, wedi ymweld â Chastell Caerffili i weld sut mae buddsoddiad o £10m yn un o safleoedd hanesyddol gorau Cymru yn mynd rhagddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y prosiect yn allweddol i wella profiad ymwelwyr ac mae'n rhan o gynllun adfywio ehangach ar gyfer canol tref Caerffili.

Nod y buddsoddiadau yng Nghastell Caerffili yw ei wneud yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf wrth warchod yr heneb a gwarchod ei hanes.

Mae'r hyn sydd ar waith yn y castell yn cynnwys adnewyddu'r Neuadd Fawr, lle byddai gwleddoedd canoloesol wedi’u cynnal. Yn ogystal â hyn, mae'r prosiect yn cynnwys gardd flodau gwyllt, dehongliad newydd a gwelliannau i Siambr yr Iarll, ochr yn ochr â gwaith cadwraeth a hygyrchedd hanfodol.

Castell Caerffili yw un o gestyll canoloesol mawr Gorllewin Ewrop a'r castell mwyaf yng Nghymru. Fe'i adeiladwyd yn 1268-72 a hwn oedd y castell mwyaf datblygedig yn y wlad ar y pryd. Heddiw, mae degau o filoedd o ymwelwyr yn mwynhau treftadaeth gyfoethog y castell bob blwyddyn.

Mae'r buddsoddiad hwn yn un o'r prosiectau cadwraeth a datblygu mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed mewn heneb gan Cadw. Cwblhawyd gwaith rhagarweiniol y llynedd, gan gynnwys gwaith cadwraeth a gwelliannau i'r to dros Borth Mewnol y Dwyrain a ddyluniwyd i leihau faint o ddŵr glaw sy'n mynd i mewn i'r strwythur.

Nod Cadw yw cyflwyno henebion mewn ffordd bleserus heb dynnu oddi wrth eu gwerth hanesyddol a diwylliannol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths:

"Mae Castell Caerffili yn hanfodol i'r rhanbarth a'r castell yw’r prif atyniad sy'n denu ymwelwyr i'r dref. Mae wedi bod yn wych gweld y buddsoddiad a'r gwaith cadwraeth sydd eisoes wedi digwydd a dysgu mwy am yr hyn a ddaw nesaf i sicrhau bod hwn yn parhau i fod yn brofiad o'r radd flaenaf i ymwelwyr. Mae ein treftadaeth genedlaethol yr un mor hanfodol i bobl heddiw ag y bu erioed, ac mae'n rhaid i ni weld a phrofi ein hanes i'w ddeall.

"Mae buddsoddi mewn cadwraeth a hygyrchedd yn sicrhau y gall mwy o bobl ymweld â'n henebion hanesyddol a'u mwynhau am genedlaethau i ddod. Edrychaf ymlaen at ddilyn cynnydd Cadw ar y prosiect sylweddol ac uchelgeisiol hwn."