Neidio i'r prif gynnwy

Creu Parc Cenedlaethol newydd i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ein hymrwymiad

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, nodwyd y byddem yn creu Parc Cenedlaethol newydd. Byddai yng ngogledd-ddwyrain Cymru, o amgylch Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Pam Creu Parc Cenedlaethol newydd

Mae parciau cenedlaethol yn bwysig i'n hamgylchedd. Maent yn ein helpu i:

  • fynd i'r afael â'r argyfwng natur
  • sicrhau twristiaeth fwy cynaliadwy

Sut i greu Parc Cenedlaethol newydd

Mae dynodi Parc Cenedlaethol yn fenter sylweddol. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r awdurdod dynodi statudol. Rydym wedi gofyn i CNC edrych ar yr achos dros Barc Cenedlaethol newydd. Bydd angen:

  • ymgynghori â chymunedau lleol ac awdurdodau lleol perthnasol
  • asesu'r nodweddion daearyddol yn yr ardal
  • gwirio addasrwydd yr ardal yn erbyn diffiniadau cyfreithiol o'r hyn y dylai Parc Cenedlaethol fod
  • pennu ffiniau delfrydol y parc newydd
  • gwneud argymhellion i'n Gweinidogion

I wybod mwy, ewch i Tudalen Wybodaeth Prosiect Dynodi Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru).