Neidio i'r prif gynnwys

Ystyried Parc Cenedlaethol newydd i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Yn ei Rhaglen Lywodraethu (2021 i 2026), nododd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei hymrwymiad i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd i Gymru. Roedd yr ymrwymiad yn canolbwyntio ar Dirwedd Genedlaethol bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae'r asesiad o'r cynnig bellach wedi'i gwblhau ac mae'n cael ei ystyried gan y Llywodraeth Cymru bresennol.

Datblygu cynnig y Parc Cenedlaethol

Gofynnwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel yr ymgynghorydd amgylcheddol statudol, asesu'r achos dros Barc Cenedlaethol newydd mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru a gogledd Powys.

CNC:

  • ymgymerodd CNC ag asesiad manwl oedd yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda chefnogaeth ymgysylltu helaeth ac ymgynghori ag awdurdodau lleol, cymunedau a rhanddeiliaid. 
  • daeth CNC i'r casgliad bod yr ardal yn bodloni'r profion statudol perthnasol. 
  • cyflwynodd CNC Orchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig i Weinidogion Cymru i'w ystyried ym mis Ionawr 2026.

Camau nesaf

Mae Parc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr bellach yn cael ei ystyried gan y Llywodraeth Cymru bresennol yng ngoleuni ei flaenoriaethau, ei ymrwymiadau a'i oblygiadau ariannol.

Er bod tystiolaeth o gyfleoedd amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ar draws yr ardal, mae Gweinidogion Cymru hefyd yn ystyried:

  • materion sy’n ymwneud â fforddiadwyedd
  • llywodraethu, 
  • costau tymor hir
  • a ellid cyflawni canlyniadau tebyg trwy ddulliau eraill.

Mae Gweinidogion Cymru wedi dod i farn dros dro eu bod yn meddwl peidio â chadarnhau Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr ac yn bwriadu peidio â bwrw ymlaen â’r ymchwiliad lleol cyhoeddus a gyhoeddwyd yn flaenorol.

O ystyried arwyddocâd y cynnig a lefel diddordeb y cyhoedd, mae Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfle pellach i bartïon â diddordeb gyflwyno sylwadau a thystiolaeth ychwanegol cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Darllenwch Ddatganiad Llafar y Gweinidog Cabinet ar y Parc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgysylltu pedair wythnos yn rhedeg o 13 Hydref i 11 Tachwedd 2026.

Mae hyn yn rhoi cyfle i gyflwyno unrhyw dystiolaeth, gwybodaeth neu ystyriaethau perthnasol ychwanegol y credwch y dylai Gweinidogion Cymru eu hystyried cyn dod i benderfyniad terfynol.

Cyflwynwch unrhyw wybodaeth berthnasol erbyn 11 Tachwedd 2026.

Drwy e-bost i naill ai:

parciau.cenedlaethol@llyw.cymru  neu
National.Parks@gov.wales 

Drwy’r post:

Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ

Rhagor o wybodaeth

Hysbysiad preifatrwydd

Os byddwch yn cyflwyno gwybodaeth yn ystod y cyfnod ymgysylltu hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu unrhyw ddata personol rydych chi'n ei ddarparu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd cyn cyflwyno eich ymateb.