Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £12m ar gyfer prosiect i foderneiddio a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gorllewin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn cefnogi amrywiaeth o fentrau sy'n symud gwasanaethau o'r ysbyty i gartrefi a chymunedau pobl gan ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt, aros yn iach a chadw eu hannibyniaeth.

Dan arweiniad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, y prosiect hwn yw’r diweddaraf i gael cyllid o Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sy’n gronfa o £100m. Crëwyd y Gronfa i gefnogi camau gweithredu allweddol yng nghynllun iechyd a gofal cymdeithasol tymor hir Llywodraeth Cymru, sef Cymru Iachach. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys: 

  • Defnydd newydd o dechnoleg i alluogi monitro unigolion sydd â chyflyrau iechyd, neu mewn perygl o'u datblygu, yn eu cartrefi.  Helpu pobl i ofalu amdanynt eu hunain, gan leihau arwahanrwydd a darparu cefnogaeth cofleidiol gyflym o fewn cymunedau ar sail 24/7
  • Dod â gwasanaethau at ei gilydd, cyflymu cynlluniau i gynnig iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth arall o un lle yn nes at gartref
  • Meithrin gwydnwch cymunedau, gwella mynediad i weithgareddau sy'n helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, yn ddiogel ac yn cael boddhad yn eu cymdogaethau.

Dywedodd Mr Gething: 

“Gyda disgwyliad oes yn codi a heriau iechyd y cyhoedd yn parhau, bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu mwy o alw fyth arnynt yn y dyfodol. Er mwyn diwallu’r galw hwnnw, mae’n rhaid i ni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gofal yn y dyfodol. 

“Bydd angen integreiddio iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector yn well i ddarparu gofal yn agosach i gartrefi a lleihau’r pwysau ar ysbytai. Mae Cymru Iachach yn nodi sut y gallwn gyflawni hyn a bydd ein Cronfa Trawsnewid yn cyflawni’r weledigaeth honno drwy ariannu prosiectau sydd â’r potensial i ehangu a chael eu defnyddio ym mhob rhan o Gymru.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Jane Tremlett: 

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y buddsoddiad hwn a'r cyfle i sicrhau rhagor o integreiddio rhwng iechyd a gofal yn ein rhanbarth er budd ein cymunedau. Bydd ein tri phrosiect cychwynnol yn canolbwyntio ar dechnoleg, integreiddio cryfach a mwy o gymorth yn y gymuned i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

“Rydym yn hyderus y bydd pob un o'r ardaloedd hyn nid yn unig o fudd i ddinasyddion yn ein hardal ond y gallent o bosibl arwain newid ledled Cymru a thu hwnt. Rydym hefyd yn awyddus i ddatblygu meysydd eraill o waith rhanbarthol drwy ddatblygu staff a phartneriaid eraill i sicrhau'r gwerth cymdeithasol mwyaf ac i ymgysylltu'n ystyrlon â'n dinasyddion.”