Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiodd Sefydliad Dreigiau Bengal gyda'r Gwasanaeth Ynni i ddarparu systemau ynni glanach yn y gymuned Fwslimaidd yn Ne Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Nod Sefydliad Dreigiau Bengal (BDF) oedd cefnogi'r gymuned Fwslimaidd yn ne Cymru i drosglwyddo i systemau ynni glanach a lleihau costau ynni. Gan weithredu fel cyfryngwyr a hyrwyddwyr prosiectau, gweithiodd BDF gyda'r Gwasanaeth Ynni i uwchsgilio cymunedau a darparu gosodiadau solar a batri mewn saith eiddo.

Ein cefnogaeth

Cyflwyno'r prosiect i Ynni Teg, cefnogi ceisiadau grant, a darparu rheoli prosiect ac arweiniad technegol trwy gydol y cyflawniad.

Datrysiad technoleg

  • 7 system solar ffotofoltäig (9-18 kWp yr un).
  • Systemau storio batri 20 kWh ym mhob lleoliad.
  • Pwyntiau gwefru EV 7 kW gyda 4 soced.
  • Rheolyddion solar ar gyfer tanciau dŵr poeth mewn 5 eiddo.
  • Gwresogyddion is-goch wedi'u gosod mewn 1 eiddo.

Buddsoddiad

  • Ariannwyd y datblygu gan Ynni Teg fel budd cymunedol; ariannwyd 100% o’r costau cyfalaf gan Ynni Cymru.

Effaith

  • Amcangyfrifir bod 0.22 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy wedi'i osod.
  • Rhagwelir arbedion o 335 tCO₂e dros oes y prosiect.
  • Defnyddiwyd dau gwmni gosod lleol, gan gefnogi isgontractwyr lleol a rhoi hwb i'r economi gymunedol.

Roedd y Gwasanaeth Ynni yn allweddol wrth ddod â Sefydliad Dreigiau Bengal ac Ynni Teg at ei gilydd a'n helpu i gwmpasu uchelgeisiau'r gymuned yn brosiectau y gellid eu gwireddu. Rydym yn ddiolchgar am eu diddordeb parhaus yn ein cynnydd a'r cyngor a roddir. Edrychwn ymlaen at eu cefnogaeth barhaus wrth i ni ddatblygu camau nesaf y prosiect ehangach.

Sefydliad Dreigiau Bengal.