Neidio i'r prif gynnwy

Bydd bron i £1m o gyllid gan yr UE yn cael ei ddefnyddio i hybu gobeithion pobl ifanc sy’n agored i niwed ym Mhowys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cyngor Powys wedi sicrhau’r arian er mwyn mentora, annog a hyfforddi pobl ifanc sy’n wynebu nifer o heriau, gan gynnwys hunanhyder isel, problemau iechyd meddwl ac effeithiau tlodi.

Bydd tua 600 o bobl ifanc 11 i 16 oed yn gweld manteision y cyllid hwn dros y tair blynedd nesaf fel rhan o brosiect newydd Cynnydd. Bydd y prosiect hwn yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Powys mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: 

“Bydd Cynnydd yn rhoi cefnogaeth ddwys i gannoedd o bobl ifanc ym Mhowys er mwyn eu helpu i oresgyn heriau a gwireddu eu potensial.

“Eto, dyma enghraifft o sut y mae arian yr UE yn helpu i hybu sgiliau a gobeithion pobl Cymru. Daw hwn ar ben y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau, hyfforddeiaethau, rhaglenni i raddedigion a chynlluniau cyflogaeth ledled y wlad.”

Bwriad Cynnydd yw helpu pobl ifanc i symud ymlaen ym myd addysg a hyfforddiant, a thrwy hynny, wella eu cyfleoedd am swydd a gyrfa yn y dyfodol.

Bydd y gefnogaeth yn cynnwys mentora, hyfforddiant a chwnsela unigol ac yn rhoi mynediad at gyrsiau i wella sgiliau sylfaenol, hunanhyder a sgiliau bywyd.

Hefyd, bydd y prosiect yn meithrin cysylltiadau â chyflogwyr lleol i gynnig blas ar waith a chyfleoedd profiad gwaith sy’n fwy ffurfiol.

Dywedodd y Cynghorydd  Rachel Powell, Aelod Cabinet Cyngor Powys dros Blant, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Hamdden: 

“Mae’r prosiect hwn yn amlygu cyfle i fuddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc ac rwy’n sicr y bydd y cymorth ychwanegol hwn yn hwb i’w hyder a’u sgiliau.

“Mae’n allweddol bod ein pobl ifanc yn cael cyfleoedd cyfartal er mwyn llwyddo ac i’w galluogi i symud ymlaen i fod yn oedolion ifanc llwyddiannus

“Bydd y Tîm Gwasanaeth Ieuenctid yn cydweithio â Gyrfa Cymru i gynnig cefnogaeth bersonol i bobl ifanc gan roi cyfle iddynt feddu ar sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad. Rwy’n falch iawn bod yr arian hwn yn mynd i roi cymorth i ni i ddechrau ar brosiect Cynnydd Powys er mwyn rhoi hwb i’n heconomi a’n cymunedau.”