Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i roi profiad i bobl ddi-waith er mwyn dechrau gyrfa yn y sector gofal plant, wedi'i ganmol gan Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymwelodd y Gweinidog â Meithrinfa Ddydd Li'l Angels yn Shotton, Glannau Dyfrdwy heddiw er mwyn cwrdd â rhai o'r bobl sy'n rhan o brosiect Childcare Works Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Nod y prosiect, sydd wedi bod ar waith yn Sir y Fflint a Wrecsam yn y Gogledd, ac sydd wedi bod yn targedu'r rheini dros 50 oed, yw darparu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar y rheini sy'n ddi-waith ar hyn o bryd, ac nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant, i ailymuno â'r gweithlu a datblygu gyrfa yn y sector gofal plant.  

Mae'r prosiect yn helpu i weithredu cynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar, sy'n amlinellu cynlluniau i feithrin capasiti a gallu ar draws y sector gofal plant yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi cynlluniau Gweinidogion i greu swyddi o ansawdd yn nes at gartrefi pobl.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r Gweinidog â Gary Sibbald, a arferai fod yn ddi-waith ond sydd wedi bod ar leoliad gwaith yn y feithrinfa. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol:

"Pleser o'r mwyaf oedd cael ymweld â Meithrinfa Ddydd Li'l Angels heddiw. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld sut mae ein buddsoddiad yn y gwaith o ddatblygu'r sector gofal plant yng Nghymru nid yn unig yn creu llefydd gofal plant o ansawdd, ond hefyd yn creu swyddi o ansawdd i bobl leol.

"Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn cwrdd â Gary, sy'n hyfforddi i weithio yn y sector gofal plant o dan brosiect Childcare Works. Roedd yn wych clywed am y ffordd mae wedi cael cymaint o effaith ar y plant - yn enwedig un ferch fach a oedd yn gwrthod siarad, ac sydd nawr wedi dod i siarad ers iddo fe ddechrau gweithio yno."

Mae'r Gymdeithas wedi cefnogi 16 o unigolion mewn gwahanol leoliadau meithrin, gan weithio mewn partneriaeth â pherchnogion y meithrinfeydd i ddarparu hyfforddiant penodol mewn gofal plant, sgiliau trosglwyddadwy a lleoliadau gwaith am dâl. 

Mae'r lleoliadau yn agor y ffordd i gyfleoedd gwaith yn y dyfodol ac mae rhai eisoes wedi manteisio ar gyfleoedd newydd o fewn y sector.  

Dywedodd Gary Sibbald, sydd ar leoliad gyda Meithrinfa Li'l Angels yn Shotton ar hyn o bryd:

"Fe wnaeth pawb imi deimlo'n gartrefol yma o'r diwrnod cyntaf. Mae'r staff a'r plant i gyd yn gwneud y llwybr newydd yma yn gyffrous iawn imi, a dw i'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd."

Dywedodd Sue, ei reolwr yn Li'l Angels: 

"Rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni wedi cael bod yn lleoliad ar gyfer y prosiect hwn, a bod y Gweinidog wedi dewis ymweld â ni wedyn."

Dywedodd Lorraine, sydd ar leoliad ym Meithrinfa Ddydd Kingfisher House, Penarlâg:  

"Cyfle gwych i ddysgu sgiliau galwedigaethol newydd mewn amgylchedd cefnogol, sydd wedi arwain yn y pen draw at yrfa newydd o fewn y sector gofal plant. Diolch i Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd ac i Lywodraeth Cymru am eich holl help!"

Ychwanegodd Huw Irranca-Davies: 

"Roeddwn i wrth fy modd yn cael mynd i ddigwyddiad Dathlu Childcare Works a chyflwyno'r tystysgrifau i ddathlu llwyddiant yr unigolion hyn.  Mae'r prosiect yma wedi helpu i ddenu sgiliau a phrofiad newydd i'r sector. Mae wedi helpu hefyd i greu cyfleoedd gwaith gofal plant, a galluogi pobl i ddefnyddio eu sgiliau newydd i ddechrau ar yr hyfforddiant ffurfiol sydd ei angen ar gyfer y sector."   

Yn nes ymlaen yn y diwrnod, fydd y Gweinidog yn cyflwyno dystysgrifau yn nigwyddiad Dathlu Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru i unigolion sydd wedi llwyddo ym mhrosiect Childcare Works.