Heddiw, mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi croesawu buddsoddiad gwerth €4.2m gan yr UE mewn prosiect trawsffiniol i hybu diwydiant ynni'r môr yng Nghymru ac yn Iwerddon.
Bydd y prosiect Selkie, a ariennir gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru yr UE, yn dod ag ymchwilwyr a busnesau arweiniol o'r ddwy wlad ynghyd i greu technolegau i helpu i wella perfformiad dyfeisiadau ynni'r môr sy'n cael eu datblygu gan fusnesau yng Nghymru ac yn Iwerddon.
Bydd Coleg Prifysgol Corc yn arwain y prosiect mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Menter Môn, DP Energy Ireland a chwmni Gavin and Doherty Geosolutions, sydd wedi'i leoli yn Nulyn.
Fel rhan o'r prosiect, caiff yr offer newydd eu treialu ar ddyfeisiadau tonnau a llanw i bennu pa mor ddibynnol ydynt a'r potensial ar gyfer masnachu.
Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu rhwydwaith trawsffiniol o ddatblygwyr ynni'r môr a busnesau yn y gadwyn gyflenwi, gan gefnogi rhaglenni ymchwil a datblygu sy'n cynnwys academyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant o'r ddwy wlad.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd 150 o fusnesau o Gymru ac Iwerddon yn elwa ar y prosiect.
Dywedodd Dr Gordon Dalton, uwch-ymchwilydd yng Nghanolfan Ynni'r Môr ac Ynni Adnewyddadwy Iwerddon (MaREI):
“Yng Ngholeg Prifysgol Corc mae canolfan ymchwil MaREI, sydd ymhlith y gorau yn y byd, ac sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ynni'r môr ac ynni adnewyddadwy. Rydym wrth ein boddau cael cydlynu prosiect Selkie, gan ddefnyddio ein cyfleusterau a'n sgiliau i arwain y gwaith profi ffisegol ar y dyfeisiadau prototeip.
Nid oes unrhyw danciau profi o'r math hwn yng Nghymru, felly bydd y datblygiad ym Môr Iwerddon yn adnodd gwerthfawr. Rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio gyda datblygwyr y ddyfais yng Nghymru i ddod â gwahanol arbenigeddau ynghyd i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu diwydiant ynni’r môr.”
Gyda chymorth gwerth €80m o arian gan yr UE, mae rhaglen Cymru-Iwerddon yn cefnogi busnesau a sefydliadau yn y ddwy wlad i weithio gyda'i gilydd mewn gwahanol feysydd gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, arloesedd, treftadaeth ddiwylliannol a thwristiaeth.
Mae'r rhaglen yn un o deulu o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd sy'n cynnig cyfleoedd i ranbarthau yn yr UE gydweithio i fynd i'r afael â'r heriau economaidd, amgylchedd a chymdeithasol y maent yn eu rhannu.
Dywedodd Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru:
“Mae dod ag arbenigedd o Gymru ac Iwerddon ynghyd yn hollbwysig os ydym am oresgyn heriau cyffredin, a manteisio ar y cyfleoedd sy'n codi yn sgil ein ffin gyda Môr Iwerddon gan gynnwys y potensial i gynhyrchu ynni glân.
“Mae ein perthynas ag Iwerddon yn bwysig iawn, felly rwy'n falch gweld ein dwy wlad yn cydweithio ar fater sy'n flaenoriaeth mor bwysig ar lefel fyd-eang.”
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohoe T.D., sydd â chyfrifoldeb polisi cyffredinol dros Gronfeydd Strwythurol yr UE yn Iwerddon: “Rwy’n falch iawn o groesawu prosiect arall dan raglen drawsffiniol Iwerddon-Cymru.
“Dyma enghraifft berffaith o’r math o synergedd sy’n bosib pan fydd sefydliadau trydydd lefel a busnesau yn cydweithio’n agos ac yn datblygu atebion arloesol a chynaliadwy i ateb heriau ynni’r dyfodol. Hoffwn gydnabod a chanmol ymdrechion pawb fu’n cymryd rhan, o Goleg Brifysgol Cork, Prifysgol Abertawe, a chonsortiwm o fusnesau ac arweinwyr yn y sector ynni adnewyddadwy.”