Bydd saith prosiect arfordirol cymunedol ledled Cymru yn derbyn rhan o fwy na hanner miliwn o bunnoedd i wella amgylcheddau morol, cryfhau economïau lleol ac adeiladu gwydnwch hirdymor ar gyfer cymunedau arfordirol a'n diwydiant pysgota.
- Saith prosiect ar draws chwe ardal awdurdod lleol yn derbyn cyfran o £540,761
- Cyllid yn cefnogi adfer wystrys, monitro morol, gwelliannau harbwr a datblygu llwybrau bwyd môr
- Y cynllun wedi'i gyflwyno drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Mae'r prosiectau – sy'n rhychwantu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn – yn amrywio o sefydlu pwll silio wystrys brodorol pwrpasol yn Nhalacharn i raglen arsyllfa forol newydd a arweinir gan y gymuned ar draws y Fenai.
Mae'r cyllid yn cefnogi gwaith sy'n cynnwys monitro gwyddoniaeth dinasyddion ym Mae Ceredigion, llwybr bwyd môr cynaliadwy yng Nghonwy, gwelliannau diogelwch harbwr yng Nghei Connah a Phorthladd Amlwch, a monitro mamaliaid morol yn well yng Ngwynedd o dan fenter Clust i'r Môr.
Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:
"Cymunedau arfordirol Cymru yw ceidwaid ein hamgylcheddau morol cyfoethocaf, ac mae'r cyllid hwn yn cefnogi eu gwaith i'w diogelu a'u cynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"O adfer wystrys brodorol yn Nhalacharn i fonitro mamaliaid morol oddi ar arfordir Gwynedd, mae'r prosiectau hyn yn dangos beth all gwybodaeth leol a gweithredu cymunedol ei gyflawni.
"Rydyn ni'n buddsoddi mewn moroedd glân, cadwyni cyflenwi dyframaethu a physgodfeydd cryf ac economïau arfordirol gwydn – oherwydd mai arfordir Cymru yw un o'n hasedau mwyaf."
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, Adfywio, y Cefn Gwlad a Thwristiaeth, Cyngor Sir y Fflint:
"Rydyn ni'n falch iawn o fod wedi derbyn Cyllid Adeiladu Capasiti Arfordirol!
Edrychwn ni ymlaen at ddechrau'r gwaith yn Nociau Cei Connah, gan osod cylchoedd angori masnachol newydd, arwyddion dehongli a meinciau newydd.
Bydd y rhain yn gwneud yr ardal yn fwy diogel, gyda rhagor o gyfleoedd masnachol ar gyfer gweithgareddau morol a physgodfeydd, a gweithgareddau hamdden wedi'u trefnu.
Mae hwn yn gam hynod bwysig ar ein taith tuag at gwblhau ein Cynllun Rheoli Parc Arfordir Sir y Fflint ar gyfer Hyb Cei Connah
Diolch i Gadetiaid Môr Cei Connah a grwpiau cymunedol lleol byddwn yn gweithio gyda'r gymuned a defnyddwyr y Dociau ar y prosiect hwn.
Bydd ein digwyddiadau cymunedol yn dod â phobl at ei gilydd i lanhau'r amgylchedd a gweithio gyda'n gilydd i greu mannau i bobl a natur ffynnu."
