Sefydlwyd system fonitro i awdurdodau lleol i fonitro’r defnydd o’r grant a’i effaith.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Prosiectau awdurdodau lleol i leihau effaith y newidiadau i fudd-daliadau tai, gan ddefnyddio arian y Grant Digartrefedd
Er mwyn helpu awdurdodau lleol i atal digartrefedd yn sgil newidiadau i drefn budd-daliadau tai, rhoddodd Llywodraeth Cymru £2.15 miliwn i awdurdodau lleol fis Mawrth 2014.
Defnyddiwyd hwn i ddatblygu prosiectau i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau a rhoi cymorth a chyngor i landlordiaid a thenantiaid.
