Esbonio rôl Gwasanaeth Cynghori ar Ansawdd Tir Llywodraeth Cymru yn y broses cydsyniad seilwaith.
Cynnwys
Y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas
Mae Gweinidogion Cymru yn ymgynghorai statudol ar gyfer datblygiadau sy'n arwain at golli tir amaethyddol mewn perthynas â'r canlynol:
(i) colli o leiaf 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio (neu a oedd yn cael ei ddefnyddio ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu
(ii) colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio (neu a oedd yn cael ei ddefnyddio ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, o dan amgylchiadau lle mae'r datblygiad yn debygol o arwain at golli mwy o dir amaethyddol sy'n dod i gyfanswm cronnol o 20 hectar neu fwy.
Mae Gwasanaeth Cynghori ar Ansawdd Tir Llywodraeth Cymru (y Gwasanaeth) yn gyfrifol, ar ran Gweinidogion Cymru, am bob ymgynghoriad ar y materion hyn. Mae manylion y trefniadau gweithdrefnol ar gyfer ymgynghori â'r Gwasanaeth ar gael yn Nodyn Cyngor Technegol 6, Atodiad B.
Dylai ceiswyr ystyried tystiolaeth o ansawdd tir amaethyddol ar ddechrau'r broses o ddewis safle. Mae hyn yn cynnwys pan fyddant:
- yn ystyried ardaloedd chwilio
- yn ystyried safleoedd amgen
- yn datblygu cynigion penodol
Felly, mae ymgysylltu'n gynnar â'r Gwasanaeth yn bwysig iawn. Gall y Gwasanaeth roi cyngor ar effeithiau ar ansawdd tir amaethyddol, gan gynnwys arolygon ac ymchwiliadau priodol. Bydd hyn yn helpu ceiswyr i ystyried effeithiau cydsyniad seilwaith arfaethedig ar ansawdd tir amaethyddol.
Mae'r Gwasanaeth yn annog ceiswyr i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cyngor Dewisol,sy'n darparu cyngor anstatudol mewn perthynas â chynigion datblygu.
Y system Dosbarthu Tir Amaethyddol
Mae'r system Dosbarthu Tir Amaethyddol yn darparu ffordd gyson o asesu ansawdd tir ffermio yng Nghymru. Mae'n helpu i lywio penderfyniadau ynghylch defnydd tir amaethyddol yn y dyfodol o fewn y system gynllunio. Dyma'r unig system sydd wedi'i chymeradwyo at y diben hwn.
Mae'r system yn dosbarthu tir yn bum gradd. Gradd 1 yw'r ansawdd gorau a gradd 5 yw'r ansawdd gwaethaf. Mae Gradd 3 wedi'i rhannu'n is-raddau, sef 3a a 3b.
Disgrifir y fethodoleg raddio gyfredol yn The Agricultural Land Classification of England and Wales Guidelines for grading the quality of agricultural land (JP069 - Defra / Llywodraeth Cymru 2025).
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn diffinio tir amaethyddol graddau 1, 2 a 3a fel y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas. Mae hwn yn dir o ansawdd rhagorol i dda a all ddarparu cnydau bwyd a chnydau nad ydynt yn fwyd ar gyfer y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Dosbarthiad tir amaethyddol: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU
Gwybodaeth am ansawdd tir amaethyddol
Rhaid gwybod gradd y tir o dan y Dosbarthiad Tir Amaethyddol ar gyfer asesiadau gofodol a phenderfyniadau rheoli datblygu. Mae'r siart lif yn Rhan 4 o Dosbarthiad Tir Amaethyddol: Canllaw ar y Map Rhagweld yn dangos y broses benderfynu.
Lle bo'r Map Rhagweld Dosbarthiad Tir Amaethyddol ar MapDataCymru yn nodi graddau 1, 2 neu 3a, bydd angen arolwg maes manwl llawn o Ddosbarthiad Tir Amaethyddol. Bydd hyn yn cadarnhau'r graddau sy'n bresennol a chyfran pob gradd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi data arolygon presennol ar MapDataCymru. Dylai ceiswyr wirio'r cofnodion hyn cyn comisiynu arolwg. Bydd hyn yn cadarnhau a yw'r safle, neu'r safleoedd, eisoes wedi cael ei arolygu neu eu harolygu'n fanwl.
Os nad oes cofnod o arolwg ar gyfer y safle, neu os bydd rhan o'r safle heb ei harolygu o hyd, dylai'r ceisydd gomisiynu arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol.
Os bydd parti yn gwrthod neu'n methu â chomisiynu arolwg, neu os na fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn yr arolwg, rhaid derbyn Gradd y Map Rhagweld fel yr wybodaeth orau sydd ar gael. Bydd hyn yn gymwys oni bai bod y Gwasanaeth yn cynghori fel arall.
Yn ogystal â'r ymgynghoriad statudol â Gweinidogion Cymru, gall y Gwasanaeth Cynghori ar Ansawdd Tir ddarparu'r canlynol am ddim ar gais:
- copïau o arolygon Dosbarthiad Tir Amaethyddol presennol sy'n cael eu dal gan Lywodraeth Cymru
- cyngor ar ofynion arolygon Dosbarthiad Tir Amaethyddol
- gwasanaeth dilysu i asesu a yw arolygon Dosbarthiad Tir Amaethyddol a gomisiynwyd yn breifat yn dderbyniol
Mae'r gwasanaeth dilysu yn helpu pob parti i deimlo'n hyderus yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer pob cynnig, gan gynnwys y rhai sydd islaw'r trothwy ymgynghori statudol.
Gall arolygon Dosbarthiad Tir Amaethyddol ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol gwmpasu ardaloedd mawr. Gallant gynnwys sawl safle a bod yn gymhleth. Gallai hyn olygu bod angen eglurhad pellaeth, trafodaethau ac ymweliad â'r safle.
Dylai ceiswyr wneud cais i'r Gwasanaeth ddilysu arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol cyn gynted â phosibl wrth ddatblygu cynigion, fel yn ystod y cam cwmpasu.
Cysylltu
E-bost: lqas@gov.wales
Dewis safle
I ddewis safle strategol effeithiol, rhaid ystyried tystiolaeth o ansawdd tir amaethyddol yn gynnar. Dylai ceiswyr ystyried y dystiolaeth hon pan fyddant:
- yn nodi ardaloedd chwilio
- yn ystyried safleoedd amgen
- yn datblygu cynigion penodol
Dylid defnyddio'r Map Rhagweld Dosbarthiad Tir Amaethyddol, fel y'i diweddarwyd, a data arolygon cyhoeddedig a ddelir gan y Gwasanaeth cyn gynted â phosibl yn y broses o chwilio am safle. Bydd hyn yn helpu ceiswyr i osgoi'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas.
Dylai'r ardal chwilio am safle adlewyrchu maint, natur ac angen lleoliadol y datblygiad.
Er enghraifft, gallai'r ardal chwilio strategol ar gyfer prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol ddechrau fel asesiad cenedlaethol, oni bai bod angen lleoliadol penodol wedi'i sefydlu.
Wrth ddangos tystiolaeth o'r broses dewis safle, dylai ceiswyr nodi:
- y broses chwilio am safle strategol
- angen lleoliadol y datblygiad arfaethedig
- pob dewis amgen rhesymol
- gwybodaeth am ansawdd y tir, gan gynnwys a yw'n dir sydd wedi'i ddatblygu yn flaenorol
Os bydd tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas wedi'i ragweld o fewn ffin llinell goch cynnig, dylai ceiswyr ddangos sut y cynhaliwyd y broses dewis safle ac esbonio'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r angen tra phwysig am y lleoliad a ddewiswyd.
Gall fod gan dir gradd is sydd ar gael werth amgylcheddol a gydnabyddir gan ddynodiad tirwedd, bywyd gwyllt, hanesyddol neu archaeolegol (a gydnabyddir yn genedlaethol). Os bydd y gwerth hwn yn drech na'r ystyriaethau amaethyddol, dylai ceiswyr nodi hyn fel rhan o'r broses o ddewis safle. Dylai ceiswyr hefyd esbonio'r pwysoliad a roddwyd i'r mater hwn.
Os bydd angen datblygu tir gradd 1, 2 neu 3a, a bod dewis rhwng safleoedd o wahanol raddau, mae angen arolygon Dosbarthiad Tir Amaethyddol i gadarnhau'r graddau. Yna dylai'r broses o ddewis safle ddangos sut mae'r cynnig wedi'i gyfeirio at dir ar y radd isaf.
Dylai ceiswyr ddangos y broses dewis safle mewn papur pwnc penodol. Dylai'r papur hwn fod ar gael cyn gynted â phosibl, fel yn ystod y cam cyn gwneud cais.
Gofynion arolygu
Caiff y meini prawf graddio eu nodi yn The Agricultural Land Classification of England and Wales Guidelines for grading the quality of agricultural land (JP069 - Defra / Llywodraeth Cymru 2025).
Mae'r Agricultural Land Classification Instruction Manual for England and Wales (JP0XX – Llywodraeth Cymru / Defra / Natural England 202X) yn nodi sut i gynnal arolwg ac yn darparu templed ar gyfer arolwg.
Ar gyfer arolygon Dosbarthiad Tir Amaethyddol manwl llawn, y dwysedd samplu yw 1 twll drilio fesul hectar. Mae hyn yn golygu:
- ar fylchau grid sefydlog o 100 metr er mwyn osgoi tuedd arolwg
Ar gyfer llwybrau llinol, dylai'r dwysedd samplu gyfateb i tua 1 twll drilio bob 100 metr.
Dylid defnyddio map sylfaen yr Arolwg Ordnans, neu fap tebyg.
Dylai ceiswyr ymgynghori â'r Gwasanaeth a chytuno ar y fethodoleg cyn dechrau arolwg os byddant yn cynnig naill ai:
- arolwg dwysedd samplu / lefel ragchwilio is
- arolwg rhydd
Ni fydd y Gwasanaeth yn derbyn arolygon o'r fath fel arfer.
Ar gyfer ardaloedd arolygu o lai na 3 hectar, dylai'r dwysedd samplu gyfateb i'r canlynol o leiaf:
- 3 thwll drilio
- 1 pydew pridd
Ar safleoedd bach, dylai lleoliadau'r tyllau drilio fod o leiaf 10 metr o ffiniau caeau a dylent fod yn gynrychioliadol o'r safle.
Dylai adroddiadau arolygon gynnwys:
- gwybodaeth lawn am yr hinsawdd, y safle a'r pridd cefndirol
- ffotograffau, lle bo angen
- arsylwadau llawn o dyllau drilio a phydewau pridd
- unrhyw dystiolaeth ategol arall sydd ei hangen i gyfiawnhau'r radd
Ni ddylai adroddiadau arolygon gynnwys unrhyw drafodaeth bolisi ar rinweddau'r cynnig, neu fel arall. Dylid gwneud hyn mewn dogfen ar wahân.
Dilysu arolygon
Bydd arolygon a dderbynnir gan y Gwasanaeth naill ai drwy ei Wasanaeth Cyngor Dewisol neu o dan drefniadau ymgynghori statudol yn cael eu hasesu yn erbyn:
- The Agricultural Land Classification of England and Wales Guidelines for grading the quality of agricultural land (JP069 - Defra / Llywodraeth Cymru 2025)
- The Climatological Data for Agricultural Land Classification (MAFF 1989)
- Agricultural Land Classification Instruction Manual for England and Wales (JP0XX –Llywodraeth Cymru / Defra / Natural England 202X)
- Gwybodaeth gyhoeddedig o Arolwg Pridd Cymru a Lloegr
- Arolygon Dosbarthiad Tir Amaethyddol presennol sy'n berthnasol
- Setiau data eraill sydd ar gael fel yr Arolwg Ordnans, Lidar, delweddau o'r awyr
- Gwaith dilysu maes (os oes angen)
Opsiynau ymateb y Gwasanaeth wrth ddilysu arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol
Bydd y Gwasanaeth yn ymateb i geisiadau i ddilysu arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol yn un o'r ffyrdd canlynol.
- Derbyn yr arolwg
Gall y Gwasanaeth dderbyn canfyddiadau'r arolwg fel adlewyrchiad cywir o ansawdd tir amaethyddol.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Gwasanaeth yn argymell y dylai'r ceisydd a'r awdurdod penderfynu dderbyn y canfyddiadau hefyd.
- Gofyn am eglurhad
Os bydd diffygion neu bwyntiau y mae angen eglurhad technegol yn eu cylch, bydd y Gwasanaeth yn eu nodi ac yn gofyn i'r ceisydd ddarparu ymateb ysgrifenedig o fewn amserlen benodol.
Caiff y rhan fwyaf o ymholiadau eu datrys yn y ffordd hon fel arfer.
O dan rai amgylchiadau, efallai mai ymweld â'r safle yw'r ffordd orau o ddatrys ymholiadau technegol. Os bydd angen gwneud hyn, bydd y Gwasanaeth yn gofyn i'r ceisydd drefnu bod syrfëwr o Lywodraeth Cymru, neu syrfëwr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cael caniatâd i ymweld â'r safle.
Bydd y Gwasanaeth yn egluro pam mae angen yr ymweliad ac yn nodi unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Os bydd mân faterion technegol heb eu datrys, gall y Gwasanaeth dderbyn canfyddiadau'r arolwg a thynnu sylw at y materion technegol sy'n weddill yn ei ymateb dilysu.
Os bydd materion technegol sylweddol yn parhau heb eu datrys, a'u bod yn berthnasol i'r broses o raddio'r safle, bydd y Gwasanaeth yn argymell y dylai'r ceisydd a'r awdurdod penderfynu wrthod yr arolwg.
Gall y Gwasanaeth hefyd argymell y dylid gwrthod yr arolwg os na fydd y ceisydd wedi ymateb i geisiadau am eglurhad o fewn amserlen benodol.
Yn yr achosion hyn, bydd y Gwasanaeth yn argymell y dylid defnyddio'r Map Rhagweld Dosbarthiad Tir Amaethyddol (fersiwn 2 neu fel y'i diweddarwyd) fel yr wybodaeth orau sydd ar gael.
Gall y Gwasanaeth wrthod arolwg os nad yw wedi'i gwblhau yn unol â The Agricultural Land Classification of England and Wales Guidelines for grading the quality of agricultural land (JP069, Defra a Llywodraeth Cymru, 2025).
Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Gwasanaeth yn argymell y dylid naill ai:
- comisiynu arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol newydd yn unol â'r canllawiau
- defnyddio'r Map Rhagweld Dosbarthiad Tir Amaethyddol (fersiwn 2 neu fel y'i diweddarwyd) fel yr wybodaeth orau sydd ar gael, os na chomisiynir arolwg newydd neu os bydd yr arolwg yn parhau i fod yn annilys
Bydd yr holl ddata o arolygon dilys yn cael eu hychwanegu at Fap Data Cymru a'u defnyddio mewn fersiynau o'r Map Rhagweld Dosbarthiad Tir Amaethyddol yn y dyfodol.
Os nad yw'r ceisydd wedi ymateb i sylwadau'r Gwasanaeth yn ystod y cam cyn gwneud cais, bydd sylwadau tebyg yn cael eu codi ar ôl i Weinidogion Cymru dderbyn y cais.
Mynegi barn
Pan ymgynghorir â Gweinidogion Cymru, boed yn statudol neu'n anstatudol, bydd y Gwasanaeth yn cadarnhau materion technegol i'r awdurdod penderfynu.
Gallai hyn gynnwys:
- faint o dir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas sydd o fewn ffin y llinell goch, lle mae arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol wedi'i ddilysu
- unrhyw faterion technegol sydd heb eu datrys gydag arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol a'u harwyddocâd
- os bydd y Gwasanaeth wedi gwrthod arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol, y rhesymau dros ei wrthod a chyngor ar ansawdd y tir
Lle nad oes angen ymgynghori â Gweinidogion Cymru
O dan rai amgylchiadau, ni fydd y gofynion ymgynghori penodol â Gweinidogion Cymru a nodir yn rhan 1 yn berthnasol.
Yn yr achosion hyn, dylai'r awdurdod penderfynu allu penderfynu ar geisiadau i ddatblygu ar dir amaethyddol gan ddefnyddio'r dystiolaeth sydd o'i flaen, fel arfer.
Os na fydd yr awdurdod penderfynu yn teimlo y gall benderfynu'n foddhaol ar y cais, gall ofyn am gyngor technegol gan y Gwasanaeth. Er enghraifft, gall ofyn am gyngor ar oblygiadau o ran ansawdd tir amaethyddol.
Dim ond materion yn ymwneud â manylion technegol y dylid eu trafod yn yr ymgyngoriadau hyn.
Gall rhai ceisiadau cynllunio arwain at oblygiadau sylweddol o ran ansawdd tir amaethyddol ond ni fyddant yn bodloni'r gofynion ymgynghori statudol a nodir yn rhan 1. Pan ddaw'r ceisiadau hyn i sylw Gweinidogion Cymru, gall y Gwasanaeth ddewis rhoi cyngor neu fynegi barn i'r awdurdod penderfynu o hyd.
Mynegi barn yn ffurfiol
Mynegir barn yn ffurfiol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- pan gaiff y trothwyon statudol a nodir yn rhan 1 eu bodloni
- pan fydd goblygiadau amaethyddol sylweddol
Wrth lunio barn, bydd y Gwasanaeth yn ystyried:
- tystiolaeth o'r arolwg Dosbarthiad Tir Amaethyddol
- y broses o ddewis safle a'r rhesymeg dros y dewis
- sut mae'r cynnig yn cymhwyso'r profion polisi a'r canllawiau perthnasol
Gallai polisïau a chanllawiau perthnasol gynnwys:
- Polisi Cynllunio Cymru
- Cymru'r Dyfodol
- Nodiadau Cyngor Technegol
- Llythyrau Annwyl Brif Swyddog Cynllunio
Caiff barn ei mynegi yn unol â'r gofynion ar gyfer ymateb o sylwedd.
- Dim sylw
- Dim gwrthwynebiad a dylid cyfeirio at y cyngor sefydlog
- Pryderon yn bodoli a sut y gellir mynd i'r afael â'r pryderon hynny
- Gwrthwynebu a'r rhesymau dros wrthwynebu
Archwilio
Bydd y Gwasanaeth yn diweddaru unrhyw sylwadau perthnasol cynharach ac yn darparu ymateb o sylwedd i'r awdurdod penderfynu.
Bydd y Gwasanaeth yn cymryd rhan mewn gwrandawiadau perthnasol:
- os bydd yr awdurdod penderfynu wedi gofyn i'r Gwasanaeth fynychu er mwyn rhoi cyngor ar faterion technegol penodol ynghylch ansawdd tir amaethyddol, nid rhinweddau'r cais
- os bydd y Gwasanaeth o'r farn bod materion sylweddol yn parhau heb eu datrys
Bydd y Gwasanaeth yn hysbysu'r awdurdod penderfynu pan fydd o'r farn nad oes angen gwrandawiad pwnc-benodol i benderfynu ar gais sy'n effeithio ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas.
Bydd hyn yn digwydd fel arfer pan fydd y Gwasanaeth yn ystyried bod gan yr awdurdod penderfynu yr holl wybodaeth sydd ei hangen arno i wneud argymhelliad neu wneud penderfyniad ynghylch y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas.
