Neidio i'r prif gynnwys

Esbonio rôl y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear yn y broses cydsyniad seilwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rôl y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear

Y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (y Swyddfa) yw rheoleiddiwr niwclear annibynnol Prydain Fawr ar gyfer diogelwch, diogeledd a mesurau diogelu. 

Sefydlwyd y Swyddfa fel corfforaeth gyhoeddus statudol ar 1 Ebrill 2014 o dan Ddeddf Ynni 2013. Mae'n bodoli i amddiffyn pobl drwy dsicrhau gweithrediadau niwclear diogel.

Mae'r Swyddfa yn cyflawni pum diben statudol i sicrhau gweithrediadau niwclear diogel nawr ac yn y tymor hir, sef:

Mae'r Swyddfa yn rheoleiddio diogelwch niwclear, diogeledd niwclear ac iechyd a diogelwch safleoedd niwclear yn y 36 o safleoedd niwclear trwyddedig ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys: 

  • adweithyddion gweithredol
  • cyfleusterau cylch tanwydd
  • safleoedd rheoli gwastraff 
  • safleoedd datgomisiynu
  • safleoedd amddiffyn trwyddedig ac, yn rhannol, awdurdodedig
  • cynllun ac adeiladwaith cyfleusterau niwclear newydd, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi

Oherwydd ei rôl reoleiddio, mae'r Swyddfa yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosesau cynllunio, cydsynio a rheoli datblygu ac yn rhoi cyngor arnynt.

Prosesau

Mae gan y Swyddfa rolau gwahanol o dan ddeddfwriaeth wahanol. Gall weithredu fel:

  • awdurdod caniatâd
  • rheoleiddiwr
  • ymgynghorai statudol
  • cynghorydd

Cydsyniad seilwaith

Mae gan y Swyddfa rôl gynghori yn y broses gorchymyn cydsyniad seilwaith ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys safleoedd niwclear. 

Dylai ceiswyr gysylltu â'r Swyddfa cyn gynted â phosibl i drafod p'un a allai fod angen i'r Swyddfa ddarparu cyngor ar eu prosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig. 

Mae'r Swyddfa hefyd yn darparu cyngor technegol i benderfynwyr cynllunio ar:

  • effaith bosibl peryglon allanol o brosiect seilwaith arwyddocaol ar safle niwclear 
  • a allai prosiect seilwaith arwyddocaol gynyddu'r risg o oblygiadau radiolegol i'r cyhoedd pe bai argyfwng ymbelydredd, er enghraifft adeiladu gorsaf ynni niwclear newydd

Trwyddedu safle niwclear

Caiff diogelwch a diogeledd gosodiadau niwclear ym Mhrydain Fawr eu rheoli drwy system o reolaeth reoleiddiol. 

Mae'r system hon yn seiliedig ar roi trwydded i gorff corfforaethol ddefnyddio safle diffiniedig ar gyfer gweithgareddau niwclear penodedig. 

Y prif ddeddfwriaeth ar gyfer rheoleiddio diogelwch niwclear yn y DU yw Deddf Gosodiadau Niwclear 1965.

Mae manylion y drefn drwyddedu ar gael ar wefan y Swyddfa.

Rydym yn annog ymgysylltu cynnar ar gyfer prosiectau niwclear newydd. Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi datblygu proses ar gyfer ymgysylltu rheoleiddiol cynnar. Mae'r broses hon yn berthnasol i sefydliadau sy'n awyddus i ddefnyddio technoleg adweithyddion ym Mhrydain Fawr.

Ewch i: Early regulatory engagement on new nuclear projects | Office for Nuclear Regulation

Rolau rheoleiddiol eraill

Yn ogystal â thrwyddedu o dan Ddeddf Gosodiadau Niwclear 1965, mae'r Swyddfa yn rheoleiddio gweithgareddau eraill ar safleoedd niwclear gan gynnwys:

Y Swyddfa yw'r rheoleiddiwr ar gyfer cludo deunydd ymbelydrol ym Mhrydain Fawr hefyd. Mae hyn yn berthnasol i bob lleoliad, nid dim ond safleoedd niwclear.

Y Swyddfa yw'r rheoleiddiwr hefyd ar gyfer mesurau diogelu niwclear yn y Deyrnas Unedig.

Ewch i: What we regulate | Office for Nuclear Regulation

Rhyngwyneb rhwng prosesau

Mae angen tri chaniatâd pwysig i adeiladu gorsaf ynni niwclear yng Nghymru: 

  • caniatâd cynllunio/Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith/Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (yn dibynnu ar faint y prosiect)
  • trwydded gan y Swyddfa
  • caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Dylai ceiswyr ymgysylltu'n gynnar â'r holl reoleiddwyr. Lle bo hynny'n bosibl, dylai ceiswyr gyflwyno ceisiadau ochr yn ochr. Gall hyn helpu i symleiddio'r broses ac osgoi dyblygu ymdrechion.

Ffynonellau gwybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedu safleoedd niwclear a'r gyfraith ar gael yng nghanllawiau'r Swyddfa. Ewch i: Licensing Nuclear Installations

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa: www.onr.org.uk 

Cysylltu

E-bost: contact@onr.gov.uk