Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael cyngor cyn-ceisiadau gan PEDW.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caiff ymgeiswyr ofyn am wasanaethau cyn-ymgeisio gan PEDW yn unol â Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025. Mae prosesau ar wahân ar gyfer cael cyngor gan awdurdodau cynllunio neu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Efallai y bydd angen Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) ar y prosiect seilwaith arwyddocaol. Mae PEDW yn darparu gwasanaethau Sgrinio AEA a / neu Gwmpasu AEA y mae'n well eu defnyddio cyn gwasanaethau cyn-ymgeisio eraill i helpu i ddatrys ymholiadau yn gynnar. Mae rhagor o wybodaeth am Asesu Effaith Amgylcheddol ar gael yma: Prosiectau seilwaith arwyddocaol (SIP): canllawiau asesiad effaith amgylcheddol

Cyngor a ddarperir gan PEDW

Gallai cyngor gynnwys:

  • ffurf a chynnwys ceisiadau
  • y mathau o adroddiadau technegol y dylid eu cyflwyno gyda'r cais
  • y polisïau perthnasol
  • y weithdrefn ar gyfer gwneud, archwilio a phenderfynu ynghylch ceisiadau prosiect seilwaith arwyddocaol
  • unrhyw gydsyniadau tybiedig neu gydsyniadau wedi'u dileu mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith.

 Yn ogystal, gallwn:

  • wirio cyflawnrwydd y Datganiad Amgylcheddol drafft cyn ei gyflwyno
  • gwirio dilysrwydd y cais cyn ei gyflwyno

Gallwch hefyd ofyn am gyfarfod. Gallai hyn fod i drafod cais ysgrifenedig posibl, neu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am eich cynllun.

Caiff ymgeiswyr ofyn am Gyfarfod Cychwynnol, sef cyfarfod yn gynnar yn y broses ymgeisio. Fel arfer mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir ac yn para am awr. Gall ymgeiswyr gyflwyno trosolwg o’u prosiect seilwaith arwyddocaol a thrafod y prif faterion gweithdrefnol, gan gynnwys:

  • Manylion y cydsyniadau y gofynnwyd amdanynt
  • Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA)
  • Y ffordd mae’r broses ymgeisio’n gweithio
  • Gofynion cyhoeddusrwydd
  • Gofynion ymgynghori
  • Yr amserlen ar gyfer penderfynu ynghylch y cais

Mae cyngor cyn-ymgeisio PEDW:

  • yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddir gan yr ymgeisydd ac nid ydyn ni fel arfer yn ymgynghori â chyrff eraill wrth baratoi ein cyngor
  • nid yw'n rhwymol i'r Awdurdod Arholi

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais i PEDW, dylai ymgeiswyr ofyn am gyngor cyn-ymgeisio gan yr awdurdod cynllunio neu ymgyngoreion perthnasol eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i elwa ar:

  • wybodaeth leol am yr ardal a pholisïau lleol perthnasol
  • gwybodaeth arbenigol am gyfyngiadau safle neu effeithiau tebygol y prosiect seilwaith arwyddocaol 

Gall ymgeiswyr ofyn am gyngor ar unrhyw adeg cyn cyflwyno'r cais. Ond mae'n well cysylltu â PEDW yn PEDW.Seilwaith@llyw.cymru gyntaf i drafod sut y gall PEDW helpu. Yn aml mae'n ddefnyddiol cynnal cyfarfod cychwynnol gyntaf i drafod gweithdrefnau. 

Gwiriadau dilysu

Pan fydd PEDW yn derbyn cais, byddwn yn gwirio ei fod ar y ffurflen berthnasol a'i fod yn cynnwys: 

  • Plan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir sy’n dangos cyfeiriad y gogledd, neu
  • ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru, gyfesurynnau sy’n nodi lleoliad y cais; ac
  • unrhyw blaniau eraill, unrhyw luniadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig, a'r
  • ffi, a
  • manylion unrhyw geisiadau am sgrinio neu farn cwmpasu o dan y Rheoliadau AEA.

Os nad yw'n ddilys, byddwn yn ymateb i egluro pam nad ydyn ni'n ei dderbyn. Os yw'n ddilys, byddwn yn ysgrifennu i gadarnhau hyn a'r dyddiad cau ar gyfer darparu ein hymateb. 

Amserlen

Bydd y cyngor fel arfer yn cael ei ddarparu o fewn 29 diwrnod i'r dyddiad rydyn ni'n cadarnhau bod y cais yn ddilys. Os bydd hyn yn newid, os yw'r cais yn arbennig o gymhleth neu dechnegol, byddwn yn ysgrifennu i gadarnhau dyddiad cau newydd.

Cyhoeddi'r cyngor

Rhaid i PEDW gadw a chyhoeddi cofrestr o geisiadau am gyngor cyn-ymgeisio sy'n cynnwys:

  • copi o'r ffurflen gais,
  • unrhyw blan wedi'i gyflwyno, ac
  • unrhyw ddogfennau, adroddiadau neu wybodaeth arall wedi'u cyflwyno 

Fel arfer rhaid i PEDW gyhoeddi'r cyngor rydyn ni wedi'i ddarparu. Os yw'r ymgeisydd eisiau gofyn inni ohirio cyhoeddi, rhaid iddo gyflwyno rhesymau. Rhaid i'r rhesymau a roddir dros gyfrinachedd orbwyso'r budd i'r cyhoedd o ganlyniad i'w gyhoeddi. Nid ydyn ni'n gallu gohirio'r cyngor yn hwyrach na'r cam hysbysu, neu dair blynedd ar ôl darparu'r cyngor.