Sut i roi gwybod i PEDW cyn i chi wneud cais, gan ddefnyddio'r ffurflen swyddogol.
Cynnwys
Cyflwyniad
Cyn i chi gyflwyno eich cais SIP, yn gyntaf rhaid i chi ddweud wrth PEDW eich bod yn bwriadu gwneud cais.
Mae angen i chi wneud hyn cyn i chi ddechrau unrhyw gyhoeddusrwydd neu ymgynghoriad swyddogol am eich prosiect.
Beth i'w gynnwys yn eich hysbysiad
- Defnyddiwch y ffurflen swyddogol a ddarperir gan Weinidogion Cymru.
- Llenwch yr holl fanylion y mae'r ffurflen yn gofyn amdanynt.
- Atodwch gynllun lleoliad safle (gwnewch yn siŵr ei fod ar raddfa ac yn dangos cyfeiriad y gogledd, neu defnyddiwch gyfesurynnau os yw'n brosiect morol).
- Sicrhewch eich bod yn cynnwys un o'r canlynol:
- Datganiad sy'n dweud y byddwch yn darparu Datganiad Amgylcheddol (mae hyn yn rhan o'r ffurflen), neu
- Copi o gyfarwyddyd sgrinio AEA sy'n dangos nad yw eich prosiect yn ddatblygiad AEA.
- Rhestrwch bawb arall yr anfonwyd copi o'r hysbysiad a gwybodaeth ategol atynt.
- Talwch y ffi ofynnol.
Hysbysu pobl eraill
Pan fyddwch chi'n anfon eich hysbysiad at PEDW, rhaid i chi hefyd anfon copi at:
- bob awdurdod cynllunio perthnasol;
- pob cyngor cymuned (os oes un) lle mae eich prosiect wedi'i leoli
- pob aelod o'r Senedd a Thŷ'r Cyffredin ar gyfer yr ardal
- Cyfoeth Naturiol Cymru (os yw'ch prosiect yn ardal Forol Cymru)
- unrhyw ymgyngoreion statudol neu arbennig eraill a restrir yn y rheoliadau
Amserlenni ar ôl hysbysu
Bydd PEDW yn gwirio eich hysbysiad, eich cynllun a'ch ffi, ac yn penderfynu o fewn 14 diwrnod a fyddant yn ei dderbyn.
Os caiff ei dderbyn, mae gennych 18 mis (gan ddechrau'r diwrnod ar ôl ei dderbyn) i:
- gynnal y cyhoeddusrwydd a'r ymgynghoriad angenrheidiol
- cyflwyno eich cais SIP
Os na fyddwch yn cyflwyno cais dilys o fewn 18 mis, bydd eich hysbysiad yn dod i ben. Bydd yn rhaid i chi gychwyn y broses eto.
