Sut caiff torri caniatâd isadeiledd ei drin, pwy sy'n gweithredu, terfynau amser a chosbau.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r drefn orfodi ar gyfer Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith wedi'i nodi yn Rhan 7 o'r Ddeddf (adrannau 103 i 123).
Gellir torri'r drefn cydsynio seilwaith mewn dwy ffordd:
- datblygu, neu achosi i ddatblygiad gael ei gyflawni, o brosiect seilwaith sylweddol heb gael y Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith angenrheidiol; neu
- torri telerau Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith neu fethu â chydymffurfio â hwy (yn ddarostyngedig i adran 83(3) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024)
Os canfyddir person yn euog o'r naill drosedd neu'r llall, mae'r ddau ddull o dorri yn cario dirwy ddiderfyn fel cosb naill ai ar gollfarn gryno, neu ar gollfarn ar gyhuddiad.
Beth yw'r terfynau amser ar gyfer gweithredu gorfodi
Mae adran 105 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn nodi na chaniateir cyhuddo person o drosedd ar ôl diwedd cyfnod o 4 blynedd, gan ddechrau gyda:
- y dyddiad pan gwblhawyd y datblygiad, neu
- yr hwyraf o'r dyddiad pan gwblhawyd y datblygiad a'r dyddiad y digwyddodd y torri neu'r methu cydymffurfio
Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod o 4 blynedd os cyflwynir hysbysiad gwybodaeth neu os y gwneir gais am waharddiad yn ystod y cyfnod hwn.
Pwy sy'n gyfrifol am gymryd camau gorfodi
Cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol yw gorfodi, yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru hefyd bwerau cyfatebol ar gyfer gorfodi, lle ystyrir ei fod yn angenrheidiol neu'n briodol. Er enghraifft, gall fod er budd y cyhoedd, neu'n fwy effeithlon i Weinidogion Cymru ddefnyddio pwerau o'r fath pan fo toriad yn croesi sawl ardal awdurdod lleol.
Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru fydd gorfodi unrhyw droseddau yn ardal forol Cymru yn unig.
Beth yw camau gofrodi
Yn gyffredinol, mae achosion gorfodi wedi'u rhannu'n dri cham:
- Ymchwiliad
- Erlyniad
- Hysbysiad datblygiad anawdurdodedig
Ymchwiliad
Mae gan swyddogion y pŵer i fynd i mewn i dir at ddibenion gorfodi heb warant (neu mewn achosion brys lle gwrthodwyd mynediad, y pŵer i gael gwarant) i ymchwilio a chasglu tystiolaeth, os ydynt yn credu bod toriad wedi digwydd. Fodd bynnag, nid yw'r pŵer hwn yn ymestyn i dir y Goron.
Mae ganddynt hefyd y pŵer i gyflwyno hysbysiadau gwybodaeth i ofyn am dystiolaeth os oes amheuaeth bod toriad wedi digwydd. Rhaid i unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad gwybodaeth iddo gydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn cyfnod o 21 diwrnod. Mae peidio â chydymffurfio yn drosedd ac mae person a gafwyd yn euog o beidio â chydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad yn agored i ddirwy ar euogfarn ddiannod.
Mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol hefyd y pŵer i gyhoeddi hysbysiadau stopio dros dro os ydynt o'r farn bod gweithgaredd wedi'i wneud, neu yn cael ei wneud, a fyddai'n drosedd, a dylid rhoi'r gorau i'r gweithgaredd (neu ran ohono) ar unwaith. Fodd bynnag, dim ond ar gyfer troseddau posibl ar y tir ac nid yn ardal forol Cymru y gellir eu cyhoeddi. Nid oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyhoeddi hysbysiad stopio dros dro.
Bydd hysbysiadau stopio dros dro yn cael effaith am gyfnod o 28 diwrnod ac ni chaniateir cyhoeddi ail hysbysiad neu hysbysiad dilynol mewn perthynas â'r un gweithgaredd oni bai bod yr awdurdod cynllunio lleol, ers cyhoeddi'r hysbysiad blaenorol, wedi cymryd camau gorfodi eraill mewn perthynas â'r gweithgaredd.
Mae'n drosedd i berson gyflawni gweithgaredd sydd wedi'i wahardd gan hysbysiad stopio dros dro tra ei fod yn cael effaith. Mae person sy’n euog o drosedd yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
Erlyniad
Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn fodlon bod digon o dystiolaeth ar gael i benderfynu erlyn, gellir clywed achos gorfodi yn y llysoedd (naill ai yn Llys yr Ynadon neu Lys y Goron) gan y gellir treialu troseddau y naill ffordd neu'r llall.
Bydd unrhyw berson (neu bersonau) a gafwyd yn euog o drosedd o naill ai gynnal datblygiad prosiect seilwaith sylweddol heb gael y Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith angenrheidiol neu dorri neu fethu â chydymffurfio â thelerau Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith, yn agored i ddirwy, a all fod yn ddiderfyn.
Mater i'r llysoedd fydd penderfynu ar swm dirwy, yn seiliedig ar natur a maint y drosedd.
Hysbysiad datblygiad anawdurdodedig
Pan welir fod person yn euog o dramgwydd mewn perthynas ag unrhyw dir yng Nghymru, gall yr awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o ddatblygiad anawdurdodedig o dan adran 113 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024.
Gall yr hysbysiadau hyn gynnwys amodau neu ofyn am waith neu ei gwneud yn ofynnol i dynnu unrhyw waith anawdurdodedig neu adfer tir i'w gyflwr blaenorol. Os na chydymffurfir â hysbysiad o ddatblygiad anawdurdodedig o fewn yr amserlen a bennwyd, mae gan yr awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru y pŵer i gymryd camau diffyg cyflawni, gan fynd i mewn i'r tir a gwneud y gwaith gofynnol eu hunain, gan adennill unrhyw gostau sy'n ofynnol gan y parti a gafwyd yn euog.
