Pwy sy'n penderfynu a rhoddir caniatâd neu ei wrthod a beth mae'n rhaid iddynt ei ystyried.
Cynnwys
Cyflwyniad
Yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru sy’n cael penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith.
Penderfyniadau gan yr awdurdod archwilio
Ar ddiwedd y cam archwilio, bydd yr awdurdod archwilio yn ysgrifennu adroddiad yn nodi ei gasgliadau, ei argymhellion a'i benderfyniad ynghylch a ddylid rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith.
Rhaid iddo hefyd ysgrifennu datganiad o'r rhesymau dros benderfynu caniatáu neu wrthod cais.
Mae gofyn i'r awdurdod archwilio wedyn rhoi gwybod i bobl wahanol am y penderfyniad, fel yr ymgeisydd a'r awdurdodau cynllunio.
Os bydd yn penderfynu y dylai cydsyniad seilwaith gael ei roi, rhaid rhoi gwybod i Weinidogion Cymru iddynt allu gwneud gorchymyn i roi cydsyniad.
Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru
Ar ddiwedd y cam archwilio, bydd yr awdurdod archwilio yn ysgrifennu ac yn cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru yn nodi ei gasgliadau ac argymhelliad a ddylai cydsyniad gael ei roi neu ei wrthod, ynghyd â datganiad o'r rhesymau dros yr argymhelliad. Ni fydd adroddiad yr Awdurdod Archwilio yn cael ei gyhoeddi ar yr adeg hon a bydd y cynnwys yn aros yn gyfrinachol nes bod penderfyniad terfynol y Gweinidogion yn cael ei gyhoeddi.
Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried yr adroddiad ac yn penderfynu ar y cais SIP. Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i wahanol bobl am y penderfyniad, fel yr ymgeisydd a'r awdurdodau cynllunio. Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymeradwyo'r cais SIP, byddant yn gwneud gorchymyn yn rhoi'r cydsyniad seilwaith. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi'r gorchymyn, ac yn gosod gerbron y Senedd gopi o'r Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith ynghyd â datganiad o'r rhesymau dros roi'r gorchymyn.
Ystyriaethau
Wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, rhaid i'r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (pwy bynnag sy'n gwneud y penderfyniad) wneud eu penderfyniad yn unol â'r canlynol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall:
- unrhyw ddatganiad polisi seilwaith perthnasol
- fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru (lle bo hynny'n berthnasol)
- unrhyw Gynllun Morol perthnasol
Rhaid iddynt hefyd roi sylw i faterion eraill, gan gynnwys:
- unrhyw adroddiad a gyflwynwyd ar yr effaith leol neu ar y môr
- pa mor ddymunol yw lliniaru ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd
- ystyriaethau perthnasol eraill
Herio penderfyniad
Unwaith y bydd yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad, mae'n derfynol. Dim ond trwy hawlio adolygiad barnwrol trwy'r llysoedd y gellir herio'r penderfyniad.
