Eglura beth yw prosiectau seilwaith arwyddocaol a sut mae'r broses gais yn gweithio.
Cynnwys
Beth yw prosiectau seilwaith arwyddocaol (SIP)
Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 ("y Ddeddf") yn nodi'r broses i gael cydsyniad ar gyfer prosiectau seilwaith mawr ym meysydd ynni, trafnidiaeth, dŵr, dŵr gwastraff a gwastraff.
Gelwir y prosiectau hyn yn Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol ("SIPs"). Ymhlith yr enghreifftiau o'r prosiectau hyn y mae:
- Gorsafoedd cynhyrchu ynni gwynt, solar ac ynni arall ar raddfa fawr;
- Llinellau trydan uwchben;
- Cynlluniau priffyrdd mawr;
- Cyfleusterau nwy naturiol hylifol;
- Cyfleusterau trin gwastraff peryglus;
- Rheilffyrdd neu gyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd.
Er mwyn i'r prosiectau hyn gael eu hystyried yn SIP, rhaid iddynt fod yn brosiectau o faint penodol fel y nodir yn Rhan 1 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ddod â phrosiectau eraill i'r broses gydsynio seilwaith hon.
Bydd angen cydsyniad seilwaith gan Weinidogion Cymru ar bob SIP, yn hytrach na chaniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.
Pan fo un o Weinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cydsyniad i SIP, bydd hyn yn cael ei wneud drwy Orchymyn Cydsyniad Seilwaith ("ICO").
Gall ICO gynnwys cydsyniadau a thrwyddedau eraill megis cymeradwyaeth i gaffael tir yn orfodol. Bydd yr ICO yn nodi manylion y datblygiad a gafodd gydsyniad ac unrhyw ofynion y mae'n rhaid eu bodloni wrth weithredu'r cydsyniad (yn debyg i amodau cynllunio).
Partïon allweddol yn y broses ymgeisio am SIP
Rhaid cyflwyno ceisiadau i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Mae PEDW yn prosesu ac yn archwilio'r ceisiadau hyn ar ran Gweinidogion Cymru ac fe'u gelwir yn yr Awdurdod Archwilio.
Ar ôl derbyn cais SIP dilys, bydd PEDW yn penodi un neu fwy o Arolygwyr Cynllunio i archwilio'r cais a'r dystiolaeth gan yr holl randdeiliaid.
Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol yn seiliedig ar adroddiad gan yr Arolygydd sy'n gwneud casgliadau ac yn argymell a ddylid rhoi cydsyniad seilwaith ai peidio.
Cynnwys y gymuned
Fel rhan o'r broses gydsynio, mae PEDW yn cydnabod efallai na fydd pobl leol yn aml yn ymwneud â phrosiectau arfaethedig sy'n debygol o effeithio arnynt. Mae ein canllaw hygyrch i ymgysylltu â'r broses yn esbonio sut a phryd y gall pobl gymryd rhan.
Awdurdodau cynllunio perthnasol
Mae unrhyw awdurdod cynllunio lle mae rhan o'r safle yn dod o fewn ei ardal yn 'awdurdod cynllunio perthnasol' at ddibenion y cais SIP. Efallai y bydd mwy nag un awdurdod cynllunio perthnasol fesul cais. Er nad oes ganddynt gyfrifoldeb am benderfynu ar geisiadau SIP, rhaid i bob awdurdod cynllunio perthnasol baratoi Adroddiad ar yr Effaith Leol (LIR) i helpu'r Awdurdod Archwilio i ddeall effeithiau'r datblygiad ar yr ardal leol.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Pan fo'r datblygiad arfaethedig yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal forol Cymru, rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru baratoi Adroddiad Effaith ar y Môr (MIR) i helpu'r Awdurdod Archwilio i ddeall effeithiau'r datblygiad ar yr amgylchedd morol. Maent hefyd yn ymgynghori ar achosion ar dir sydd ag effeithiau amgylcheddol posibl gan gynnwys tirwedd, ecoleg a llifogydd.
Camau allweddol yn y broses ymgeisio ar gyfer SIP
Cam 1: Cyn ymgeisio
Mae'r camau canlynol yn ddewisol (yn ôl disgresiwn y datblygwr):
- Cyfarfodydd cychwynnol rhwng yr Ymgeisydd a PEDW i drafod y broses.
- ymgysylltu cyn ymgeisio â PEDW, awdurdodau cynllunio a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Ystyriaethau o ran Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) Gwaith Sgrinio a / neu Gwmpasu (lle bo'n berthnasol).
- Mae'r datblygwr yn cyflwyno hysbysiad o fwriad i gyflwyno cais am SIP ac yn cael hysbysiad bod y cais wedi cael ei dderbyn gan PEDW (o fewn 14 diwrnod).
- Ymgynghoriad statudol cyn ymgeisio gan y datblygwr am gyfnod o 42 diwrnod o leiaf.
- Y datblygwr yn paratoi Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC) i'w gyflwyno gyda'r cais.
Mae'r camau canlynol yn ofynion cyfreithiol:
Cam 2: cyflwyno'r cais a gwiriadau ar ôl derbyn y cais
- Mae'r datblygwr yn cyflwyno cais ynghyd â dogfennau ategol o fewn 18 mis i'w hysbysiad cyn ymgeisio gael ei dderbyn.
- Mae PEDW yn cynnal gwiriadau dilysu, gyda'r nod o'u cwblhau o fewn 4 wythnos ar gyfer ceisiadau heb Ddatganiad Amgylcheddol (ES) neu 6 wythnos ar gyfer ceisiadau gydag ES.
Cam 3: archwiliad
- Os yw'r cais yn ddilys, mae PEDW yn penodi un neu fwy o Arolygwyr, ac yn cyhoeddi ac yn ymgynghori am gyfnod o 5 wythnos o leiaf ("y cyfnod ar gyfer sylwadau").
- Mae awdurdodau cynllunio perthnasol yn paratoi LIR ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi MIR (lle bo'n berthnasol) a'u cyflwyno erbyn y dyddiad cau penodol.
- Gall y datblygwr geisio amrywiadau i'w gais yn ystod y cyfnod archwilio.
- Mae gan yr Awdurdod Archwilio 28 diwrnod i benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer yr Archwiliad. Gall hyn gynnwys sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad, neu gyfuniad o'r tri.
- Gofynnir am unrhyw wybodaeth bellach gan yr arolygydd, a chynhelir unrhyw wrandawiadau ar bwnc penodol neu wrandawiadau llawr agored.
- Mae'r Arolygydd penodedig yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn ysgrifennu adroddiad i argymell a ddylid rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith, sy'n cael ei gyflwyno i Weinidog Cymru i'w ystyried a gwneud penderfyniad.
Cam 4: penderfyniad
- Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ar y cais a chyflwynir y penderfyniad.
- Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi a'i anfon at yr ymgeisydd, partïon allweddol ac unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael gwybod am y penderfyniad
