Neidio i'r prif gynnwy

Gwella’r fioamrywiaeth ar hen domen wastraff, creu parc natur ac uwchgylchu beiciau nad oes eu heisiau yw rhai o’r prosiectau a fydd yn elwa ar fwy na £700,000 o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dewiswyd cyfanswm o 16 o brosiectau ym mhob cwr o Gymru yn y trydydd cylch cyllido dan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS).

Mae’r cynllun, sy’n cael ei reoli gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru (CGGC), yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau lleol sy’n werth rhwng £5,000 a £50,000.

Sefydlwyd y cynllun er mwyn helpu gyda phrosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan waith gwaredu sbwriel mewn safleoedd tirlenwi, gan wneud iawn am rai o’r effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â byw ger safle tirlenwi.

Mae’nc ae lei ariannu gan y Dreth ar Warediadau Tirlenwi yng Nghymru, a gyflwynwyd yn lle Treth Dirlenwi’r DU ym mis Ebrill 2018.

Treth ar waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n cael ei chodi yn ôl pwysau.

Bydd prosiectau llwyddiannus a fydd yn canolbwyntio ar wella’r amgylchedd, bioamrywiaeth a bywyd gwylalt, a hefyd ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff, yn cael hyd at £50,000 yr un.

  • Dyma rai o’r prosiectau a fydd yn elwa ar y cyllid:
  • Bydd Groundwork Gogledd Cymru yn cael £49,800 i wella’r fioamrywiaeth ar fan agored cyhoeddus a grëwyd o’r hen domen sbwriel yng Nglofa Plas Power ger Wrecsam.
  • Bydd Innovate Trust yn cael £49,000 i helpu oedolion ag anableddau dysgu i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a fydd yn gwella’r fioamrywiaeth ar fannau gwyrdd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
  • Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn cael £32,000 i wella rhan o Gomin Merthyr a Gelli-gaer sydd wedi dioddef cryn dipyn oherwydd effeithiau tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Bydd Llyn Parc Mawr yn elwa ar £46,700 er mwyn creu parc natur at ddibenion bioamrywiaeth a llesiant ar Ynys Môn.
  • Bydd Refurbs Sur y Fflint yn cael bron £50,000 er mwyn achub ac anewyddu beiciau nad oes eu heisiau ac a fyddai, fel arall, yn cael eu gwaredu fel gwastraff, fel y bo modd eu gwerthu am bris y gall pobl ei fforddio.

Gellir cyflwyno ceisiadau dan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn ystod dau gyfnod cyllido bob blwyddyn, a bydd modd cyflwyno ceisiadau dan y pedwerydd cylch cyllido tan 13 Ionawr. Bydd pumed cylch cyllido yn dechrau yn y gwanwyn.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Bydd y prosiectau a fydd yn llwyddo i gael cyllid yn dod â budd i gymunedau ledled Cymru. Byddan nhw nid yn unig yn hybu bioamrywiaeth ac yn gwella’r amgylchedd lleol, ond byddan nhw hefyd yn helpu grwpiau lleol i fwynhau’r awyr agroed a lleihau gwastraff a fyddai, fel arall, yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:

Rwy’n falch i weld Treth Gwarediadau Tirlenwi yn cefnogi mwy o brosiectau ardderchog. Bydd manteision y cynllun hwn yn cael eu profi am genedlaethau i ddod a hoffwn i annog pobl eraill sy’n gymwys i wneud cais am gyllid cyn i’r cylch cyllido ddod i ben yn ddiweddarach yn y mis.

Dywedodd Catherine Miller, Rheolwyr Cronfeydd Grant CLlLC:

“Mae prosiectau a gafodd gyllid yn 2018-19 eisoes wedi gwneud cyfraniadau enfawr i’r amgylchedd ar draws Cymru. Rydyn ni’n edrych ’mlaen yn fawr i weld yr hyn a fydd yn cael ei gyflawni drwy’r gweithgarwch cymunedol a fydd yn digwydd, diolch i’r cylch diweddara’ hwn o ddyfarniadau, ac yn edrych ’mlaen hefyd at weld yr effaith gadarnhaol bydd y grantiau hyn yn ei chael ar yr amgylchedd.”