Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu i blant o deuluoedd incwm isel yng Nghymru yn ystod gwyliau’r ysgol, hyd nes hanner tymor mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd estyn y ddarpariaeth hon yn cefnogi teuluoedd incwm isel trwy’r argyfwng costau byw, gan y bod disgwyl i brisiau ynni a chostau eraill godi dros y gaeaf.

Bydd £11m yn cael ei ddarparu er mwyn ariannu’r cymorth hwn, mewn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru.

Yn Ebrill 2020, Cymru oedd y gyntaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig i sicrhau prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys yn ystod gwyliau’r ysgol, ac mae wedi cynnal y ddarpariaeth ers hynny. Mae awdurdodau lleol unigol yn pennu sut i weinyddu’r ddarpariaeth prydau am ddim, naill ai drwy greu ciniawau neu ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd

Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu i ddosbarthiadau cyfan o blant cynradd yng Nghymru o’r tymor hwn, fel rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl blant cynradd yng Nghymru erbyn 2024.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall gwyliau ysgol fod i deuluoedd, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw. Fel llywodraeth, rydym yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i gefnogi teuluoedd sydd ei angen fwyaf.

"Yn ystod y pandemig, arweiniodd Cymru'r ffordd drwy fod y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig in darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, gyda chefnogaeth buddsoddiad o dros £100 miliwn hyd yma.

"Gall darparu prydau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol wneud byd o wahaniaeth i deuluoedd sydd angen cefnogaeth ychwanegol, yn enwedig wrth i'r gaeaf agosáu. Rwy'n falch ein bod yn gallu ymestyn y gefnogaeth hon, wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ysgafnhau'r baich i deuluoedd trwy'r argyfwng costau byw."

Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:

"Mae'r argyfwng costau byw yn gwaethygu, ac mae teuluoedd yn poeni'n fawr am yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i gefnogi teuluoedd ar hyn o bryd, yn enwedig y rhai y mae costau cynyddol yn effeithio fwyaf difrifol arnynt. Yn ogystal â'n hymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod pob plentyn cynradd yn cael pryd ysgol am ddim, bydd y cymorth estynedig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd incwm isel yn ystod gwyliau'r ysgol.

"Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnig cefnogaeth sy’n fawr ei angen i deuluoedd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."