Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon ynglŷn â Bil newydd a allai olygu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru na’r Senedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae wedi rhybuddio hefyd y gallai arwain at ostwng safonau, ac ansicrwydd i bobl a busnesau.

Cafodd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe.

Mae'r Bil yn cynnwys cyfres o bwerau eang a fyddai'n caniatáu i Weinidogion Llywodraeth y DU newid neu ddileu corff enfawr o gyfreithiau mewn meysydd datganoledig sy’n deillio o’r cyfnod pan oedd y DU yn aelod o’r UE – a’r cyfan bron wedi’u cytuno gan Lywodraethau blaenorol y DU. Mae'r amserlenni a osodir gan y Bil yn golygu bod perygl gwirioneddol y gallai cyfreithiau ac amddiffyniadau allweddol ddiflannu ar ddiwedd 2023.

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at Jacob Rees-Mogg, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn gynharach yr wythnos hon i amlinellu ei bryderon am y ddeddfwriaeth, ac i bwysleisio'r angen am ddull gwahanol.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

"Fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd, gallai'r ddeddfwriaeth hon olygu bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael awdurdod dilyffethair i ddeddfu mewn meysydd datganoledig – a hynny’n groes i'r setliad datganoli a sefydlwyd yn ddemocrataidd.

"Mae hefyd yn peri risg o ostwng safonau mewn meysydd pwysig gan gynnwys cyflogaeth, iechyd a'r amgylchedd.

"Rydym yn siomedig bod y Bil wedi cyrraedd y cam hwn gyda chyn lleied o drafod â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i agweddau pwysicaf, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau'r newidiadau deddfwriaethol a fydd yn sicrhau bod statws cyfansoddiadol a setliad datganoli Cymru yn cael eu parchu a'u cadw."