Neidio i'r prif gynnwy

Mae cartref eich breuddwydion yn agosach nag ydych chi’n meddwl gyda chynllun Cymorth i Brynu - Cymru

Mae'r cynllun hwn yn gwneud perchentyaeth yn fwy hygyrch a fforddiadwy drwy:

  • Ddarparu benthyciad di-log i chi am y 5 mlynedd gyntaf (hyd at 20% o werth yr eiddo)
  • Dim ond 5% o flaendal sydd ei angen gennych chi
  • Yna byddwch yn cymryd morgais ar gyfer y 75% sy'n weddill

Pwy all wneud cais ar gyfer Cymorth i Brynu - Cymru?

Mae'r cynllun ar gael ar gyfer:

  • Unrhyw un sy'n byw yng Nghymru (unigolion, cyplau a theuluoedd)
  • Prynwyr tro cyntaf
  • Perchnogion tai presennol

Eisiau prynu eiddo a adeiledir o'r newydd a gwireddu eich breuddwydion am fod yn berchen cartref? Gallai Cymorth i Brynu - Cymru fod y cynllun addas i chi.

Manteision Cymorth i Brynu - Wales

Dim ond 5% o flaendal sydd ei angen

Prynwch eich cartref gyda morgais llai, hyd yn oed os mai dim ond 5% o flaendal sydd gennych.

Cyfraddau llog morgais is

Elwa ar gyfraddau gwell gan mai dim ond 75% o werth yr eiddo y bydd angen i chi fenthyca.

Benthyciad ecwiti di-log am bum mlynedd

Dim llog ar eich benthyciad ecwiti am y pum mlynedd gyntaf, gan leihau'r pwysau ariannol wrth i chi ymgartrefu yn eich cartref newydd.

Ad-dalu eich benthyciad ecwiti yn gynnar

Gallwch leihau'r hyn y mae arnoch ar unrhyw adeg drwy wneud y canlynol:

  • Talwch o leiaf 10% o werth cyfredol eich cartref
  • Neu talwch y swm llawn mewn un tro

Talwch eich benthyciad cyfan yn ôl o fewn y pum mlynedd gyntaf ac ni fyddwch yn talu llog.

Eisiau gwybod mwy?

Ewch i LLYW.CYMRU am fanylion llawn ac i wneud cais ar gyfer Cymorth i Brynu - Cymru.