Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cronfa sydd werth £10m y flwyddyn yn cynyddu i fod yn gronfa werth £105m dros dair blynedd, gyda'r nod o helpu i gyflenwi mwy o ofal cydgysylltiedig yn nes at y cartref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd hefyd yn help i adeiladu cartrefi i gynorthwyo pobl i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau, yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Rebecca Evans y Gweinidog Tai ac Adfywio a Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, yn ystod eu hymweliad â datblygiad gan Gynllun Tai a Gofal o dan adain Cynllun Gofal Ychwanegol ym Maesteg.

Bydd y Gronfa Gofal Integredig, a sefydlwyd i gefnogi integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai, yn cael hwb ariannol o £75 miliwn dros dair blynedd. Y nod yw adeiladu tai ar raddfa fwy, sy'n integreiddio gofal cymdeithasol ynghyd â dulliau arloesol eraill o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cyllid cyfalaf hwn yn ychwanegol at yr elfen refeniw o'r gronfa a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni, sydd yn £50 miliwn.

Bydd hyn yn cefnogi nodau “Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol” - sy'n cydnabod pa mor bwysig yw cael tai priodol, a'r effaith a gaiff hyn ar allu pobl i symud gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn nes at gymunedau.

Bydd y gronfa yn help i wella cynllunio hirdymor a chynyddu’r ffocws ar y modd y gall tai wneud gwahaniaeth i iechyd pobl.

Gall tai priodol helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth a darparu'r amgylchedd gywir i bobl sy'n gadael yr ysbyty, gan leihau'r achosion o oedi o ran rhyddhau cleifion. Mae modd iddo hefyd gefnogi pobl hŷn , pobl sydd â dementia, anableddau dysgu neu anghenion cymhleth, a galluogi'r gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu gofal mwy effeithiol iddynt. Gall hyn i gyd helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r gwasanaethau cymdeithasol i redeg yn fwy effeithiol.

Bu Rebecca Evans a Huw Irranca-Davies yn ymweld â safle Cynllun Gofal Ychwanegol Maesteg, lle mae datblygiad yn mynd rhagddo sy’n cynnwys byngalos, fflatiau gofal ychwanegol ac ystafelloedd gwely gofal preswyl ac ystod o gyfleusterau cymunol sy'n cynnwys ystafell fwyta, lolfa, ystafell golchi dillad, salon, ystafelloedd gweithgareddau a gerddi cymunol. Mae disgwyl y bydd y datblygiad wedi ei gwblhau ym mis Tachwedd a bydd yn darparu tai i bobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed yn yr ardal leol.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Mae'r cynnydd sylweddol hwn o ran cyllid yno i gael y gefnogaeth iawn i’r bobl sydd ei angen, p'un a ydynt yn bobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, pobol sydd ag anableddau dysgu, plant sydd ag anghenion iechyd cymhleth, neu'n ofalwyr.

“Rydym yn cydnabod pa mor bwysig y gallai tai fod i iechyd pobl. Efallai y gall y math o dai gefnogi pobl hŷn, sy’n ei chael hi’n anodd i wneud popeth drostynt eu hunain bellach.  Mae tai yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl - yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol, heb orfod mynd i gartref gofal neu i ysbyty er enghraifft.

“Bydd rhaglen tair blynedd yn caniatáu i fyrddau iechyd, cynghorau, cymdeithasau tai a chyrff eraill wneud gwaith cynllunio gofalus a rheoli prosiectau mwy i ddiwallu anghenion pobl yn lleol. Rwy'n edrych ymlaen at weld llawer mwy o brosiectau fel hyn yn dwyn ffrwyth.”

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Mae'r cynnydd sylweddol hwn yn mynd i helpu i gyflawni mwy o brosiectau sy'n rhoi cymorth i bobl fyw'r bywydau y maent am eu harwain, wrth ddiwallu eu hanghenion gofal iechyd, neu eu hanghenion gofal cymdeithasol.

“Yn bwysicach na hynny, bydd hefyd yn sicrhau bod modd rhyddhau pobl a rhoi'r gefnogaeth berthnasol iddynt pan nad oes angen gwely mewn ysbyty arnynt mwyach, sy'n rhyddhau adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Nid yw'r holl gyllid yn cael ei roi i gyflenwi prosiectau tai, ond byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu  gwasanaethau di-dor, gofal yn nes at y cartref a chynorthwyo pobl i fyw bywydau annibynnol.”