Neidio i'r prif gynnwy

£10m yn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn i'r gwasanaethau cymdeithasol allu cefnogi pobl yn eu cartrefi a'u cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn iddo wneud datganiad yn y Cynulliad yn hwyrach heddiw lle bydd yn rhoi diweddariad i Aelodau'r Cynulliad ynghylch y ffordd y mae GIG Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid yn rheoli pwysau'r gaeaf ar y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

"Mae iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi bod o dan bwysau sylweddol y gaeaf hwn, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae'n brawf o ymrwymiad a sgiliau staff bod y mwyafrif helaeth o’r bobl yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn ffordd sensitif, proffesiynol ac amserol. 

"Mae gofal cymdeithasol yn rhan fawr o'r gwaith o ddarparu gofal mor agos at gartrefi pobl â phosibl. Rwy'n cydnabod y bu'r gwasanaethau hyn o dan bwysau sylweddol dros y misoedd diwethaf. Gan gydnabod y galw, rwyf wedi penderfynu rhoi £10m yn ychwanegol i awdurdodau lleol fel bod modd i'r gwasanaethau cymdeithasol gefnogi pobl yn eu cartrefi a'u cymunedau."

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies:

"Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dibynnu'n fawr ar ei gilydd. Felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu buddsoddi'r £10m ychwanegol hwn yn ein gwasanaethau cymdeithasol er mwyn i lywodraeth leol allu parhau i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol o safon i bobl ledled Cymru.

"Rwyf am ddiolch i staff ein gwasanaethau cymdeithasol sy'n parhau i ddarparu gofal o safon yn ystod cyfnod sy’n dal i fod yn un hynod heriol.”

Mae'r buddsoddiad hwn yn cael ei roi ar ben y £10m ychwanegol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn gynharach eleni i gefnogi gwasanaethau'r rheng flaen i gymryd camau ar unwaith i helpu i wella gofal.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £60m y flwyddyn drwy'r Gronfa Gofal Integredig sy'n cael ei defnyddio i sicrhau bod mwy o ofal a chymorth yn cael ei roi i bobl yn eu cartrefi, gan helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac oedi wrth ryddhau o'r ysbyty.