Neidio i'r prif gynnwy

Cyflogaeth gynaliadwy yw'r ffordd orau allan o dlodi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod Cymunedau am Waith  a Mwy yw helpu pobl fel Jordan a oedd eisoes yn dilyn rhaglen Cymunedau am Waith, chwaer-raglen Cymunedau am Waith a Mwy, pan gafodd gyfres o drawiadau a'i gadawodd mewn coma am bedair wythnos. Roedd Jordan yn hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant adeiladu ac, er ei fod wedi gwella'n rhyfeddol oherwydd ei benderfyniad a'i ymrwymiad i'w raglen adsefydlu, nid yw wedi gwella ddigon i ymdopi â gofynion corfforol gwaith ar safle adeiladu.

Aeth y tîm Cymunedau am Waith   ati, felly, i'w gefnogi drwy gwrs Gweinyddu Busnes Lefel 2, a gwblhaodd ddim ond chwe wythnos ar ôl gadael yr ysbyty. Roedd hyn, ynghyd â'i hyfforddiant a'i brofiad blaenorol ym maes adeiladu, yn ddigon iddo gael swydd fel cynorthwy-ydd gweinyddu gydag ITS Construction yn swyddfa newydd y cwmni yn Abertawe.

Lansiodd y Gweinidog y cynllun, a fydd yn darparu gwasanaeth mentora a chymorth dwys i fynd i'r afael â'r rhwystrau cymhleth sy'n atal pobl rhag cael gwaith, wrth ymweld â Seion Newydd yn Nhreforys, lle roedd tîm Cymunedau am Waith a Mwy Cyngor Abertawe yn cynnal sesiwn galw heibio gymunedol.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cyfrannu at Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru sy'n ceisio cael gwared ar y bwlch yn y cyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio rhwng Cymru a'r cyfartaledd ar gyfer y DU o fewn deng mlynedd; lleihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant; cynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith; a dileu'r bwlch cymwysterau rhwng Cymru a gweddill y DU.

Dywedodd y Gweinidog:

“Cyflogaeth gynaliadwy yw'r ffordd orau allan o dlodi. Mae'r cynllun cyflogadwyedd y gwnes i ei lansio yn gynharach eleni yn cydnabod bod rhai pobl yn dod ar draws rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gwaith, a'i nod yw helpu'r rheini sydd bellaf o'r farchnad waith i mewn i fyd gwaith, gan edrych ar sefyllfa benodol pob unigolyn.

“Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn enghraifft berffaith o'r dull gweithredu hwn, gan gefnogi pobl i ddilyn hyfforddiant pellach neu ddarparu cyngor a chymorth ymarferol i helpu pobl i gyflawni'r hyn y bydden nhw'n dymuno ei wneud. Bydd y rhaglen yn adeiladu ar lwyddiant rhaglenni tebyg eraill sydd eisoes wedi dangos bod y dull hwn yn gweithio. Dw i wrth fy modd felly yn cael ei lansio'n swyddogol heddiw, a dw i'n edrych ymlaen at ei weld yn helpu llawer mwy o bobl i ddod o hyd i waith.”